Cynorthwyydd Cyfathrebu (Lleoliad i raddedigion)

Teitl Swydd
Cynorthwyydd Cyfathrebu (Lleoliad i raddedigion)
Enw’r Cwmni
Cyfoeth Naturiol Cymru
Lleoliad
Hyblyg
Cyflog
£30,008 – £32,107 yf
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 19/04/2026

Lleoliad: Hyblyg
Gradd / Amrediad cyflog 3: £30,008 – £32,107
Patrwm gwaith: Llawn amser – 37 awr y wythnos
Math o gytundeb: Lleoliad i raddedigion
Dyddiad diwedd y contract: 31/08/2027
Lefel hyfedredd yn y Gymraeg A1 – Lefel mynediad
Dyddiad cau: 19/04/2026

Y rôl

Dechreuwch eich gyrfa ym maes cyfathrebu gyda ni a helpwch i gefnogi ein pwrpas o sicrhau bod pobl a natur yn ffynnu gyda’i gilydd yng Nghymru.

Mae hwn yn gyfle lleoliad gwaith i unigolion sydd wedi ennill cymhwyster graddedig yn ddiweddar (o fewn y 18 mis diwethaf) mewn disgyblaeth berthnasol, fel cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, cyfathrebu digidol neu farchnata.

Byddwch chi’n ein helpu i adrodd ein stori a gweithio tuag at gyflawni ein nodau llesiant fel bod natur yn gwella erbyn 2030, bod cymunedau yn gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn well, a bod llygredd yn cael ei leihau.

Byddwch yn cyfrannu drwy gyflwyno cyfathrebiadau clir ac effeithiol i gydweithwyr, rhanddeiliaid, newyddiadurwyr a’r cyhoedd. Mae’r rôl hon yn cynnwys cyfathrebu corfforaethol, perthynas â’r cyfryngau, cynllunio ymgyrchoedd a chreu cynnwys i’r cyfryngau cymdeithasol.

Byddwch yn cefnogi gwaith rhagweithiol ac adweithiol, gan gynorthwyo gydag ymholiadau fel y pwynt cyswllt cyntaf.

Byddwch yn gallu gweithio’n hyblyg—boed o gartref, yn un o’n swyddfeydd, neu ar leoliad. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref, a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno adeg eich penodi. 

Mae hwn yn gyfle ardderchog os ydych wedi graddio’n ddiweddar ac am ddysgu, datblygu a chyfrannu at waith ystyrlon sy’n fuddiol i bobl a’r amgylchedd naturiol. Cynigir y rôl am gyfnod penodol o 12 mis

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Yvonne Burson at yvonne.burson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal rhwyng 29 Ebrill – 1 Mai 2026 ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau. 

Amdanom ni

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru ac mae ein gwaith o warchod a gwella amgylchedd naturiol Cymru yn effeithio ar bopeth sydd bwysicaf – ein cymunedau, ein bywyd gwyllt, a’n dyfodol.

Rydym yn geidwaid dros 7% o dir Cymru, gan gynnwys Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, amddiffynfeydd rhag llifogydd, a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol. Ein dyletswydd ni yw mynd ar drywydd y gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Byddwch yn rhan o dîm cyfathrebu cyfeillgar a chefnogol sy’n gweithio’n gydweithredol ar draws y sefydliad.

Byddwch yn atebol i arweinydd y tîm cyfathrebu corfforaethol a chewch eich mentora gan weithwyr proffesiynol cyfathrebu profiadol a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau, eich hyder a’ch portffolio proffesiynol.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cynorthwyo i greu cynnwys deniadol a hygyrch ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd a sianeli, gan gynnwys diweddariadau mewnol, datganiadau i’r cyfryngau, postiadau cyfryngau cymdeithasol, a graffeg neu fideos syml.
  • Trosi syniadau ymgyrchoedd yn gynnwys cyfryngau cymdeithasol deniadol sy’n ysgogi ymgysylltiad.
  • Darparu cefnogaeth gyfathrebu a gweinyddol ar draws ymgyrchoedd, delio â’r cyfryngau, sianeli digidol, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
  • Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau newyddiadurwyr, gan sicrhau ymatebion amserol a chywir, a chynnal y log ymholiadau cyfryngau. Cefnogi’r gwaith o baratoi llinellau cyfryngau, briffiau a datganiadau i’r wasg.
  • Monitro cyfryngau traddodiadol a chymdeithasol am risgiau, cyfleoedd a thueddiadau, a chynhyrchu cynnwys ymatebol i sicrhau bod presenoldeb cymdeithasol CNC yn berthnasol.
  • Cyfrannu at y gwaith o werthuso ymgyrchoedd drwy lunio adroddiadau monitro a chymhwyso mewnwelediadau i wella ymgysylltiad a chyrhaeddiad. Helpu i gynnal adnoddau tîm megis gridiau cynllunio, rhestrau rhanddeiliaid, a data gwerthuso.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Cymhwyster graddedig mewn disgyblaeth berthnasol fel cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, cyfathrebu digidol, neu farchnata.
  2. Profiad ym maes cyfathrebu, cyfryngau, neu gysylltiadau cyhoeddus trwy gyflogaeth, gwaith gwirfoddol, neu astudiaeth.
  3. Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, gyda’r gallu i deilwra cynnwys ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd gan roi sylw cryf i fanylion.
  4. Hyder wrth ddefnyddio offer a phlatfformau digidol, gan gynnwys Microsoft Office, sianeli’r cyfryngau cymdeithasol, ac offer monitro cyfryngau.
  5. Sgiliau trefnu cryf gyda’r gallu i reoli blaenoriaethau lluosog a gweithio’n effeithiol o dan bwysau.
  6. Sgiliau rhyngbersonol da a dull sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, yn gallu cydweithio â chydweithwyr a rhanddeiliaid.
  7. Dealltwriaeth o gyfathrebu’r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys gofynion cyfathrebu dwyieithog a hygyrch.
  8. Y gallu i adlewyrchu gwerthoedd CNC: bod yn gysylltiedig, yn feiddgar, yn ofalgar, ac yn ddyfeisgar.
  9. Parodrwydd i ddysgu a datblygu, bod yn flaengar, a cheisio cyngor pan fo angen.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A1 – Lefel mynediad

Gofynion y Gymraeg

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cyfeirnod Swydd
204189

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.