Golygydd Gwybodaeth Cynnwys (Metadata)

Teitl Swydd
Golygydd Gwybodaeth Cynnwys (Metadata)
Enw’r Cwmni
S4C
Lleoliad
Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon
Cyflog
£38,171.00 y flwyddyn
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 14/04/2026

Pam ymuno â S4C?

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Rydyn ni’n chwilio am unigolyn dibynadwy, disgybledig, a threfnus gyda sgiliau ysgrifennu a dadansoddi gwych sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’r tîm Cynllunio a Rheoli Cynnwys.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni barhau i ddatblygu ein prosesau mewnol ar gyfer dyfodol newydd ddarlledu sydd yn cynnwys ffrydio a gwasanaethau aml blatfform.

Eich prif gyfrifoldeb fydd paratoi a chyfoethogi metadata golygyddol cywir a deniadol yn ein system feddalwedd, a fydd yn bwydo holl blatfformau S4C. Byddwch hefyd yn cefnogi gwaith i boblogi’r system feddalwedd a pharatoi deunydd i’r cyfryngau.

Mae metadata yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth, megis: teitlau, billings a synopses, genre, geiriau allweddol. Mae’r wybodaeth yma yn helpu i arwyddo cyfresi a phenodau ar lwyfannau partner fel BBC iPlayer, Samsung ac LG.  Mi fydd  hyfforddiant ar agweddau metadata yn gysylltiedig gyda’r rôl yn cael ei drefnu fel rhan o anwythiad.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Fel Golygydd Gwybodaeth Cynnwys (Metadata) byddwch yn:

  • Llunio amryw billings a crynodebau clir, ddeniadol a chywir ar lefel rhaglen a
    chyfres.
  • Chwarae rhan allweddol wrth gefnogi dosbarthiad effeithiol a hawdd i ddod o hyd
    i gynnwys S4C ar draws amryw o lwyfannau, gan gynnwys ap S4C Clic a
    llwyfannau trydydd parti megis Sky, Freely, Amazon a Samsung – eich geiriau chi
    fydd yn cael ei defnyddio wrth i berson chwilio am raglen ac yn ymddangos wrth i
    rywun darllen am y rhaglen/gyfres a phenderfynu ydyn nhw am ei wylio.
  • Creu, golygu a gwella metadata golygyddol ar gyfer catalog rhaglenni S4C yn y
    Gymraeg a’r Saesneg.
  • Gweithio fel rhan o brosiect ehangach i wella metadata catalog ôl-raglenni S4C
    trwy edrych ar gynnwys penodol a sicrhau bod geiriau bachog, chwim a chyffrous
    wedi nodi ar gyfer ein rhaglenni.
  • Cydweithio’n agos â chydweithwyr ym maes dosbarthu, marchnata a rheoli
    llwyfannau.
  • Cydweithio’n agos ac adeiladu perthnasoedd gwaith effeithiol gyda chwmnïaucynhyrchu ac eraill yn allanol.
  • Mewnbynnu data i feddalwedd Rheoli System Darlledu (BSM) S4C.
  • Cefnogi, poblogi a mireinio’r wybodaeth golygyddol aml-lefel ar ein system
    feddalwedd, ac yn paratoi deunydd i’r cyfryngau.

Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn

Manylion eraill

Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa a chyfnod swyddfa parhaus am y bythefnos gyntaf er mwyn hyfforddi- mae’n debygol y bydd yr hyfforddiant yma yn digwydd yn ein swyddfa(feydd) yng Nghaerfyrddin neu Gaerdydd).

Cyflog:  £38,171.00 y flwyddyn

Cytundeb:  Parhaol

Oriau gwaith: Hyd at 35.75 yr wythnos – rydym yn hapus i drafod oriau gwaith ac i ystyried ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr sy’n edrych am waith hyblyg neu ran amser.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 

Gwyliau: Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o’r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Mawrth 14 Ebrill 2026 i Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Dyddiad Cyfweliadau: Dyddiad a lleoliad i’w gadarnhau; cyfweliadau i’w cymryd lle ar 24ain Ebrill 2026, lleoliad i’w gadarnhau.

Manylion Swydd

Ffurflen Gais

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb

Pecyn Gwybodaeth

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth a ffurflen gais.

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Mawrth 14 Ebrill 2026 i Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.