Nifer o swyddi: cyfieithu testun, cyfieithu ar y pryd, gwaith terminoleg a gwaith gweinyddol

Teitl Swydd
Nifer o swyddi: cyfieithu testun, cyfieithu ar y pryd, gwaith terminoleg a gwaith gweinyddol
Enw’r Cwmni
Llywodraeth Cymru
Lleoliad
Ledled Cymru
Cyflog
Amrywiol
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 21/09/2026

Cyflog: Amrywiol – swyddi ar lefel Cymorth Tîm (yn dechrau ar £27,302), EO (yn dechrau ar £30,754) ac HEO (yn dechrau ar £37,111)

Lleoliad: Ledled Cymru (gweithio hybrid yn unol â pholisïau’r Llywodraeth). Mae gan y Gwasanaeth Cyfieithu staff yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon a Chyffordd Llandudno. Mae swyddfeydd hefyd ym Merthyr Tudful, Penlle’r-gaer a Wrecsam

Cytundeb: Parhaol, Llawn amser (croesewir ceisiadau gan bobl sy’n gweithio rhan-amser, fel rhan o rannu swydd neu sy’n gweithio’n llawn amser)

Dyddiad Cau: 21 Medi 2026

Dyma gyfle gwych i ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru. Mae amrywiaeth o swyddi ar gael – rhai ar gyfer cyfieithwyr ac ieithyddion medrus, a rhai addas i bobl sydd wedi arfer gweithio yn y Gymraeg:

  • Swyddogion Cymorth Busnes (x 2)
  • Rheolwr terminoleg (x 1)
  • Uwch-gyfieithwyr cyfieithu ar y pryd (x2). Gellir cynnig swydd ar lefel Cyfieithydd hefyd
  • Uwch-gyfieithwyr testun (o leiaf 5 swydd). Gellir cynnig swydd ar lefel Cyfieithydd hefyd

PWRPAS Y SWYDDI

Mae’r swyddi i gyd, mewn gwahanol ffyrdd, yn cyfrannu at ein gwaith o gefnogi’r llywodraeth i gyflwyno’i rhaglen lywodraethu ac o gynorthwyo’r Gweinidogion i rannu eu negeseuon â’r cyhoedd.

CYFLEOEDD DATBLYGU

  • Gweithio mewn gwasanaeth cyfieithu mawr, amlddisgyblaeth, a datblygu ac ehangu’ch sgiliau.
  • Dysgu rhagor am feysydd gwaith Llywodraeth Cymru a chyfrannu at waith y llywodraeth ddatganoledig sy’n gwasanaethu pobl Cymru.
  • Datblygu’ch defnydd o dechnoleg, gan gynnwys technoleg gyfieithu arbenigol.
  • Cefnogaeth i sefyll profion aelodaeth cymdeithasau cyfieithu proffesiynol, megis Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, yr ITI/IOL. Telir y ffioedd profi ac aelodaeth gan y Gwasanaeth Cyfieithu.

Yn ogystal â hyn, bydd unrhyw ymgeisydd sy’n cael cynnig swydd Cyfieithydd yn ymuno â chynllun datblygu strwythuredig i ddatblygu eu sgiliau a’u hymwybyddiaeth o waith y sefydliad, gan arwain at gyfleoedd i wneud cais am ddyrchafiad i swydd Uwch-gyfieithydd.

RHAGOR O WYBODAETH

Dilynwch y ddolen i wefan y Llywodraeth i weld pecyn gwybodaeth y Gwasanaeth Cyfieithu, ac i gael rhagor o wybodaeth ynghylch gofynion y gwahanol swyddi, y meini prawf recriwtio, y broses a’r amserlen.

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y botwm “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.