Cynorthwyydd Swyddfa Meddygol
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Ysgrifenyddol Cofnodion Iechyd Felindre, sy’n ehangu.
Fel Cynorthwyydd Ysgrifenyddol, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr i ysgrifenyddion meddygol sy’n rhan o’ch tîm, a gweithio yn eu lle pan fo angen yn ystod cyfnodau o wyliau blynyddol, absenoldeb ac i lenwi swyddi gwag.
Prif ddyletswyddau’r swydd
Bydd angen i chi sicrhau bod yr holl deipio clinigol arferol yn cael ei gwblhau’n gywir ac yn amserol, a darparu gwasanaeth a chefnogaeth ysgrifenyddol llawn a chynhwysfawr i’r ymgynghorwyr, clinigwyr ac ysgrifenyddion meddygol, pan fo angen.
Bydd gofyn i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth a gohebiaeth glinigol arferol yn gyfredol ac ar gael hefyd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
