Golygydd Ffotograffiaeth ac Asedau Digidol
Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Pam ymuno ag S4C?
Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno ag S4C gan gyfrannu at ddyfodol sy’n ysbrydoli, diddanu ac adlewyrchu Cymru gyfan wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd – S4C – Mwy na Sianel Deledu – wrth i ni ehangu ein cynulleidfa gyda’n cynnwys a datblygu ein gwasanaeth Digidol yn Gyntaf.
Trosolwg o’r Swydd
Mae S4C yn chwilio am Golygydd Ffotograffiaeth ac Asedau Digidol i fod yn gyfrifol am reoli, curadu, golygu a dosbarthu delweddau ac asedau cynnwys digidol sy’n cefnogi ein gweithgareddau rhaglennu, marchnata, cyfathrebu, y wasg a digidol.
Gan gyfuno barn olygyddol a chreadigol gref gyda sgiliau rheoli asedau rhagorol, byddwch yn sicrhau bod delweddau ar draws portffolio’r darlledwr yn ddiddorol o safbwynt gweledol, yn cyd-fynd â’r brand ac yn addas ar gyfer ymgysylltu â chynulleidfaoedd.
Gan dynnu ar arbenigedd mewn ffotograffiaeth, dylunio graffeg neu gyfathrebu gweledol, byddwch yn dewis, gwella a rheoli asedau sy’n cefnogi’r gwaith o hyrwyddo rhaglenni, twf cynulleidfa ac adrodd straeon corfforaethol ar draws llwyfannau darlledu, ffrydio, digidol a chyfryngau cymdeithasol.
Bydd y rôl yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal systemau Rheoli Asedau Digidol, gan sicrhau bod asedau’n cael eu catalogio’n gywir, bod yr hawliau ar eu cyfer yn cael eu rheoli a’u bod yn hawdd eu cyrraedd i randdeiliaid mewnol ac allanol.
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â’n tîm creadigol wrth i ni barhau i ddatblygu ein prosesau mewnol ar gyfer dyfodol darlledunewydd sy’n cynnwys gwasanaethau ffrydio ac aml-blatfform.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Fel Golygydd Ffotograffiaeth ac Asedau Digidol byddwch yn gwneud y canlynol:
- Chwarae rôl allweddol wrth gefnogi’r gwaith o ddosbarthu ein delweddau hyrwyddo yn effeithiol ar draws amrywiaeth o lwyfannau, gan gynnwys ap Clic S4C, BBC iPlayer, YouView, Sky, a Virgin TV.
- Creu, golygu a gwella delweddau ar gyfer catalog rhaglenni S4C yn Gymraeg a Saesneg.
- Cydweithio’n agos â chydweithwyr ym meysydd dosbarthu, marchnata a rheoli platfform.
- Mewnbynnu data i feddalwedd Rheoli Systemau Darlledu (BSM) a CMS S4C a’r system ddilynol, gyda hyfforddiant a chefnogaeth ar gael.
- Arwain llif gwaith delweddau ac asedau gofynnol ar draws S4C a’i llwyfannau.
Dewis Delweddau Golygyddol
- Rheoli ffotograffiaeth a delweddaeth.
- Adolygu a dewis delweddau llonydd ac asedau gweledol o ansawdd uchel i gefnogi’r gwaith o hyrwyddo rhaglenni ac ymgysylltu â’r gynulleidfa.
- Cynhyrchu detholiadau o ddelweddau wedi’u curadu ar gyfer ymgyrchoedd marchnata, gweithgarwch y wasg, cyfathrebu corfforaethol a chyhoeddi digidol.
- Sicrhau bod delweddau’n adlewyrchu cynnwys rhaglenni, gwerthoedd brand S4C a safonau golygyddol yn gywir.
- Gweithio’n agos gyda thimau cynhyrchu allanol, ffotograffwyr, comisiynwyr a chydweithwyr marchnata i sicrhau asedau addas trwy gydol cylchoedd cynhyrchu a throsglwyddo.
Curadu Gweledol Creadigol
- Cyfrifol am gomisiynu ffotograffiaeth a/neu gyflenwyr yn rheolaidd yn unol â gofynion y rôl.
- Defnyddio barn greadigol a gweledol gadarn wrth ddewis a chyflwyno delweddau ar gyfer rhaglenni a hyrwyddo.
- Sicrhau bod asedau gweledol yn ddiddorol, yn canolbwyntio ar y gynulleidfa ac yn cyd-fynd â hunaniaeth brand S4C.
- Gweithio ar y cyd â thimau marchnata, digidol a chreadigol i adrodd straeon gweledol diddorol a chyfrannu syniadau creadigol i gefnogi lansiadau rhaglenni, gwaith marchnata ac ymgyrchoedd ymgysylltu â chynulleidfaoedd.
Golygu a Gwella Delweddau
- Golygu, torri, cywiro lliwiau ac optimeiddio asedau ffotograffig i’w defnyddio ar draws sawl platfform.
- Creu cyfansoddion delweddau, graffeg hyrwyddo a chynnwys gweledol lle bo angen.
