Partner Busnes Adnoddau Dynol – Prifysgol Aberystwyth

Athrofa/Adran: Adnoddau Dynol

Graddfa Cyflog: £47,389.29 – £56,535.44 y flwyddyn

Math o Gytundeb: Parhaol, Llawn Amser

Oriau Wythnosol: 36.5

Dyddiad Cau : 09/11/2025

Dogfennau : HR.25.5923 Disgrifiad Swydd

Y rôl

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy’n ceisio am swydd sydd â threfniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd neu yn ystod y tymor yn unig. 

Mae’r Partner Busnes Adnoddau Dynol (AD) yn gyfrifol am weithio mewn partneriaeth â’r meysydd busnes a benodwyd iddynt i ddarparu gwasanaeth Adnoddau Dynol a gwasanaeth datblygu sefydliadol proffesiynol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac yn gyrru gwell perfformiad.  Bydd deiliad y swydd yn cael ei glustnodi i ddarparu gwasanaeth i adrannau neu ardaloedd gwaith penodedig yn y Brifysgol.   

Prif swyddogaeth y rôl fydd datblygu strategaethau a chyflwyno mentrau busnes a rhaglenni i’r gweithlu, sy’n cefnogi cynlluniau ac amcanion yr adran.  Bydd y rôl hefyd yn gyfrifol am ddarparu cymorth gweithredol i reolwyr ar faterion cymhleth sy’n ymwneud â chysylltiadau â gweithwyr cyflogedig gan weithio ar y cyd â chydweithwyr AD i sicrhau bod safonau uchel yn cael eu bodloni.  Bydd y Partner Busnes AD yn cyfrannu at brosiectau AD ar draws y Brifysgol yn unol â chyfarwyddiadau eu rheolwr llinell. 

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Deb Rhead ar der31@aber.ac.uk . 

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 – 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.   

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Gallai’r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a’i newid i gyd-fynd â newidiadau yn anghenion y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol, ac/neu i ychwanegu unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill.

Y Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau  

Arweinyddiaeth strategol AD

  • Datblygu a gweithredu cynllun pobl sy’n cyd-fynd â strategaeth a gwerthoedd y brifysgol.
  • Gweithio mewn partneriaeth ag arweinwyr uwch yn y Gwasanaethau Proffesiynol (e.e, Cyllid, Ystadau, TG, Marchnata) i gynorthwyo â gwaith cynllunio’r gweithlu, dylunio sefydliadol, a mentrau newid. 
  • Defnyddio data a dealltwriaeth i lywio penderfyniadau a mesur effaith ymyriadau AD.

Rheoli Talent a Datblygu

  • Arwain y gwaith cynllunio ar gyfer olyniaeth a datblygu ffrwd gyson o dalent, gan sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant trwy weithio gyda Phartner Busnes Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant. 
  • Cynorthwyo partneriaid wrth recriwtio, gan gynnwys strategaethau denu a dethol cynhwysol.
  • Cydweithio ar gynlluniau hyfforddi a datblygu gyda thimau Datblygu Sefydliadol er mwyn cadw talent a meithrin gallu.

Cysylltiadau â Gweithwyr Cyflogedig a Chreu Cyswllt

  • Cynghori a hyfforddi rheolwyr ar faterion yn ymwneud â chysylltiadau â gweithwyr cyflogedig, yn ffurfiol ac anffurfiol.
  • Hyrwyddo diwylliant cadarnhaol a chynhwysol yn y gweithle, gan gefnogi mentrau lles a rhaglenni cyswllt.
  • Sicrhau bod cysondeb wrth weithredu polisïau a gweithdrefnau AD ar draws adrannau.

Perfformiad a Gwobrwyo

  • Cynorthwyo Penaethiaid Adrannau a Rheolwyr Llinell i ddatblygu perfformiad, gan sicrhau bod perfformiad yn cael ei gydnabod a bod tanberfformio yn cael ei ddatrys.
  • Datblygu ac ymgorffori proses ystwyth ar gyfer datblygu perfformiad ac adnoddau cefnogol.
  • Cyfrannu at brosesau i gloriannu swyddi a gwobrwyo.

Rheoli Newid a Datblygu Sefydliadol

  • Cynorthwyo ac arwain ar brosiectau yn ymwneud â newid sefydliadol, gan gynnwys ailstrwythuro a gwelliannau i wasanaethau.
  • Gweithredu fel person cyswllt rhwng adrannau a swyddogaethau canolog AD (e.e., Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant, Dysgu a Datblygu, y Gyflogres).

Cydweithio a Chyfathrebu

  • Gweithio’n agos gyda thimau AD sydd wedi’u hymgorffori ar draws cyfadrannau a gwasanaethau yn ogystal â Phartneriaid Busnes Adnoddau Dynol eraill.
  • Pontio rhwng y Gwasanaethau Proffesiynol ac AD, gan sicrhau eu bod yn cydweddu a bod cysondeb rhyngddynt.
  • Cynorthwyo Pennaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol trwy ysgrifennu adroddiadau ar gyfer sesiynau briffio’r weithrediaeth a’r cyngor. 

