Gweithiwr Cymorth Diogelwch yn y Cartref

Teitl Swydd
Gweithiwr Cymorth Diogelwch yn y Cartref
Enw’r Cwmni
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Lleoliad
Gogledd Gwynedd/Ynys Môn a Wrecsam/Sir y Fflint.
Cyflog
NWFRS Gradd 05 £29,064 i £31,022 y flwyddyn
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 13/03/2026

Cyfleoedd ar draws ardaloedd Gogledd Gwynedd/Ynys Môn a Wrecsam/Sir y Fflint.

Parhaol gydag amser llawn a rhan amser ar gael

Rydym yn edrych i benodi Gweithiwr Cymorth Diogelwch yn y Cartref i ymuno â’n tîm Atal yn ardal y Dwyrain (Sir y Fflint a Wrecsam) a’r Gorllewin (Ynys Môn/Gogledd Gwynedd).

Mae gan Awdurdodau Tân ac Achub ddyletswydd o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 i ddarparu gwybodaeth, cyhoeddusrwydd ac anogaeth i atal tanau a marwolaethau ac anafiadau cysylltiedig. Gan weithio gyda chymunedau Gogledd Cymru, mae Gweithwyr Cymorth Diogelwch yn y Cartref yn darparu cyngor ac arweiniad diogelwch tân, yn ogystal ag ymyriadau diogelwch tân addas yng nghartrefi grwpiau targed a nodwyd i gyfrannu at eu hiechyd, diogelwch a lles. O fewn eu maes cyfrifoldeb, byddant hefyd yn cefnogi’n rhagweithiol y gwaith o gyflwyno gweithgareddau ymwybyddiaeth diogelwch tân ac ymgyrchoedd diogelwch.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol, gyda’r gallu i gyfathrebu ‘n hyderus ac yn rhugl yn y Gymraeg (i lefel 4) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Gyda ffordd agored a hygyrch, bydd ymgeiswyr yn canolbwyntio ar y cwsmer ac yn cael eu cymell i helpu eraill, yn enwedig pobl agored i niwed o fewn y grŵp targed a nodwyd, i gadw’n ddiogel ac yn iach mewn ffordd barchus a chyfrinachol.

Dylai ymgeiswyr nodi y gallai fod gofyniad i weithio y tu allan i oriau gwaith arferol ar achlysuron anaml ar gytundeb cydfuddiannol.

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Gwell a geirdaon boddhaol. Am ragor o fanylion am y rôl, cyfeiriwch at y pecyn gwybodaeth.

I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais drwy ebost i: recriwtio@tangogleddcymru.llyw.cymru

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 12.00 hanner dydd, 13 Mawrth, 2026 gyda chyfweliadau yn cael eu cynnal yr wythnos yn cychwyn 6 Ebrill 2026. Bydd y dyddiad cau yn cael ei gadw’n llym ac ni fydd unrhyw eithriadau yn berthnasol.

Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned. Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i’r holl staff ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn Gymraeg a Saesneg a byddwn yn ymateb yn gyfartal i’r ddau a byddwn yn ymateb yn eich iaith o’ch dewis yn ddi-oed. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sut i wneud cais

I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais drwy ebost i: recriwtio@tangogleddcymru.llyw.cymru

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 12.00 hanner dydd, 13 Mawrth, 2026 gyda chyfweliadau yn cael eu cynnal yr wythnos yn cychwyn 6 Ebrill 2026. Bydd y dyddiad cau yn cael ei gadw’n llym ac ni fydd unrhyw eithriadau yn berthnasol.

Cliciwch ar y botwm Gwneud Cais isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.