- Addasu a newid maint delweddau ar gyfer gwefannau, llwyfannau digidol, gwasanaethau ffrydio, cyfryngau cymdeithasol a dosbarthu i’r wasg.
- Sicrhau cysondeb o ran ansawdd gweledol, brandio a chyflwyniad ar draws pob ased a gyhoeddir.
- Cadw gwybodaeth gyfredol am dueddiadau gweledol, ffotograffig a dylunio sy’n dod i’r amlwg sy’n berthnasol i ddarlledu a chyfryngau digidol a sut y gellir defnyddio technoleg newydd i wella’r broses gynhyrchu greadigol.
Rheoli Asedau
- Helpu i reoli llyfrgell ac archif y darlledwr o ddelweddau llonydd ac asedau digidol.
- Llwytho, catalogio a chadw delweddau llonydd o raglenni, ffotograffiaeth ar gyfer cyhoeddusrwydd, gwaith celf allweddol, graffeg ac asedau hyrwyddo rhaglenni, a mewnbynnu data i feddalwedd Rheoli Systemau Darlledu (BSM) a CMS S4C.
- Sicrhau bod asedau’n cael eu tagio a’u categoreiddio’n gywir a bod modd chwilio amdanynt trwy reoli metadata yn effeithiol.
- Cynnal confensiynau enwi ffeiliau, llifoedd gwaith a safonau archif cyson.
- Cynnal archwiliadau rheolaidd i sicrhau ansawdd, cywirdeb a chydymffurfiaeth asedau.
- Cefnogi datblygiad parhaus a gwaith optimeiddio ar y systemau rheoli asedau digidol.
Dosbarthu Asedau
- Rheoli ceisiadau am ddelweddau ac asedau digidol gan adrannau mewnol yn ogystal â darparu delweddau a deunyddiau hyrwyddo i bartneriaid allanol, sefydliadau cyfryngau, dosbarthwyr a rhanddeiliaid.
- Darparu asedau yn y fformatau priodol ac yn unol â’r manylebau ar gyfer gwahanol lwyfannau a defnyddwyr.
- Blaenoriaethu a rheoli ceisiadau’n effeithiol mewn amgylchedd darlledu cyflym.
Rheoli Hawliau a Chydymffurfiaeth
- Cadw cofnodion cywir yn ymwneud â hawliau, caniatâd a chytundebau trwyddedu delweddau.
- Sicrhau bod yr holl ddelweddau’n cael eu defnyddio’n unol â deddfwriaeth hawlfraint, rhwymedigaethau cytundebol a pholisïau sefydliadol.
- Monitro cyfyngiadau defnydd, cymeradwyaethau talent a dyddiadau y daw trwyddedau i ben.
- Cynghori rhanddeiliaid ynghylch gofynion cadarnhau hawliau ac arfer gorau.
- Dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r caniatâd gofynnol/hawliau ar gyfer clirio delweddau.
Rheoli Rhanddeiliaid
- Adeiladu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol gyda chwmnïau cynhyrchu, ffotograffwyr, asiantaethau a rhanddeiliaid mewnol.
- Darparu canllawiau ar gyfer dewis delweddau, safonau rheoli asedau ac arfer gorau gweledol.
- Gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol ar gyfer asedau digidol ac ymholiadau sy’n gysylltiedig â delweddau.
Y math o berson rydyn ni’n chwilio amdano:
- Rhywun sy’n angerddol am ddelweddau, dylunio, hygyrchedd, manylion ac adrodd straeon; sy’n agored i ddeall pwysigrwydd cynnwys cywir a diddorol yn yr amgylchedd cyfryngau aml-gyfrwng sydd ohoni heddiw.
- Profiad o greu a golygu delweddau, gyda llygad craff am gywirdeb golygyddol a thechnegol.
- Y gallu i asesu delweddau a ffeiliau graffeg ar lefel dechnegol i sicrhau’r ansawdd uchaf posibl.
- Yn gallu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg (ar lafar ac yn ysgrifenedig).
- Hyder wrth ddefnyddio systemau digidol a mewnbynnu data strwythuredig.
- Ymwybyddiaeth o sut mae cynulleidfaoedd yn chwilio, darganfod ac ymgysylltu â chynnwys ar draws gwahanol lwyfannau.
- Dealltwriaeth ymarferol o fformatau graffeg ac egwyddorion dylunio sy’n ddigonol i asesu asedau ac i gydweithio’n effeithiol â dylunwyr.
- Byddwch yn unigolyn sydd â llythrennedd gweledol cryf, sy’n ffynnu wrth gydweithio ac yn barod i ddysgu systemau newydd a chyfrannu at wella gwelededd cynnwys Cymraeg ar draws amrywiaeth o lwyfannau.
Byddwch yn llwyddo yn y rôl hon os:
- Oes gennych bortffolio neu dystiolaeth gref sy’n dangos y gallu i adrodd straeon gweledol a barn greadigol.
- Oes gennych brofiad ym maes cynhyrchu, golygu, newid maint a/neu greu lluniau a delweddau at sawl diben.
- Ydych chi’n drefnus ac yn gallu gweithio’n gyflym ac yn gywir ar sawl prosiect ar yr un pryd.
