Rhedwr Cynhyrchu

Teitl Swydd
Rhedwr Cynhyrchu
Enw’r Cwmni
Tinopolis
Lleoliad
Llanelli
Cyflog
yn ddibynnol ar brofiad
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 21/06/2026

Tinopolis – Llanelli

Ry’ niʼn chwilio am berson brwdfrydig, dibynadwy a threfnus i ymuno a thîm cynhyrchu Tinopolis yn Llanelli. Bydd yr ymgeisydd Ilwyddiannus yn ymwneud a phob agwedd o waith y tîmoedd cynhyrchu ar draws ystod o’n cynnwys.

Mae hon yn swydd lefel mynediad, sy’n addas i rywun sydd eisiau dechrau gyrfa mewn cynhyrchu cynnwys a theledu byw.

Bydd y Rhedwr yn helpu gyda llawer o dasgau gwahanol yn y swyddfa, yn y stiwdio, ar leoliad ac yn ystod darllediadau. Mae angen bod yn drefnus, yn dda am gyfathrebu, yn hyblyg, yn egniol, ac yn gallu gweithio’n dawel dan bwysau o fewn tîm.

Prif gyfrifoldebau
· Cefnogi’r tîm cynhyrchu gyda thasgau gweinyddol, ymarferol a gwaith papur o ddydd i ddydd.
. Helpu gyda threfniadau yn y stiwdio, y swyddfa ac ar leoliadau, gan gynnwys paratoi ardaloedd cynhyrchu, ystafelloedd gwyrdd ac ystafelloedd gwisgo.
· Cefnogi rhedeg y cynhyrchiad drwy ddosbarthu deunyddiau, symud eitemau rhwng adrannau a helpu gyda rhaglenni byw ac offer megis Awtociw.
. Croesawu a chefnogi cyfranwyr, gwesteion, talent a chynulleidfaoedd, gan gynnwys cofrestru a threfniadau teithio neu gyflenwadau pan fo angen.
· Dilyn polisïau iechyd a diogelwch, diogelu a diogelu data, cadw gwybodaeth yn gyfrinachol, a bod yn barod i weithio oriau hyblyg pan fo angen.

Sgiliau perthnasol
. Sgiliau trefnu a chyfathrebu da, gyda sylw i fanylion a’r gallu i ddefnyddio offer swyddfa megis e-bost a meddalwedd swyddfa.
· Agwedd gadarnhaol, broffesiynol a dibynadwy, gyda’r gallu i weithio’n dda gyda chydweithwyr, talent, gwesteion a chyfranwyr
. Gallu i weithio’n effeithiol dan bwysau, dilyn cyfarwyddiadau a gweithio fel rhan o dîm prysur.
· Diddordeb mewn cynhyrchu cynnwys ar draws pob platfform, yn enwedig rhaglenni byw, stiwdio a rhaglenni cylchgrawn.

Rydym yn gwmni sy’n awyddus I adlewyrchu’r cymunedau ry’ ni’n gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfleon cyfartal. Ry’ ni bob amser yn croesawu ceisiadau wrth unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb, a chefndir cymdeithasol yn unol a Deddf Gydraddoldeb 2010.

Lleoliad: Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin. SA15 3YE

Cyflog: yn ddibynnol ar brofiad

Dyddiad Cau: 21 Mehefin 2026

Manylion pellach

Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys, penwythnosau a gwyliau banc.

Gwyliau: Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno a Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 12:00 y prynhawn ar Ddydd Sul, 21 Mehefin 2026 at swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE

Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd yn ofynnol cael tystiolaeth ddogfennol o gymhwyster gan ymgeiswyr fel rhan o’r broses recriwtio.

Gwybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch chi pan fyddwch yn ymgeisio am swydd yn Tinopolis: Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV fel rhan o’r broses. Byddwn yn cadw copi o’ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn codi yn y cyfnod hwn, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn cysylltu a chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg. Am ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler http://www.tinopolis.com/privacy-notice/

Sut i wneud cais

Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 12:00 y prynhawn ar Ddydd Sul, 21 Mehefin 2026 at swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE