Dadansoddydd Data
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon
Pam ymuno ag S4C?
Yn S4C, rydym yn angerddol dros greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â S4C gan gyfrannu at ddyfodol sy’n ysbrydoli, diddanu ac adlewyrchu Cymru ar ei gyfan wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd – S4C – Mwy na Sianel Deledu – wrth ehangu’n gwylio gyda’n cynnwys ac yn datblygu’n gwasanaeth Digidol yn Gyntaf.
Trosolwg o’r Swydd
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â S4C a’r tîm Ymchwil Cynulleidfa ar adeg hollbwysig yn hanes y gwasanaeth wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd, S4C – Mwy na Sianel Deledu.
Mae S4C yn cyhoeddi cynnwys yn ddyddiol ar draws llwyfannau darlledu, digidol a chyfryngau cymdeithasol, gan gyrraedd cannoedd ar filoedd o bobl yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n hanfodol i S4C ein bod yn deall ymwneud ac ymddygiad ein cynulleidfa ar draws yr holl lwyfannau yma.
Mae ein ffocws yn gynyddol ar ddefnyddio dulliau gwyddor a dadansoddi data i archwilio a chryhnoi ein holl ddata, sydd o faint sylweddol, er mwyn mesur a deall yr holl ddefnydd fesul llwyfan.
Fel Dadansoddydd Data byddwch yn datblygu a chynnal dadansoddiadau pwrpasol a fydd yn gwneud y defnydd gorau o’n holl ddata manwl, gan ddefnyddio eich sgiliau basdata a chodio. Bydd eich gwaith dadansoddi a dehongli yn dylanwadu yn fawr ar ein strategaeth ddigidol, gan sicrhau bod datblygiad cynnwys a chyhoeddi yn cydfynd â thueddiadau ac anghenion cynulleidfaoedd heddiw ac i’r dyfodol.
Byddwch yn defnyddio data a mewnwelediad arbenigol i ragweld newidiadau yn sut mae gwylwyr yn dewis ymwneud â chynnwys S4C ar draws pob llwyfan. Byddwch yn cydweithio gyda nifer o dimau ar draws S4C sydd yn ddibynnol ar gael data perthnasol am sut mae cynulleidfaoedd yn ymateb i’n cynnwys ar draws holl gynnwys digidol cyfresi ac is-frandiau S4C.
Byddwch yn adrodd i’r Pennaeth Ymchwil o fewn Adran Gyfathrebu a Marchnata S4C.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Fel Dadansoddydd Data byddwch yn:
- Dadansoddi a chrynhoi data am gynulleidfa holl weithgareddau S4C ar draws llwyfannau darlledu, digidol a chyfryngau cymdeithasol.
- Cynorthwyo i gynllunio a chynnal storfeydd data addas ar gyfer holl data cynulleidfa S4C, gan gydweithio efo adrannau cynnwys a thechnegol S4C i adnabod eu anghenion.
- Llunio a chynnal rhaglenni cyfrifiadurol sy’n lawrlwytho data pwrpasol a pherthnasnol o gronfeydd data, gan sicrhau fod y data yn gyflawn ac yn lân.
- Treiddio yn fanwl i fewn i’r data – a wedyn cyfleu’r stori tu ôl i’r data a’r gwybodaeth, a chynnig argymhellion clir ar sail hyn.
- Defnyddio eich arbenigedd data i egluro a chynghori gwahanol adrannau cynnwys S4C am eu perfformiad traws-lwyfannol.
- Edrych yn benodol ar ddata Clic, iPlayer a chyfryngau cymdeithasol a chreu adroddiadau fydd yn gallu bwydo i mewn i benderfyniadau comisiynu, marchnata, hyrwyddo a masnachol ar draws S4C.
- Defnyddio ieithoedd cyfrifiadurol cydnabyddedig fel SQL, R neu Python, yn ogystal a phecynnau fel Google Analytics, i ddadansoddi ymddygiad ar-lein defnyddwyr mewn manylder.
- Delio gydag ymholiadau cyffredinol amrywiol – er enghraifft, ffigyrau am ymddygiad ein gwahanol gynulleidfaoedd ar deledu ac ar-lein, newidiadau dros amser, a bod yn ymwybodol o ddatblygiadau yn y maes.
Byddwch yn llwyddo yn y rôl hon os oes gennych:
- Y gallu a’r sgiliau i ddeall meysydd digidol a chyfryngau cymdeithasol yn drwyadl.
- Profiad ymarferol o ddefnyddio iaith data (e.e. SQL, R, Python neu debyg).
- Yr awydd i chwilio am ffyrdd arloesol i weithredu, a mwynhau newid trawsnewidiol.
- Profiad o ddadansoddi data meintiol o fasdata mawr.
- Y gallu i weithio’n annibynnol gyda rhyddid i wneud penderfyniadau ond hefyd yn mwynhau cydweithio gyda tîm ehangach i rannu syniadau.
- Y chwilfrydedd i fesur ac adrodd ar berfformiad ac ymddygiadau’r gynulleidfa.
- Diddordeb ac ymwybyddiaeth am ddatblygiadau cyfoes ym maes y cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau gwylio cynnwys, a’r byd darlledu ehangach.
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg (cymorth gloywi iaith ar gael).
Yn ystod tri mis cyntaf fydd disgwyl i chi…
- Deall yr ystod eang o ddata cynulleidfa sydd ar gael yn S4C ar yr ochr ddigidol a chyfryngau cymdeithasol.
