Prentisiaeth Gweithiwr Desg Gymorth Gwasanaeth Cwsmeriaid (Cymraeg yn Hanfodol) 

Teitl Swydd
Prentisiaeth Gweithiwr Desg Gymorth Gwasanaeth Cwsmeriaid (Cymraeg yn Hanfodol) 
Enw’r Cwmni
Awdurdod Cyllid Cymru
Lleoliad
Merthyr / Caerdydd. Rydym yn annog gweithio hyblyg a hybrid.
Cyflog
Ystod cyflog: £27,302 – £29,291
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 18/08/2026

Yn y swydd hon chi fydd un o’r pwyntiau cyswllt cyntaf i gwsmeriaid Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), gan gynnwys trethdalwyr a’u cynrychiolwyr. Byddwch yn rhan bwysig o roi profiadau cadarnhaol i gwsmeriaid ac yn helpu pobl i gyflawni eu rhwymedigaethau treth yn gywir ac yn brydlon. 

Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn.

Mae hon yn swydd lawn amser. Fodd bynnag, croesewir trefniadau gweithio hyblyg a rhannu swydd a byddant yn cael eu hystyried.

Lleoliad: Rydym yn annog gweithio hyblyg a hybrid. Bydd angen mynychu’r swyddfa rhywfaint ar sail anghenion busnes. Mae’r swydd hon wedi’i lleoli yn ein swyddfa ym Merthyr neu yng Nghaerdydd.

Gweler ein swyddi gwag cyfredol a sut i wneud cais am ein rolau

Cyfeirnod Swydd
474778

Sut i wneud cais

Dyddiad ac amser cau: 18 Awst 2026 am 11:55pm

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.