PENNAETH – Ysgol Bro Epynt

Teitl Swydd
PENNAETH – Ysgol Bro Epynt
Enw’r Cwmni
Cyngor Sir Powys
Lleoliad
Ysgol Bro Epynt (Ysgol Gymraeg Bob Oed Newydd) Llanfair-ym-Muallt
Cyflog
ISR: 18 – 24 (£80,080 – £92,754)
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 06/09/2026

Ysgol Bro Epynt (Ysgol Gymraeg Bob Oed Newydd) Llanfair-ym-Muallt
Yn eisiau o: Ionawr 2027 neu’n gynharach
32.5 awr, Parhaol

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 06/09/2026
Cyfweliadau: 22 – 23 Medi 2026


Mae Cyngor Sir Powys yn bwrw ymlaen â chynllun uchelgeisiol i agor ysgol Gymraeg bob oed newydd yn Llanfair-ym-Muallt ym mis Medi 2027, sy’n nodi cam sylweddol ymlaen o ran ehangu addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Canolbarth a De Powys. Bydd y datblygiad hwn yn creu llwybr dysgu di-dor o’r blynyddoedd cynnar i’r ysgol uwchradd, yn cynyddu mynediad i deuluoedd, ac yn gweithredu fel catalydd ar gyfer datblygu’r Gymraeg ar draws yr ardal.

Mae Corff Llywodraethu Dros Dro yr ysgol yn dymuno penodi Pennaeth uchelgeisiol, deinamig a gweledigaethol i arwain sefydlu’r ysgol, ac mae am ddod o hyd i bennaeth a fydd yn:

• arweinydd ysbrydoledig ac arloesol ac yn rheolwr newid effeithiol
• dangos ymrwymiad cryf i addysg Gymraeg a diwylliant Cymru
• canolbwyntio ar welliant parhaus, gan yrru ansawdd a safonau ac ysgogi staff a disgyblion fel ei gilydd
• arwain cyfeiriad strategol a datblygiad yr ysgol
• gweithio mewn partneriaeth â’r Cyngor, y Corff Llywodraethol Dros Dro, ysgolion cynradd sy’n bwydo a lleoliadau blynyddoedd cynnar i hyrwyddo a thyfu’r ysgol, gan gynyddu niferoedd disgyblion a sicrhau ei chynaladwyedd tymor hir.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio efo’r Cyngor a’r Corff Llywodraethol Dros Dro i lunio darpariaeth addysgol newydd sbon ym Mhowys, ac yn gyfle euraidd i chwarae rhan allweddol yn natblygiad pellach addysg cyfrwng Cymraeg yn Llanfair-ym-Muallt a’r ardal gyfagos, gan lunio cyfeiriad yr ysgol wrth iddi dyfu dros y blynyddoedd i ddod. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn allweddol wrth greu sylfaen gadarn ar gyfer dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, hyrwyddo rhagoriaeth ddwyieithog a chyfoethogi bywydau disgyblion a’r gymuned ehangach.

Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig ac arloesol sydd â hanes profedig o weithredu ar lefel uwch reolaeth, gyda sgiliau arweinyddiaeth, trefniadol a rhyngbersonol strategol a gweithredol sydd wedi’u datblygu’n dda. Byddwch yn ymrwymedig i ddarparu dysgu o ansawdd uchel i bob disgybl ac i weithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned i ddarparu amgylchedd lle mae staff a disgyblion yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial llawn.

Bydd yr ysgol yn agor ar gyfer disgyblion Derbyn i Flwyddyn 9 ym mis Medi 2027, a bydd grwpiau blwyddyn ychwanegol yn cael eu hychwanegu wrth i’r disgyblion hyn symud drwy’r ysgol, nes iddi ddarparu addysg i ddisgyblion hyd at Flwyddyn 13 yn y pen draw. Bydd yr ysgol wedi’i lleoli ar gampws presennol Ysgol Calon Cymru yn Llanfair-ym-Muallt.

Os ydych chi’n angerddol am ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel, yn ymrwymedig i feithrin amgylchedd Cymraeg ffyniannus, ac yn awyddus i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr hyderus, dwyieithog, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Dyma hysbyseb ar gyfer swydd Pennaeth lle mae rhuglder llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol. (Cymhwysedd Cymraeg Lefel 5).

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen Gwneud Cais isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.