- Defnyddio iaith data (e.e. SQL, R, Python neu debyg) yn hyderus wrth wneud eich gwaith.
- Llwyddo i ddadansoddi ac adrodd ar berfformiad cynnwys digidol a chyfryngau cymdeithasol yn gywir a dealladwy.
Byddwch hefyd yn:
- Ymwybodol o strategaeth newydd S4C – Mwy na Sianel Deledu, a sicrhau eich bod yn cymryd cyfrifoldeb personol i ddilyn ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn ôl y gofyn sy’n cynnwys gweithio o fewn canllawiau Iechyd a diogelwch, amrywiaeth a chynhwysiant, gwarchod data, canllawiau ariannol ac yn y blaen.
- Cyfrannu mewn ffordd bositif tuag at ddiwylliant a chyflawni strategaeth S4C.
- Cyfrannu at a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
- Cydweithio gyda’ch rheolwr llinell a bod yn rhagweithiol wrth reoli a datblygu eich perfformiad eich hun.
- Sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd gadarnhaol, gydweithredol, draws-sefydliadol, sy’n datblygu gwasanaethau gwych i’n gwylwyr ar bob platfform ac yn sicrhau amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysfawr sy’n trin pawb gyda pharch.
Beth fyddwch chi’n ei gael?
- Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn sefydliad sy’n gwerthfawrogi pobl.
- Mae S4C yn ymrwymo i dwf personol ei gweithwyr, gan gynnig cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad cynhwysfawr i wella sgiliau a hyrwyddo gyrfaoedd. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant mewnol, a rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus lle’n briodol.
- Mynediad at gyfleoedd unigryw yn y sector creadigol a chyfryngau gan gynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau a rhagolwg rhaglenni, trafodaethau panel a diweddariadau mewnol.
- Mae gan weithwyr y cyfle unigryw i gyfrannu at hybu a chadw iaith a diwylliant Cymru drwy eu gwaith.
- Cynllun Pensiwn Personol Grŵp gyda 10% yn cael ei gyfrannu gan S4C.
- 26 diwrnod o wyliau yn cynyddu yn raddol hyd at 32 diwrnod ymhen 9 mlynedd.
Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn.
Manylion pellach
Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 ddiwrnod mewn swyddfa).
Cyflog: £40,000.00 y flwyddyn
Cytundeb: 12 mis
Oriau gwaith: 35¾ awr yr wythnos.
Cyfnod Profi: Rhaid i bawb a benodir gan S4C gwblhau cyfnod profi 3 mis er mwyn adolygu perfformiad, ymddygiad a mynychder. Mae S4C yn cadw’r hawl i derfynu contract yn ystod y cyfnod profi, gydag wythnos o rybudd.
Gwyliau: Yn ychwanegol at wyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau blynyddol a thâl.
Pensiwn: Mae gan aelodau o staff sydd wedi’u cyflogi yr hawl i ymuno â Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, mewn cyd-destun telerau unrhyw gynllun presennol sydd wedi cael ei addasu o bryd i’w gilydd. Os ydych yn dod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r rôl, fel arfer yn y Deyrnas Unedig.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Mawrth 14 Gorffennaf 2026 at Pobl@s4c.cymru neu at Adran y Bobl a Diwylliant, S4C, Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Ni fydd CV yn cael eu derbyn.
Dyddiad cyfweliad: 23 Gorffennaf 2026, Lleoliad i’w gadarnhau
Defnyddio AI
Os ydych chi’n dewis defnyddio AI neu offer tebyg, gwnewch yn siŵr bod eich ymatebion yn fanwl gywir, yn onest ac yn adlewyrchu’ch profiad a’ch geiriau eich hun. Gall ceisiadau nad ydynt yn wreiddiol neu sydd wedi’u cynhyrchu gan AI gael eu gwrthod.
Yn ystod y cyfweliad, ni chaniateir defnyddio AI nac offer recordio, oni bai bod hynny wedi’i gytuno ymlaen llaw ar sail hygyrchedd. Gall unrhyw dystiolaeth o ddefnydd heb ganiatâd arwain at dynnu’ch cais yn ôl.
Cyfleoedd Cyfartal a Amrywiaeth
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu yn seiliedig ar ryw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu gefndir economegol cymdeithasol, oedran, statws teulu, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, cyflogwyr ran-amser neu llawn-amser, crefydd, gwleidyddiaeth, tuedd rhywiol, ail-ysgrifennu rhyw, beichiogrwydd a mamolaeth, defnyddio iaith (ac eithrio lle mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd) neu unrhyw wahaniaeth amhriodol arall, ac mae wedi ymrwymo i ystyried amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.
Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau swydd gan grwpiau efallai dan-gynrychiolir, gan gynnwys merched, pobl dduon ac ethnig prin a phobl ag anableddau. Mae egwyddorion cystadleuaeth agored a theg yn cael eu gweithredu ac mae penodiadau yn cael eu penderfynu ar sail merthyr.
Sgiliau Cymraeg
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Rydym yn falch o fod yn ddarlledwr Cymraeg ac rydym yn disgwyl i holl aelodau’r tîm werthfawrogi a pharchu’r iaith a’r diwylliant. Rydym yn cefnogi ac yn annog dysgu Cymraeg yn y gweithle, ac rydym yn chwilio am rywun sy’n agored i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u gwerthfawrogiad o’r iaith fel rhan o’u taith gyda ni. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

