Golygydd Testun Deddfwriaethol Dwyieithog : Llywodraeth Cymru

Dyddiad cau: 19/12/2025, 16:00

Sail hysbysebu – Parhaol

Union gyflog cychwynnol – Bydd cyflog cychwynnol na ellir ei negodi o £37,111 yn cael ei gynnig i’r ymgeisydd llwyddiannus.

Ystod cyflog neu fand cyflog – Swyddog Gweithredol Uwch £37,111 i £45,378

Patrwm gwaith – Llawn amser (croesewir ceisiadau gan bobl sy’n gweithio rhan-amser, fel rhan o rannu swydd neu sy’n gweithio’n llawn amser)

Lleoliad – Ledled Cymru

Pwrpas y swydd – Darparu gwasanaeth golygu ieithyddol proffesiynol i’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol wrth sicrhau ansawdd y gwaith o lunio is-ddeddfwriaeth ddwyieithog sy’n gyfwerth yn ieithyddol ac yn gywir.

Mae Adran Gwasanaethau Cyfreithiol (GC) Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddrafftio’n ddwyieithog yr holl is-ddeddfwriaeth gyffredinol a wneir gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog yn gweithredu ar ei ben ei hun neu lle bo’n briodol y Cwnsler Cyffredinol, yn ogystal â dogfennau deddfwriaethol dwyieithog eraill.

Mae nifer y darnau o is-ddeddfwriaeth ddwyieithog a wneir gan Weinidogion Cymru yn gofyn am wasanaeth golygu testun cyfreithiol pwrpasol, wedi’i leoli o fewn Adran Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru, i hwyluso cymhwyso yn gywir ac yn gyson ganllawiau drafftio Llywodraeth Cymru a’r derminoleg a ddefnyddir mewn deddfwriaeth ddrafft ddwyieithog a lunnir gan y cyfreithwyr pwnc perthnasol. Mae’n ofynnol i ddeiliad y swydd arbenigo yn y gwaith o sicrhau cywerthedd testunau Cymraeg a Saesneg is-ddeddfwriaeth ddwyieithog yn unol â’r galw, gan gydweithio’n agos â’r Uwch Olygydd Testun Deddfwriaethol Dwyieithog, cyfreithwyr drafftio a thîm arbenigol Llywodraeth Cymru o gyfieithwyr deddfwriaethol.

Caiff pob testun deddfwriaethol dwyieithog ei wirio a’i olygu’n drylwyr er mwyn sicrhau cywirdeb ieithyddol a chyfwerthedd cyfreithiol rhwng y ddwy fersiwn iaith.

Tasgau Allweddol – Gan adrodd i’r Uwch Olygydd Testun Deddfwriaethol Dwyieithog, ac yn broffesiynol i gyfreithwyr Llywodraeth Cymru, y tasgau allweddol sy’n ofynnol ar gyfer y swydd yw:

• Cynllunio, blaenoriaethu a chyflawni gwaith golygu o fewn yr amserlenni sydd ar gael, negodi terfynau amser neu ddiwygiadau dilynol yn ôl yr angen;
• Cynnal craffu cymharol, diwygio a chywiro testunau deddfwriaethol Cymraeg a Saesneg mewn perthynas â drafftiau dwyieithog terfynol o Offerynnau Statudol cyffredinol Cymru, deddfwriaeth leol ac is-ddeddfwriaeth arall ac ystod o ddogfennau deddfwriaethol dwyieithog amrywiol;
• Ystyried cyngor a adroddir neu a gyhoeddir gan Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad y Senedd ar derminoleg Gymraeg, cysondeb dwyieithog a chyfwerthedd mewn deddfwriaeth a chyfrannu cyngor at ymatebion swyddogol Llywodraeth Cymru i’r Pwyllgor hwnnw;
• Craffu ar ddiwygiadau ychwanegol gan gyfreithwyr i destunau deddfwriaethol yn ôl yr angen a chynghori ar ddiwygiadau o fewn amserlenni penodedig ar gyfer eu gwneud neu eu gosod mewn drafft;
• Cyfrannu cyngor ieithyddol fel y bo’n ofynnol i gyfreithwyr Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol, gan gynnwys staff Swyddfa’r Codau Deddfwriaethol;
• Cynorthwyo yn ôl yr angen i ddarparu hyfforddiant ym maes is-ddeddfwriaeth i gyfreithwyr a gweinyddwyr sy’n ymuno â’r sefydliad neu sydd wedi hen sefydlu, i esbonio rôl a phwysigrwydd cyfwerthedd dwyieithog a’r prosesau sydd ar waith i’w sicrhau;
• Cysylltu â Phrif Gwnsler Deddfwriaethol Cymru, cyfreithwyr drafftio a chyfieithwyr deddfwriaethol arbenigol pan allai fod angen cywiriadau technegol, pan allai fod angen terminoleg amgen neu newydd, a/neu pan allai fod angen diwygio’r testun Cymraeg neu Saesneg er mwyn sicrhau cyfwerthedd cyfreithiol;
• Cysylltu pan fo’n briodol ar faterion drafftio a therminoleg â Chynghorwyr Cyfreithiol Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad y Senedd;
• Cynorthwyo cyfreithwyr drafftio, yn ôl yr angen, i wirio’n brydlon yr holl OSau cadarnhaol drafft dwyieithog sy’n cael eu diwygio ar ôl cael eu tynnu’n ôl gan Weinidogion Cymru;
• Cyfrannu’r wybodaeth sydd ei hangen i gronfeydd data gwybodaeth Swyddfa’r Codau Deddfwriaethol at ddibenion cynhyrchu adroddiadau ystadegol cyfredol a hanesyddol mewn perthynas â deddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru.

Cyfleoedd i Ddatblygu – Bydd eich profiad yn rhoi dealltwriaeth unigryw i chi o sut mae deddfwriaeth ddwyieithog yn cael ei llunio a’i gwneud yng Nghymru a’r prosesau cysylltiedig. Mae’r rôl hon yn cynnig y cyfle i weithio o fewn amgylchedd cyfreithiol proffesiynol sydd wrth galon llywodraeth ddatganoledig, ar flaen y gad yn y broses polisi a deddfu ac ar flaen y gad o ran datblygiadau cyfansoddiadol mawr.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.

Sut i wneud cais