Darlithydd mewn Troseddeg
Mae Prifysgol Wrecsam yn awyddus i recriwtio unigolyn cymwys a phrofiadol gydag angerdd dros Droseddeg a Chyfiawnder Troseddol i gyfrannu at y ddarpariaeth o fewn y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd, sy’n ehangu. Mae Prifysgol Wrecsam yn sefydliad blaengar sy’n canolbwyntio ar y myfyrwyr ac yn rhoi pwyslais mawr ar ansawdd ei dysgu ac addysgu a phrofiad myfyrwyr, ac fe’i gosodwyd yn gyntaf am foddhad myfyrwyr yng Nghymru a Lloegr yn y Complete University Guide 2027. Rydym yn Brifysgol fywiog ac amrywiol yn Wrecsam, Gogledd-ddwyrain Cymru. Mae ein gweledigaeth strategol yn gosod agenda uchelgeisiol ar gyfer ein llwyddiant a’n twf i’r dyfodol, sy’n canolbwyntio ar sicrhau rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu yn seiliedig ar ymchwil. Cyfle cyffrous am swydd lawn amser barhaol cyfrwng Cymraeg i ymuno â’n hadran Troseddeg flaenllaw. Mae’r adran Troseddeg yn ail yn y DU am Ansawdd Addysgu (NSS 2025), yn y 10 Uchaf yn y DU am gyfleoedd gyrfa (Complete University Guide 2027) a hwn yw’r maes pwnc sydd wedi’i raddio’n gyntaf am Foddhad Myfyrwyr yn nhablau cynghrair pynciau’r Complete University Guide yn y (Complete University Guide, 2027), ac yn gyntaf yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (NSS 2025).
Rydym yn ceisio penodi unigolyn sydd â gweledigaeth ac ymrwymiad i wella profiad myfyrwyr drwy ragoriaeth addysgu ac ymchwil, a all gyfrannu at ddatblygiad Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn y Brifysgol. Mae’r swydd wag hon ar gyfer Darlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol. Bydd yr unigolyn yn darparu elfennau o addysgu i fyfyrwyr gan gynnwys darlithio, seminarau a thiwtorialau personol. Bydd gan ddeiliad y swydd ymrwymiad i weithio at ethos ehangu cyfranogiad. Mae’r gallu i siarad Cymraeg, gan arwain ar ddatblygiad y llwybr Iaith Gymraeg a chynnig cefnogaeth academaidd a bugeiliol drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â rhoi adborth drwy gyfrwng y Gymraeg, yn hanfodol.
Disgwylir i bob ymgeisydd a wahoddir i gyfweliad wneud cyflwyniad byr i’r panel, yn seiliedig ar bwnc perthnasol i’r rôl.
Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â’r Prif Arweinydd, Dr Sarah Dubberley s.dubberley@wrexham.ac.uk neu’r Arweinydd Rhaglen j.prescott@wrexham.ac.uk
Manylion pellach
Swydd Ddisgrifiad – Cymraeg
Swydd Ddisgrifiad – Saesneg
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol

