Rheolwr Adnoddau Dynol

Teitl Swydd
Rheolwr Adnoddau Dynol
Enw’r Cwmni
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Lleoliad
Hybrid / Aberystwyth (Bydd disgwyl mynychu’r swyddfa am leiafswm o 2 diwrnod yr wythnos).
Cyflog
£37,112 to £45,379 y flwyddyn pro rata (a buddion)
Llawn/Rhan-amser
Rhan amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 09/11/2026

Cytundeb parhaol

Cyfle AD cyffrous o fewn Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Sefydlwyd y Comisiwn Brenhinol ym 1908 ac fe’i noddir gan Lywodraeth Cymru. Fel y corff ymchwilio ac archif genedlaethol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru, mae ganddo rôl arweiniol wrth sicrhau bod treftadaeth archeolegol, adeiledig a morwrol Cymru yn cael ei chofnodi’n awdurdodol; mae hefyd yn ceisio hyrwyddo dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r dreftadaeth hon, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r Comisiwn yn cadw Cofnod Cenedlaethol Henebion Cymru (NMRW) – sef yr adnodd gwybodaeth cenedlaethol sy’n ymwneud ag archeoleg, pensaernïaeth, a hanes diwydiannol a morwrol Cymru.

Rheolwr AD

Gan ateb i’r Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol, mae’r Rheolwr Adnoddau Dynol yn gyfrifol am sicrhau bod y Comisiwn yn cyflawni ei amcanion strategol trwy reoli ei swyddogaeth adnoddau dynol yn effeithiol.

Mae’r swydd yn rhan o dîm Gwasanaethau Corfforaethol y Comisiwn Brenhinol, sy’n cynnwys pedwar prif faes gweithgaredd: Cyllid a Gweithrediadau, Ymchwil a Datblygu Busnes, Adnoddau Dynol, a Chymorth Corfforaethol.

Cyflog: £37,112 to £45,379 y flwyddyn (a buddion)

Oriau gwaith: 29.6 awr yr wythnos dros 4 diwrnod. (Yn cyfateb i 0.8 o swydd llawn amser).

Am sgwrs anffurfiol plîs cysylltwch â Helen Pugsley, Rheolwr AD ar 01970 621220 neu thrwy e-bost: helen.pugsley@rcahmw.gov.uk

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth a ffurflen gais yma: RCAHMW | Gweithio i’r Comisiwn | Swyddi sy’n Wag ar hyn o bryd.

Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw 09:00, 09 Tachwedd 2026

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y botwm “Gwneud Cais” isod am swydd ddisgrifiad llawn a ffurflen gais.