Rheolwr Diogelwch Bwyd
Mae Pentref Portmeirion yn un o brif atyniadau twristiaeth Gogledd Cymru, mae’n gartref i ddau westy, bwytai, siopau a gerddi ac yn croesawu oddeutu 250,000 o ymwelwyr blynyddol.Rydym nawr yn chwilio am Reolwr Diogelwch Bwyd i ymuno â’r tîm yma ym Mhortmeirion. Bydd deilydd y swydd hon yn gyfrifol am sicrhau bod ein bwytai, cyflenwyr a chynhyrchion yn gyson yn bodloni’r safonau gofynnol o ran diogelwch bwyd, ansawdd a chydymffurfiaeth reoleiddiol. Byddwch yn ganolog o ran sicrhau cynnal safonau uchel, gan weithio’n agos gyda chyflenwyr a thimau mewnol. Swydd yw hon lle bydd eich arbenigedd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ddiogelu safon, cydymffurfiaeth a gwelliant parhaus ar draws y safle. Rôl ymarferol yw hon sydd yn greiddiol i’r busnes o ddiogelwch bwyd a rheoli alergenau.
Rydym yn chwilio am rywun gyda’r sgiliau isod
- Profiad mewn rôl debyg o fewn y diwydiant bwyd neu ddiod
- Hyfforddiant HACCP (Lefel 3) a Diogelwch Bwyd
- Lefel 3 neu 4 Diogelwch Bwyd neu gyfwerth (hanfodol)
- Lefel 3 Iechyd a Diogelwch (dymunol)
- Dealltwriaeth gadarn o reoli alergenau, HACCP, deddfwriaeth diogelwch bwyd a safonau bwyd.
- Sgiliau cyfathrebu da gyda manylder a chywirdeb rhagorol.
- Sgiliau Technoleg Gwybodaeth cryf gan gynnwys Excel, Word a PowerPoint.
- Bydd angen trwydded yrru ar gyfer y swydd hon.
- Sgiliau dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhugl (hanfodol)
Cyfrifoldebau Allweddol
- Monitro, gwirio a dilysu rheolaethau diogelwch bwyd ar draws y gadwyn gyflenwi a chynhyrchu.
- Sicrhau cydymffurfiaeth a deddfwriaeth ynghyd a safonau a pholisiau mewnol diogelwch bwyd.
- Darparu hyfforddiant ar ddiogelwch bwyd, hylendid a safonau cydymffurfio.
- Datblygu, monitro a chynnal system HACCP effeithiol, a diffinio peryglon diogelwch bwyd a risgiau hylendid, yn ogystal â sut i’w hatal, a sut mae deddfwriaeth bwyd yn berthnasol i bob allfa.
- Cynnal cofnodion cywir, manylebau cynnyrch a systemau adrodd.
- Adolygu a chymeradwyo dogfennaeth cyflenwyr a chynnal cofnodion ardystio cywir.
- Cadw cofnodion cyflenwyr yn drefnus ac yn barod i’w harchwilio bob amser.
Cywirdeb Alergenau a Maethol
- Sicrhau bod yr holl fanylebau cynnyrch yn gywir ac wedi’u ffeilio/storio’n gywir.
- Cadw rhestrau cynhwysion ar-lein sy’n wynebu gwesteion, data alergenau a gwybodaeth faethol yn gywir ac yn gyfredol.
- Cymryd yr awenau ar honiadau gwenwyno bwyd, gan sicrhau eu bod yn cael eu trin yn broffesiynol, yn drylwyr, ac yn unol a gofynion cyfreithiol a gofynion y cwmni.
- Sicrhau cydymffurfiaeth a gofynion ‘sgorau ar y Drysau’ EHO.
Beth rydym yn ei gynnig?
- Cyflog – £30,000 y flwyddyn
- Amgylchedd gweithle cadarnhaol gyda chyfleoedd i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol.
- Tawelwch meddwl gyda Yswiriant Bywyd Cyflogeion.
- Mwynhewch siopa a bwyta yn ein siopau a’n bwytai gyda gostyngiad o 10%
- 28 diwrnod o wyliau bob blwyddyn (pro rata i staff rhan amser)
Am fanylion pellach cysylltwch gyda Ellen Roberts, Rheolwr Adnoddau Dynol, Portmeirion Cyf ar 01766 772369 neu ebostiwch eich CV i swyddi@portmeirion.cymru

