GWEINYDDWR CYMORTH BUSNES -SYSTEM DDYLETSWYDD AR ALWAD
Rydym yn edrych i benodi Gweinyddwr Cymorth Busnes, yn barhaol a fydd yn darparu cymorth gweinyddol effeithlon ac effeithiol i’r tîm darparu gwasanaethau a phersonél yr orsaf On-call/RDS yn ardal Conwy.
Mae’r rôl yn gyfrifol am dasgau gweinyddu cyffredinol, gan gynnwys teipio llythyrau ac adroddiadau, ffeilio, trefnu gofynion cludo a logisteg, darparu apwyntiadau a nodiadau atgoffa cwrs i griwiau, cymryd nodiadau a chofnodion cyfarfodydd yn ôl yr angen. Byddant hefyd yn darparu cymorth gweinyddol i’r tîm recriwtio ac argaeledd ar alwad, gan gynorthwyo gyda chynnal digwyddiadau mewn gorsafoedd tân fel diwrnodau / nosweithiau agored a mynychu nosweithiau ymarfer i ddarparu cymorth gweinyddol yn y gorsafoedd tân rydych chi’n eu cefnogi.
Byddwch yn gyfathrebwr effeithiol gyda sgiliau trefnu da i reoli eich llwyth gwaith eich hun a chwrdd â dyddiadau cau. Bydd angen i chi fod yn hyblyg ac yn addasadwy i newid i ddelio â cheisiadau wrth iddynt godi a chael y gallu i weithio’n annibynnol gan ddefnyddio eich menter eich hun.
Er bod y rôl wedi’i lleoli yng Nghonwy, mae’r rôl yn darparu cymorth i orsafoedd tân yn Ardal Wasanaeth Conwy, felly darperir cerbyd gwasanaeth i ymgymryd â theithio rhwng gorsafoedd yn yr ardal hon a lleoliadau gwasanaeth eraill yn ôl yr angen.
Bydd gofyniad hefyd i’r deiliad swydd weithio’n hyblyg, o ddydd Llun i ddydd Gwener, i batrwm gwaith ansafonol. Bydd hyn yn cynnwys nosweithiau ar gyfartaledd unwaith yr wythnos a bydd yn denu lwfans ychwanegol o 8.5%. Bydd y patrwm gweithio ansafonol hwn yn cyfrannu tuag at yr wythnos 37 awr. I’w drafod ymhellach yn y cyfweliad.
Fel sefydliad dwyieithog, mae’r gallu i gyfathrebu’n hyderus ac yn rhugl yn y Gymraeg (Lefel 4) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r swydd hefyd yn destun gwiriad DBS a geirdaon boddhaol.
Am ragor o fanylion am y rôl, cyfeiriwch at y pecyn gwybodaeth sydd ar gael trwy clicio ar y ddolen “Gwneud Cais“.
Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned. Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i’r holl staff ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn Gymraeg a Saesneg a byddwn yn ymateb yn gyfartal i’r ddau a byddwn yn ymateb yn eich iaith o’ch dewis yn ddi-oed. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

