Partner Busnes Adnoddau Dynol : Prifysgol Aberystwyth
36.5 awr yr wythnos
Gradd 8: £47,389.29 -£56,535.44 y flwyddyn (pro rata)
Dyddiad cau: 7 / 12/ 25
I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy’n ceisio am swydd sydd â threfniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd neu yn ystod y tymor yn unig.
Mae’r Partner Busnes Adnoddau Dynol (AD) yn gyfrifol am weithio mewn partneriaeth â’r meysydd busnes a benodwyd iddynt i ddarparu gwasanaeth Adnoddau Dynol a gwasanaeth datblygu sefydliadol proffesiynol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac yn gyrru gwell perfformiad. Bydd deiliad y swydd yn cael ei glustnodi i ddarparu gwasanaeth i adrannau neu ardaloedd gwaith penodedig yn y Brifysgol.
Prif swyddogaeth y rôl fydd datblygu strategaethau a chyflwyno mentrau busnes a rhaglenni i’r gweithlu, sy’n cefnogi cynlluniau ac amcanion yr adran. Bydd y rôl hefyd yn gyfrifol am ddarparu cymorth gweithredol i reolwyr ar faterion cymhleth sy’n ymwneud â chysylltiadau â gweithwyr cyflogedig gan weithio ar y cyd â chydweithwyr AD i sicrhau bod safonau uchel yn cael eu bodloni. Bydd y Partner Busnes AD yn cyfrannu at brosiectau AD ar draws y Brifysgol yn unol â chyfarwyddiadau eu rheolwr llinell.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Deb Rhead ar der31@aber.ac.uk .
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 – 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.

