Newyddiadurwr – Newyddion Ni (EXTEND)

Teitl Swydd
Newyddiadurwr – Newyddion Ni (EXTEND)
Enw’r Cwmni
BBC
Lleoliad
Caerdydd
Cyflog
£27,600 – £32,000 yf
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 10/06/2026

MATH O GONTRACT: 9 mis. Cytundeb cyfnod penodol, (35 awr yr wythnos) Llawn amser tan 26/03/2027

ADRAN: Newyddion Ni – Adran Newyddion BBC Cymru

LLEOLIAD: Caerdydd

CYFLOG: £27,600 – £32,000 yn ddibynnol ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol. Mae’r amrediad cyflog disgwyliedig ar gyfer y swydd hon yn adlewyrchu meincnodi mewnol a gwybodaeth am y farchnad allanol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

BBC EXTEND

Mae’r swydd hon yn cael ei hysbysebu fel rhan o raglen BBC Extend ar gyfer pobl anabl. I wneud cais ar gyfer y swydd hon, dylech chi nodi eich bod yn fyddar, yn anabl neu’n niwrowahanol ac mae’n rhaid i chi fodloni naill ai y diffiniad o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb (2010), neu’r diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (1995) os ydych chi’n gwneud cais yng Ngogledd Iwerddon. Cewch eich diffinio’n fras fel unigolyn anabl o dan y ddwy ddeddf os oes gennych chi nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol ac andwyol hirdymor a sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol. Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys cyflyrau ac amhariadau amlwg a heb fod yn rhai amlwg, a chyflyrau meddygol fel Canser, HIV neu Sglerosis Ymledol.

Rydym ni wedi ymrwymo i wneud y broses o wneud cais am y swydd hon mor hygyrch â phosibl. Os oes angen i chi drafod addasiadau neu ofynion mynediad ar gyfer y broses ymgeisio, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein rhaglen Extend, cysylltwch â extend@bbc.co.uk.

Mae’r BBC wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu addasiadau i’r gweithle i helpu i gael gwared ar rwystrau yn y gweithle sy’n wynebu pobl anabl. I wneud hyn, mae gennym ein Gwasanaeth Mynediad ac Anabledd pwrpasol ein hunain ar gyfer y BBC sy’n darparu asesiadau a chymorth drwy gydol eich cyflogaeth gyda ni. Os byddwch chi’n llwyddo yn eich cais am y swydd hon a bod angen addasiadau yn y gweithle arnoch chi, byddwn yn gweithio gyda chi i roi eich addasiadau ar waith.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am BBC Extend, ewch i dudalen we BBC Extend. (EXTEND code: EX2324).

PWRPAS Y SWYDD

Wyt ti awydd bod yn gyflwynydd a gweithio yng nghanol cyffro newyddion Cymru a’r byd? Wel, dyma dy gyfle di! Mae’r rhaglen newyddion i blant a phobl ifanc Newyddion Ni, yn chwilio am gyflwynydd newydd i rannu pob math o straeon –  adloniant, yr amgylchedd, chwaraeon, selebs, a phrif benawdau’r dydd.

Rydyn ni’n chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â’r tîm. Fe fydd y gwaith yn amrywiol iawn – yn cyflwyno’r rhaglenni, yn gohebu ar straeon ac yn creu deunydd creadigol ar gyfer platfformau digidol. Mae’r prif dasgau yn cynnwys helpu i baratoi’r rhaglenni, ysgrifennu a darlledu, dod o hyd i straeon gwreiddiol ac awgrymu dulliau o droi syniadau yn eitemau creadigol ar gyfer pob platfform.

Mae oriau gwaith yr adran yn hyblyg, ac o bosib yn cynnwys gwaith ar y penwythnosau.

Yn ogystal â’r ffurflen gais, gofynnwn i chi anfon fideo hyd at funud o hyd ohonoch yn cyflwyno eich hun ac yn egluro pam eich bod am wneud y swydd hon.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol:

  • Y gallu i gyflwyno a throsglwyddo straeon mewn ffordd syml a brwdfrydig
  • Syniadau creadigol ar sut i gyfleu gwahanol straeon
  • Awydd i ddatblygu sgiliau newyddiadurol ac i ddeall ystyriaethau golygyddol
  • Y gallu i ddatblygu cysylltiadau newydd a chreu perthynas dda gydag ysgolion a mudiadau yn ymwneud â phlant a phobl ifanc
  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol
  • Awydd i ddatblygu sgiliau technolegol a defnyddio meddalwedd yn effeithiol i greu pecynnau ac eitemau ar blatfformau digidol

Byddwn yn cynnig hyfforddiant ymhob agwedd o’r gwaith i’r ymgeisydd llwyddiannus.

Os oes gennych chi rai o’r sgiliau a’r profiadau hyn, ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy, byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais.

Cyfeirnod Swydd
45041

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y botwm “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.