Nyrs Feithrinfa

Teitl Swydd
Nyrs Feithrinfa
Enw’r Cwmni
Coleg Cambria
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Cyflog
£25,978 – £26,095
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 05/03/2026

Lleoliad: Coleg Cambria
Dyddiad Cau y Cais: 05 Mawrth 2026
Cyflog: o £25,978 hyd £26,095

Proffil Swydd

Disgrifiad Swydd a Manyleb yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o’r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd:  Nyrs Feithrinfa 

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Llawn amser 

Cyflog: £25,978 – £26,095

Ydych chi’n angerddol am weithio gyda phlant o dan 5 oed? Ydych chi’n awyddus i ymuno â meithrinfa sydd wedi hen ennill ei phlwyf gydag enw da rhagorol a safonau uchel? 

Rydyn ni’n chwilio am fath arbennig o berson sy’n wych gyda phlant. Os mai chi ydy hwn, yna rydyn ni eisiau eich cyfarfod chi gan fod gennym ni gyfle gwych i Nyrs Feithrinfa yn ein tîm cefnogol.

Gan ddefnyddio eich sgiliau cyfathrebu, eich profiad perthnasol a’ch dealltwriaeth o ddatblygiad plant, byddwch chi’n helpu i greu amgylchedd diogel a meithringar. 

Gallwn ni gynnig buddion eithriadol i chi gyda llawer o gyfleoedd.

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo’r iaith Gymraeg, felly mae’n ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn siaradwr Cymraeg dwyieithog.

Bydd gwiriadau DBS yn cael eu gwneud ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus.

Gofynion Hanfodol

  • Profiad blaenorol mewn sefydliad Gofal Plant
  • Cymhwyster Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru) neu’n barod i weithio tuag ato
  • Dealltwriaeth a gwybodaeth o faterion diogelu a lles plant
  • Tystysgrif Cymorth Cyntaf
  • Agwedd agos atoch, tosturiol a hyblyg
  • Ymrwymiad y gellir ei ddangos at Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
  • Cwbl ddwyieithog yn y Gymraeg

Mae sgiliau Cymraeg yn Hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg. 

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.  

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny. 

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu’r ymrwymiad hwn.

Mae’r rôl hon wedi’i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi’i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.

Mae’n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae’n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae’n drosedd gwneud cais os ydych wedi’ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw’n anaddas i weithio gyda phlant.

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer mae swyddi’n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau.  Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg 

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig 

Cyfeirnod Swydd
CC/3042

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.