Peiriannydd Perfformiad Asedau

Teitl Swydd
Peiriannydd Perfformiad Asedau
Enw’r Cwmni
Cyfoeth Naturiol Cymru
Lleoliad
Bangor – Maes y Ffynnon, Bwcle, Y Trallwng – Coed y Gororau
Cyflog
£33,755 – £36,693
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 14/10/2026

Lleoliad: Bangor – Maes y Ffynnon, Bwcle, Y Trallwng – Coed y Gororau
Gradd / Amrediad cyflog: 04: £33,755 – £36,693
Patrwm gwaith: Llawn amser – 37 awr y wythnos
Math o gytundeb: Parhaol
Lefel hyfedredd yn y Gymraeg: A2 – Lefel sylfaen
Dyddiad cau: 14/10/2026

Y rôl

Fel Peiriannydd yn ein tîm Perfformiad Asedau, byddwch yn chwarae rhan allweddol er mwyn helpu i ddiogelu cymunedau a’r amgylchedd rhag perygl llifogydd ledled Gogledd Cymru. Gan ddefnyddio data asedau, dadansoddiadau technegol a gwneud penderfyniadau’n seiliedig ar dystiolaeth, byddwch yn helpu i lywio’r buddsoddiad yn y presennol a’r dyfodol i reoli perygl llifogydd, gan sicrhau bod ein hasedau amddiffyn rhag llifogydd yn parhau i berfformio’n effeithiol. Gan weithio’n agos gyda thimau gweithredol a rhanddeiliaid, byddwch yn cyfrannu at atebion cynaliadwy, hirdymor sy’n cefnogi cymunedau ac ecosystemau gwydn. Ym mhopeth a wnewch, byddwch yn ymgorffori egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), gan helpu i greu budd parhaus i bobl a’r amgylchedd, y naill a’r llall.

Mae gyrru’n hanfodol i’r rôl hon gan y bydd gofyn ichi fynychu cyfarfodydd partneriaid proffesiynol ac ymweld â safleoedd adeiladu ac ar-safle yn rheolaidd. Rhaid ichi feddu ar drwydded yrru lawn a chyfredol y DU.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, ac fe gytunir patrwm gwaith hybrid priodol ar eich penodiad. Bydd unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd neu hyfforddiant yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â James Williams at james.p.williams@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n wyneb i wyneb ar 02/11/2026 (bydd manylion lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cynorthwyo i ddatblygu a rheoli rhaglen waith sy’n cyfrannu at gyrraedd targedau’r Gyfarwyddiaeth.
  • Helpu i sicrhau bod penderfyniadau lleol yn gyson ac yn seiliedig ar risg ac yn unol â’r dull Llywodraethu y cytunwyd arno.
  • Cynorthwyo i gynnal y System Genedlaethol ar gyfer Rheoli Asedau Perygl Llifogydd, AMX a data perygl llifogydd cysylltiedig.
  • Casglu data o ffynonellau yn ôl y gofyn er mwyn helpu i ddadansoddi anghenion rheoli asedau perygl llifogydd.
  • Cefnogi Timau Gweithrediadau i alluogi cyflawni’r rhaglen Cynnal a Chadw Asedau drwy ddarparu gwybodaeth berthnasol.
  • Cynorthwyo i baratoi astudiaethau cyn-ddichonoldeb sy’n deillio o Gynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd a Chynlluniau Rheoli Traethlin.
  • Cefnogi arferion gorau o ran Iechyd a Diogelwch drwy fynd ati’n rhagweithiol i hybu ymwybyddiaeth a sicrhau bod arferion gwaith diogel yn cael eu darparu i gydymffurfio â pholisïau a safonau CNC.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau. 
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Mae addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth mewn pwnc gwyddonol neu beirianneg yn ddymunol, neu’r gallu i ddangos profiad perthnasol cyfatebol.
  2. Gwybodaeth am weithgareddau rheoli perygl llifogydd a dealltwriaeth o’r dulliau ehangach o reoli asedau afonydd ac arfordirol.
  3. Gwybodaeth sylfaenol am TGCh. Gwybodaeth am systemau GIS a CAD (e.e. ARCGIS, AutoCAD).
  4. Byddai rhywfaint o ymwybyddiaeth o reoliadau Iechyd a Diogelwch a rheoliadau perthnasol e.e. Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) (CDM) 2015 yn fanteisiol.
  5. Rhaid meddu ar drwydded yrru lawn y DU.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A2 – Lefel sylfaen

Gofynion y Gymraeg

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r Gofynion y Gymraeg y rôl hon ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.

Gwybodaeth ychwanegol

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.

Ni all Cyfoeth Naturiol Cymru gynnig nawdd fisa ar gyfer y swydd hon. Er bod gennym drwydded ar gyfer nawdd fisa i Weithwyr Medrus, mae ond yn berthnasol i rolau penodol sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra a’r gofynion cyflog a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y llwybr fisa i Weithwyr Medrus.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Cyfeirnod Swydd
202997

Sut i wneud cais

Cliciwch ar “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.