Cyfrifoldebau Ychwanegol 

  • Ymgymryd â dyletswyddau eraill a glustnodir i chi gan eich rheolwr llinell, sy’n cyd-fynd â graddfa’r swydd.  
  • Cymryd rhan mewn prosiectau a rhaglenni ar lefel y brifysgol yn ôl y cyfarwyddyd, ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n gymesur â’r rôl, fel y’u pennir i chi gan y rheolwr llinell. 
  • Dangos hyblygrwydd trwy gefnogi cydweithwyr mewn cyfnodau pan fo’r llwyth gwaith yn drwm, gan gynnwys mynd i ddigwyddiadau allweddol y brifysgol megis diwrnodau agored a seremonïau graddio, a all gynnwys gweithio ar benwythnosau. 
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal, a chefnogi a chynnal ymrwymiad y Brifysgol i amrywioldeb a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eich gwaith.  
  • Cefnogi strategaeth y brifysgol a’r cynlluniau ategol, ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn unol â gofynion y swydd, gan gynnwys ymgymryd â gweithgareddau hyfforddi a datblygu perthnasol er mwyn eich datblygu’ch hunan a chefnogi datblygiad pobl eraill.
  • Cyflawni’r cyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd, gan fynd ati’n weithredol i hybu iechyd, diogelwch a lles personol y staff a’r myfyrwyr fel aelod o gymuned Aberystwyth.  Yn ogystal â hyn, cefnogi ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd amgylcheddol trwy feithrin arferion cyfrifol a chyfranogi’n briodol.   

Nid yw’r uchod yn rhoi rhestr gynhwysfawr o’r holl ddyletswyddau sy’n gysylltiedig â’r rôl hon. 

Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol

Hanfodol 

  1. Aelodaeth Siartredig o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) neu brofiad neu gymhwyster cyfatebol.
  2. Profiad perthnasol o weithredu ar lefel Partner Busnes.
  3. Profiad o ymwneud ag undebau llafur ac o drafod â hwy.
  4. Profiad sylweddol o ymdrin â materion yn ymwneud â chysylltiadau â gweithwyr cyflogedig gan gynnwys gwaith achosion cymhleth a rheoli tribiwnlysoedd a chymryd rhan ynddynt.
  5. Gwybodaeth gyfredol am gynseiliau o ran cyfraith cyflogaeth, cyfraith achosion, er mwyn darparu cyngor priodol.
  6. Gallu troi’ch crebwyll busnes yn rhaglenni cryf i’r gweithlu sy’n creu effaith ac yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau strategol.
  7. Prawf o’ch gallu i reoli newid sefydliadol, cynllunio’r gweithlu, ailstrwythuro a newid diwylliannol.
  8. Prawf o’ch gallu i weithredu fel rhan o dîm a’r gallu i fod yn rhanddeiliad allweddol.
  9. Cyfathrebwr hyderus gyda sgiliau llafar ac ysgrifenedig ardderchog gan gynnwys sgiliau argyhoeddi, dyfalbarhad, anogaeth, cyd-drafod, sgiliau dylanwadu, ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno. 
  10. Wedi datblygu sgiliau TG da gan ddefnyddio Microsoft Office, pecynnau AD pwrpasol a’r gronfa ddata AD.
  11. Gallu gweithio gyda blaenoriaethau sy’n gwrthdaro a’i gilydd ac i derfynau amser tynn, gan roi sylw i fanylion ar yr un pryd.
  12. Menter, a sgiliau da o ran datrys problemau, dadansoddi a gwneud penderfyniadau.
  13. Gallu gweithredu’n rheolwr llinell i hyfforddi cydweithwyr proffesiynol, dirprwyo’n effeithiol a sicrhau safonau ansawdd.
  14. Cymraeg Llafar (siarad) ac Ysgrifenedig Lefel C1.*

Manteisiol

  1. Cymrodoriaeth y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).
  2. Profiad o gyflawni canlyniadau gweithredol y gwaith sy’n ymwneud â chysylltiadau â gweithwyr cyflogedig naill ai o ran medrusrwydd, disgyblu neu ddileu swyddi. 
  3. Sgiliau cyfryngu achrededig.
  4. Sgiliau TG uwch, yn benodol Excel a Word.
  5. Cymraeg Llafar ac Ysgrifenedig Lefel C2.*

*Cewch ragor o wybodaeth am lefelau’r iaith Gymraeg yma:

https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/welsh-standards

Sut i wneud cais

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy’n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.

Dylid gwneud cais am y swydd wag hon trwy jobs.aber.ac.uk.   Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Buddion

  • Polisi gweithio’n hyblyg
  • 36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
  • Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
  • Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
  • Cyfraniad uwch i’n cynlluniau pensiwn gweithle
  • Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
  • Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
  • Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
  • Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
  • Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws. 


Sut i wneud cais