Cynorthwyydd Profiad Cwsmeriaid : Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Cyflog: £24,309 – £25,249 +10% o Lwfans Shifftiau

Lleoliad: Caerdydd

Dyddiad cau: 4/12/25

rôl

Hoffai Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru benodi Cynorthwyydd Profiad Cwsmeriaid brwdfrydig ac amryddawn i gynorthwyo’r Rheolwr Profiad Cwsmeriaid i ddarparu cymorth Blaen y Tŷ defnyddiol a chyfeillgar sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, ar draws ein derbynfeydd a’n swyddfeydd tocynnau i aelodau o’r cyhoedd, cydweithwyr a myfyrwyr.   Bydd y rôl amrywiol hwn yn cwmpasu pob agwedd ar Weithrediadau Blaen y Tŷ, gan gynnwys gosod ystafelloedd ar gyfer llogi masnachol a gweithgareddau’r coleg a chymorth diogelwch.

Fel Cynorthwyydd Profiad Cwsmeriaid, byddwch yn gweithio ar draws ein safleoedd i ddarparu gwasanaeth gwybodaeth proffesiynol, cyfeillgar a chroesawgar gan ddefnyddio eich sgiliau cyfathrebu rhagorol fel rhan o dîm bach Gweithrediadau Blaen y Tŷ. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio oriau afreolaidd gyda’r nos ac ar y penwythnos fel y bo’n ofynnol.  Mae sgiliau sgwrsio Cymraeg yn hanfodol, a bydd hyfforddiant iaith Gymraeg pellach yn cael ei ddarparu ar ôl i chi gael eich penodi.

Mae hon yn swydd lawnamser barhaol. Rydym yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol a hawl i wyliau blynyddol hael. Dewch i ddarganfod beth yw manteision gweithio gyda ni.

Os byddwch chi’n ymgeisydd llwyddiannus, a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Coleg, byddwch chi’n cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, sef is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i Brifysgol De Cymru ac sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a’r Coleg.  Os ydych chi’n ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.  Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, cysylltwch â hradviser@southwales.ac.uk .

Cysylltwch â’r Pennaeth Gweithrediadau i gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon – leigh.kirk-harris@rwcmd.ac.uk

Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais cliciwch ar y ddolen isod.

Ymgeisiwch ar-lein

Sut i wneud cais