- Ydych chi’n angerddol am S4C a’i chynnwys.
- Ydych chi’n mwynhau gweithio’n annibynnol mewn ffordd drefnus a gofalus ond hefyd yn ymdrechu i gydweithio â thîm creadigol ehangach.
Yn ystod y tri mis cyntaf bydd disgwyl i chi:
- Datblygu dealltwriaeth gadarn o safonau golygyddol, llifau gwaith a systemau rheoli asedau digidol S4C.
- Datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol gyda thimau golygyddol, cynhyrchu, masnachol a brand.
- Cymryd cyfrifoldeb am reolaeth ddyddiol, trefniadaeth a rheolaeth ansawdd delweddau llonydd ac asedau digidol.
- Sicrhau bod asedau’n cael eu catalogio, eu tagio a’u harchifo’n gywir yn unol â safonau metadata a rheoli hawliau.
- Dangos hyder wrth ganfod, golygu a darparu cynnwys gweledol o ansawdd uchel er mwyn bodloni terfynau amser golygyddol.
- Adnabod cyfleoedd i wella llifau gwaith, gallu canfod asedau, ac effeithlonrwydd gweithredol.
- Gweithio’n annibynnol a chyfathrebu’n rhagweithiol gyda’r tîm brand a delweddau, gan gyfrannu’n gadarnhaol at y tîm ehangach.
- Cyflawni gwaith yn gyson sy’n bodloni’r disgwyliadau a gytunwyd o ran ansawdd, cywirdeb a therfynau amser.
Byddwch hefyd yn:
- Ymwybodol o strategaeth S4C, a sicrhau eich bod yn cymryd cyfrifoldeb personol i ddilyn ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn ôl yr angen, sy’n cynnwys gweithio o fewn canllawiau Iechyd a diogelwch, amrywiaeth a chynhwysiant, diogelu data, canllawiau ariannol ac yn y blaen.
- Bydd gennych lygad dda am ffotograffiaeth ynghyd â dealltwriaeth o sut mae delweddau’n gweithio ochr yn ochr â graffeg.
- Cyfrannu mewn ffordd gadarnhaol tuag at ddiwylliant a chyflawni strategaeth S4C.
- Cyfrannu at a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
- Cydweithio â’ch rheolwr llinell a bod yn rhagweithiol wrth reoli a datblygu eich perfformiad eich hun.
- Gwneud yn siŵr eich bod yn gweithio mewn ffordd gadarnhaol, gydweithredol, draws-sefydliadol, sy’n datblygu gwasanaethau gwych i’n gwylwyr ar bob platfform ac yn sicrhau amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysol sy’n trin pawb â pharch.
Beth fyddwch chi’n ei gael?
- Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn sefydliad sy’n gwerthfawrogi pobl.
- Gweithio mewn amgylchedd hyblyg yn un o’n swyddfeydd yng Nghymru.
- Mae S4C wedi ymrwymo i dwf personol ei weithwyr, gan gynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu cynhwysfawr i wella sgiliau a hybu gyrfaoedd. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant mewnol, a rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus lle bo’n briodol.
- Mynediad at gyfleoedd unigryw yn y sector cyfryngau gan gynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau, rhagolwg rhaglenni, trafodaethau panel a diweddariadau mewnol.
- Mae gan weithwyr y cyfle unigryw i gyfrannu at hyrwyddo a chadw’r iaith a’r diwylliant Cymraeg drwy eu gwaith.
- Mae S4C yn cynnig Cynllun Pensiwn Personol Grŵp gyda 10% yn cael ei gyfrannu gan S4C.
- 26 diwrnod o wyliau yn cynyddu’n raddol hyd at 32 diwrnod mewn 9 mlynedd.
Am sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â pobl@s4c.cymru
Yn eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu sylw at y sgiliau a’r profiad sydd gennych sy’n berthnasol i’r rôl a restrir yn y fanyleb bersonol isod ac sy’n unol â’n gwerthoedd craidd. Rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos pam rydych chi’n addas ar gyfer y swydd.
Manylion Eraill
Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 ddiwrnod mewn swyddfa a gweithio yn y swyddfa’n barhaus am y pythefnos cyntaf ar gyfer hyfforddiant pellach – mae’r hyfforddiant hwn yn debygol o gael ei gynnal yn ein swyddfa/swyddfeydd yng Nghaerfyrddin neu Gaerdydd)
Cyflog: £39,838.50 y flwyddyn
Contract: Parhaol
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Rydym yn hapus i drafod oriau gwaith ac i ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n chwilio am waith hyblyg neu ran-amser. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio y tu allan i oriau swyddfa, rhai penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ogystal â’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn. Os ydych chi’n cael eich cyflogi’n rhan-amser, byddwch yn derbyn cyfran pro rata o’r gwyliau.
Pensiwn: Mae gan staff cyflogedig hawl i ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn amodol ar delerau unrhyw gynllun presennol sy’n cael ei ddiwygio o bryd i’w gilydd. Os ydych chi’n aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel arfer o fewn y DU
Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn.

