CYNHYRCHYDD DATBLYGU CYNNWYS DIGIDOL
Mae Rondo yn chwilio am unigolyn blaengar, creadigol ac ysbrydoledig i arwain ar ddatblygu cynnwys digidol newydd. Bydd yr unigolyn yn adnabod cyfleoedd i ehangu’r ddarpariaeth ddigidol o fewn cynyrchiadau Rondo, yn ogystal ag adnabod cyfleoedd i bitsho, creu cynigion a chyflwyniadau i sicrhau gwaith newydd.
Bydd yr unigolyn yn arwain sesiynau creadigol ar draws y cwmni i ddatblygu syniadau digidol a digidol yn gyntaf. Mae angen dealltwriaeth glir o sut mae platfformau, crewyr a chynulleidfaeodd yn croesdorri ac yn dylanwadu ar ei gilydd. Bydd meithrin rhwydwaith gref a datblygu perthnasau gyda chrewyr cynnwys, comisiynwyr, brandia ac asiantaethau yn allweddol.
Bydd angen ymwybyddiaeth gadarn o dueddiadau digidol a sut mae ymddygiad cynulleidfaoedd yn newid, gan ddeall platfformau cyfredol a sut mae’r dechnoleg yn newid.
Bydd gofyn i’r unigolyn profiadol ddatblygu tim o ‘social natives, gan ddiffinio ymarfer da ac archwilio dulliau newydd o weithio, yn cynnwys adnabod
cyfleoedd masnachol i gydariannu a gwerthu cynnwys.
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn arwain y ffordd yn natblygiad cynnwys digidol arloesol Cymru.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.


