Rheolwr Adnoddau Dynol

Teitl Swydd
Rheolwr Adnoddau Dynol
Enw’r Cwmni
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Lleoliad
Hybrid neu gweithio o bell
Cyflog
£37,112 to £45,379 y flwyddyn pro-rata (a buddion) Ystyrir oriau llawn amser hefyd fel opsiwn
Llawn/Rhan-amser
Rhan amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 02/12/2026

Cytundeb parhaol – ystyrir trefniadau gwaith hybrid neu gweithio o bell

Cyfle AD cyffrous o fewn Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Sefydlwyd y Comisiwn Brenhinol ym 1908 ac fe’i noddir gan Lywodraeth Cymru. Fel y corff ymchwilio ac archif genedlaethol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru, mae ganddo rôl arweiniol wrth sicrhau bod treftadaeth archeolegol, adeiledig a morwrol Cymru yn cael ei chofnodi’n awdurdodol; mae hefyd yn ceisio hyrwyddo dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r dreftadaeth hon, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r Comisiwn yn cadw Cofnod Cenedlaethol Henebion Cymru (NMRW) – sef yr adnodd gwybodaeth cenedlaethol sy’n ymwneud ag archeoleg, pensaernïaeth, a hanes diwydiannol a morwrol Cymru.

Rheolwr AD

Gan ateb i’r Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol, mae’r Rheolwr Adnoddau Dynol yn gyfrifol am sicrhau bod y Comisiwn yn cyflawni ei amcanion strategol trwy reoli ei swyddogaeth adnoddau dynol yn effeithiol.

Mae’r swydd yn rhan o dîm Gwasanaethau Corfforaethol y Comisiwn Brenhinol, sy’n cynnwys pedwar prif faes gweithgaredd: Cyllid a Gweithrediadau, Ymchwil a Datblygu Busnes, Adnoddau Dynol, a Chymorth Corfforaethol.

Cyflog: £37,112 to £45,379 y flwyddyn pro-rata (a buddion)

Oriau gwaith: 29.6 awr yr wythnos dros 4 diwrnod. (Yn cyfateb i 0.8 o swydd llawn amser). Ystyrir oriau llawn amser hefyd fel opsiwn

Am sgwrs anffurfiol plîs cysylltwch â Helen Pugsley, Rheolwr AD ar 01970 621220 neu thrwy e-bost: helen.pugsley@rcahmw.gov.uk

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth a ffurflen gais yma: RCAHMW | Gweithio i’r Comisiwn | Swyddi sy’n Wag ar hyn o bryd.

Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw 09:00, 02 Rhagfyr 2026

Y lefel o Gymraeg sydd ei hangen ar gyfer y swydd hon yw lefel 4 ar Fframwaith Asesu Sgiliau Cymraeg y Comisiwn Brenhinol. Er hynny, bydd ymgeiswyr sydd heb gymhwysedd yn y Gymraeg ar hyn o bryd (neu lefel is) yn cael eu hystyried ar gyfer y rôl hon, ar yr amod eu bod yn ymrwymo i gyrraedd lefel 2* o fewn cyfnod o 12 mis yn y swydd. Darperir hyfforddiant, amser priodol a chyllid ar ei gyfer.

Sut i wneud cais

Cliciwch ar “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.