Rheolwr Archebion Ymgysylltu – Dros dro
Cyflog: £32,028 – £37,076 (Band Rheoli 3 – EO)
Cyfnod: Swydd dros dro yw hon. Disgwylir iddi ddechrau ar 1 Ionawr 2027 a phara tan 31 Rhagfyr 2027. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau ar sail secondiad, ar yr amod eich bod wedi cael caniatâd eich cyflogwr presennol o flaen llaw.
Lleoliad: Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno (Gogledd Cymru) neu y Senedd, Ty Hywel, Bae Caerdydd (De Cymru). Bydd y rôl hon yn bennaf yn y swyddfa, a bydd cyfle i weithio o gartref 1-2 ddiwrnod yr wythnos yn dibynnu ar anghenion busnes.
Dyddiad cau: 23.59 29 Medi 2026
Rydym yn recriwtio Rheolwr Archebion dros dro o fewn y tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid. Byddwch yn gweithio gyda’n cydweithwyr ar draws y Senedd i ddarparu gwasanaeth cwsmer di-dor ar draws ein holl wasanaethau ymgysylltu, gan sicrhau bod cyfathrebu clir yn ystod pob pwynt cyswllt wrth i ni alinio gwaith ein timau sy’n wynebu’r cyhoedd.
Mae hwn yn gyfle gwych i ennill profiad o arwain tîm bach yn ystod cyfnod o newid wrth i ni gyflwyno System Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid bwrpasol a chymhwysiad archebion i wella cyfleoedd a gwasanaethau ymgysylltu â chwsmeriaid.
Byddwch yn helpu i ddatblygu a rheoli systemau busnes i alluogi’r tîm i gasglu gwybodaeth cwsmeriaid i archebu gweithgareddau a chyfleu’r archebion i’n rhanddeiliaid mewnol er mwyn gwneud yn fawr o gyfleoedd ymgysylltu.
Mae’r rôl hon yn gofyn am afael da ar fanylion, gallu datblygu prosesau clir, y gallu i flaenoriaethu adnoddau a’r gallu i ddangos hyblygrwydd wrth ddelio â blaenoriaethau gwrthgyferbyniol a sensitifrwydd gwleidyddol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r swydd-ddisgrifiad.
Meini prawf o ran y Gymraeg:
Mae’r sgiliau ieithyddol ar gyfer y swydd hon wedi’u hasesu fel a ganlyn:
Gwrando: Yn deall trafodaethau a chyfarwyddiadau hyd yn oed ar bynciau anghyfarwydd. (Lefel 4)
Siarad: Gallu cymryd rhan mewn trafodaethau a siarad yn faith, gan wneud hynny’n hyderus ac yn ddigymell. (Lefel 4)
Darllen: Yn deall gohebiaeth, erthyglau papur newydd ac adroddiadau wedi’u hanelu at siaradwyr Cymraeg rhugl. (Lefel 4)
Ysgrifennu Yn gallu ysgrifennu gwahanol fathau o destunau mewn arddulliau sy’n briodol i’r darllenydd sydd mewn golwg. (Lefel 4)
Caiff y sgiliau hyn eu hasesu fel rhan o’r broses ddethol

