Cynorthwyydd Tîm yr Amgylchedd

Teitl Swydd
Cynorthwyydd Tîm yr Amgylchedd
Enw’r Cwmni
Cyfoeth Naturiol Cymru
Lleoliad
Dolgellau – Coed y Mynydd
Cyflog
£26,861 – £27,910
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 21/09/2026

Y rôl

Yn CNC, mae Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy wrth wraidd popeth a wnawn. A chithau’n Gynorthwyydd yn Nhîm yr Amgylchedd, byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cyflawniad gwaith sy’n amddiffyn ac yn gwella amgylchedd naturiol Cymru, gan helpu i wella llesiant cymunedau ym mhob cwr o’r wlad ar yr un pryd.

Gan weithio yn rhan o dîm ymroddedig, byddwch yn helpu i sicrhau bod cyfrifoldebau rheoleiddio CNC yn cael eu cyflawni’n effeithiol, gan ddarparu cefnogaeth weinyddol a gweithredol hanfodol sy’n galluogi gwelliannau amgylcheddol ar lawr gwlad. Byddwch yn gweithio gydag ystod eang o gydweithwyr, cwsmeriaid a phartneriaid, gan gyfrannu at ganlyniadau ystyrlon i bobl, lleoedd a byd natur.

Dyma gyfle gwych i rywun sy’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd cydweithredol, sydd â sgiliau trefnu rhagorol, ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i adnoddau naturiol Cymru a chenedlaethau’r dyfodol.

Mae gyrru yn hanfodol i’r rôl hon. Bydd angen helpu i reoli’r cerbydau fflyd a gyrru i gyfarfodydd. Mae’n rhaid i chi ddal trwydded yrru lawn a chyfredol y DU.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Arfon Hughes at Arfon.Hughes@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau’n wyneb i wyneb ar 16/09/2026 (bydd manylion lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)

Amdanom ni

Mae Tîm yr Amgylchedd – Dwyfor a Meirionnydd, Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’i leoli yn Nolgellau, ac yn gyfrifol am gyfran sylweddol o ogledd-orllewin Cymru. Mae’r tîm yn ymgymryd â gwaith ar wella ansawdd dŵr, adnoddau dŵr a safleoedd gwarchodedig. Yn ogystal, rydym yn chwarae rhan allweddol wrth reoli digwyddiadau yn ein cylch gwaith.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cefnogi’r gwaith integredig o gyflawni swyddogaethau fel tîm ac fel lle gan gynnwys casglu gwybodaeth gymhleth am gydymffurfio â rheoliadau a gorfodi, cydlynu ymatebion a gweinyddu rotâu ymateb i ddigwyddiadau.
  • Meddu ar neu ddatblygu gwybodaeth am brosesau fel casglu tystiolaeth, gweinyddu cronfeydd data neu bennu ceisiadau syml am drwydded, sy’n cefnogi gwaith y tîm neu’r lle.
  • Ymateb i ymholiadau sylfaenol gan gwsmeriaid a sicrhau bod ymholiadau mwy cymhleth yn cael eu cofnodi a’u trosglwyddo i staff perthnasol.
  • Cefnogi a phrosesu ceisiadau caffael ar gyfer y tîm neu’r lle i sicrhau bod offer priodol ar gael ac yn cael ei gynnal yn unol â gweithdrefnau.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau. 
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Dealltwriaeth dda o gylch gwaith rheoleiddio CNC.
  2. Sgiliau trefnu da.
  3. Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â chwsmeriaid a phartneriaid mewnol ac allanol.
  4. Y gallu i weithio’n dda fel aelod o dîm.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: C1 – Lefel hyfedredd

Gofynion y Gymraeg

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r Gofynion y Gymraeg y rôl hon ni fydd eich cais yn cael ei ei adolygu.

Gwybodaeth ychwanegol

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau. 

Oni nodir yn wahanol yn yr adran ‘Rôl’ yn yr hysbyseb hon, ni all Cyfoeth Naturiol Cymru gynnig nawdd fisa ar gyfer y swydd hon. Er bod gennym drwydded ar gyfer nawdd fisa i Weithwyr Medrus, mae ond yn berthnasol i rolau penodol sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra a’r gofynion cyflog a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y llwybr fisa i Weithwyr Medrus. 

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Cyfeirnod Swydd
200219

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y botwm “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.