CADEIRYDD – Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru

Teitl Swydd
CADEIRYDD – Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru
Enw’r Cwmni
Llywodraeth Cymru
Lleoliad
Ar-lein / Canolbarth Cymru
Cyflog
£310 y dydd
Llawn/Rhan-amser
Rhan amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 06/03/2026

Penodi Cadeirydd

Tâl – £310 y dydd – Mae’r Panel yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn, ar gyfartaledd

Swyddogaeth y Corff

Mae Panel Cynghori Amaethyddol Cymru yn gorff statudol sy’n gyfrifol am gynnal isafswm mesurau diogelu cyflogaeth teg, cymesur a chynaliadwy i weithwyr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth yng Nghymru.

Mae’r Panel yn cynghori Gweinidogion Cymru ar gyfraddau isafswm cyflog a thelerau ac amodau statudol ehangach ar gyfer gweithwyr amaethyddol. Mae’n dod â chynrychiolwyr cyflogwyr a gweithwyr ynghyd, ac aelodau annibynnol sydd ag arbenigedd amaethyddiaeth a sgiliau i gytuno ar gynigion clir a chymesur. 

Mae gwaith y Panel yn helpu i gyflawni: 

  • Gwaith Teg yng Nghymru  
  • cymunedau gwledig cynaliadwy a chynhyrchiol 
  • mesurau diogelu statudol clir, cyfredol  
  • sicrwydd i gyflogwyr a gweithwyr. 

Bob blwyddyn, mae’r Panel yn adolygu isafswm telerau ac amodau, yn ymgynghori’n gyhoeddus ar newidiadau arfaethedig, ac yn cyflwyno Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) drafft i’w gymeradwyo gan y Gweinidogion. 

Cefnogir y Bwrdd gan: 

  • is-bwyllgor gorfodol ar sgiliau, hyfforddiant, a dilyniant gyrfa 
  • is-bwyllgorau ychwanegol lle bo angen 
  • cymorth ysgrifenyddol gan Lywodraeth Cymru 
  • cymorth cyfreithiol a drafftio allanol. 

Gall Gweinidogion hefyd gymeradwyo comisiynu ymchwil i lywio gwaith y Panel. 

Disgrifiad o’r Swydd

Fel Cadeirydd, byddwch yn arwain cyfarfodydd y Panel, yn cefnogi trafodaethau adeiladol ac yn helpu’r Panel i gyrraedd argymhellion teg a chytbwys.

Byddwch yn gweithio gyda chynrychiolwyr cyflogwyr a gweithwyr ac yn ymgysylltu ag uwch randdeiliaid ar draws y llywodraeth a’r sector amaethyddol yn ôl yr angen. Byddwch  yn atebol i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig 

Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan y rhai sydd â phrofiad mewn:

  • cysylltiadau cyflogaeth
  • fframweithiau cyflog a gosod cyflogau
  • gwybodaeth a mewnwelediadau i’r farchnad lafur 
  • cyfraith cyflogaeth neu bolisi rheoleiddio
  • rolau llywodraethu, sicrwydd neu gynghori yn y sector cyhoeddus
  • rheoleiddio cymesur a fframweithiau penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth

Fel Cadeirydd byddwch yn gyfrifol am roi arweiniad strategol ar y canlynol:

  • Cadeirio cyfarfodydd sy’n ymwneud ag annog her adeiladol a datrys problemau ar y cyd 
  • Darparu cyfeiriad strategol clir fel y gall y Panel gyflawni ei gylch gwaith 
  • Cefnogi pob aelod i gyfrannu’n hyderus ac yn gyfartal 
  • Datblygu consensws ar draws cynrychiolwyr cyflogwyr a gweithwyr 
  • Sicrhau bod argymhellion yn deg, yn gymesur ac wedi’u hegluro’n glir 
  • Cynnal gwaith llywodraethu cryf, tryloywder a didueddrwydd 
  • Hyrwyddo gwaith teg a thâl teg yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru  
  • Cyflwyno Gorchmynion drafft i Weinidogion Cymru gyda rhesymeg polisi clir 
  • Cymryd cyfrifoldeb am eglurder, ansawdd ac uniondeb penderfyniadau’r Panel. 

Manyleb y Person 

Hanfodol 

Rhaid i ymgeiswyr ddangos: 

  • Sgiliau cadeirio neu hwyluso rhagorol, yn enwedig pan fo angen negodi neu weithio mewn partneriaeth gymdeithasol  
  • Barn strategol gref a’r gallu i ddehongli gwybodaeth gymhleth 
  • Ymrwymiad clir i degwch, annibyniaeth a phenderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth 
  • Dealltwriaeth o waith teg a thâl teg, a’u gwerth i economi wledig Cymru 
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, gan gynnwys y gallu i esbonio argymhellion cytbwys yn glir 
  • Safonau uchel o uniondeb a phroffesiynoldeb 
  • Y gallu i adeiladu consensws tra’n aros yn ddiduedd a chanolbwyntio ar y mater dan sylw. 

Dymunol 

  • Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg, neu gefnogaeth gref i ddarparu gwasanaethau dwyieithog 
  • Dealltwriaeth o dueddiadau marchnadoedd llafur, mecanweithiau gosod cyflogau neu ddadansoddiad cysylltiedig 
  • Profiad o gyrff cynghori neu rolau llywodraethu 
  • Dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu cyflogwyr a gweithwyr mewn sectorau cyflog isel 
  • Y gallu i ddod â dealltwriaeth o gefndiroedd proffesiynol, academaidd neu bolisi perthnasol. 

Lleoliad 

Mae’r Panel yn cyfarfod ar sail “Digidol yn ddiofyn” gan ddefnyddio Microsoft Teams. Pan fo angen cyfarfod wyneb yn wyneb, mae hyn fel arfer yng Nghanolbarth Cymru, er y gellir defnyddio lleoliadau eraill o bryd i’w gilydd.

Y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei bod yn bwysig datblygu a hybu dwyieithrwydd wrth benodi i gyrff cyhoeddus yng Nghymru, ac mae’n croesawu ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr sy’n gallu dangos eu bod yn gallu gweithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 6/03/2026 (16:00). 

Sut i wneud cais

I gael rhagor o fanylion ac i wneud cais, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ nawr.