Rheolwr y Ddesg Gymorth
Mae hon yn swydd lawn amser. Fodd bynnag, croesewir trefniadau gweithio hyblyg a rhannu swydd a byddant yn cael eu hystyried.
Lleoliad: Rydym yn annog gweithio hyblyg a hybrid. Bydd angen mynychu’r swyddfa rhywfaint ar sail anghenion busnes. Mae’r swydd hon wedi’i lleoli yn ein swyddfa ym Merthyr neu yng Nghaerdydd.
Amdanom ni
Rydym yn gyfrifol am y Dreth Trafodiadau Tir, y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac am gyflwyno Ardoll Ymwelwyr yng Nghymru. Mae ein gwaith yn casglu refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru. Ond nid dyna’r oll, rydym hefyd yn rhan o’r gwaith o ddylunio a chefnogi trethi ar gyfer Cymru yn y dyfodol.
Ymunwch â lle sydd â phwrpas
Byddwch yn ymuno â thîm o dros 100 o bobl dalentog o 14 o wahanol broffesiynau. Y ffordd orau o ddisgrifio ein diwylliant yw arloesol, cydweithredol a charedig. Trwy weithio gyda’n gilydd, byddwn yn darparu system dreth deg i Gymru.
Ein pobl
Byddwch yn gweithio gyda phobl o ystod o wahanol gefndiroedd a phrofiad. O Weithrediadau, Polisi, Digidol a Data, Adnoddau Dynol a Chyfathrebu i Gyllid – mae lle i chi yn ein tîm cyfeillgar.
Chi fydd ein caffaeliad pennaf
Byddwch yn ymuno â sefydliad cynhwysol ac yn rhan o dîm lle gallwch ffynnu, a lle byddwch yn cael eich gwobrwyo a’ch clywed.
Rydym yn cael ein cydnabod fel un o’r sefydliadau gorau ar gyfer ymgysylltiad pobl yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil. Mae cynhwysiant a thegwch yn un o’n meysydd cryfaf, yn ogystal â thâl a buddion – mae ein canlyniadau Arolwg Pobl yn dweud y cyfan!
Rydym hefyd yn cael ein cydnabod am fod yn arloesol ac yn sefydliad digidol, ‘seiliedig yn y cwmwl’ sy’n cefnogi gweithio hybrid a hyblyg gan alluogi cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith.
Mwy o wybodaeth am weithio i ni, ein swyddi a’n Cynllun Corfforaethol 2025 – 2028
Ynglŷn â’r swydd
Fel Rheolwr y Ddesg Gymorth o fewn swyddogaeth Gweithrediadau ACC, byddwch yn arwain y tîm rheng flaen sy’n gweithredu fel wyneb cyhoeddus ACC. Byddwch yn darparu arweinyddiaeth, arweiniad a chefnogaeth i dîm o arbenigwyr gwasanaeth cwsmeriaid dwyieithog, gan alluogi eu perfformiad o ddydd i ddydd a’u datblygiad parhaus.
Bydd deiliad y swydd yn adrodd i’r Rheolwr Gweithrediadau a bydd ganddynt gyfrifoldeb rheoli llinell am dîm y Ddesg Gymorth. Byddant hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Desg Gymorth arall i gynnal dull cyson a safonau uchel ar draws y timau Desg Gymorth gyfan. Bydd Rheolwr y Ddesg Gymorth yn cydlynu gweithrediad y Ddesg Gymorth o ddydd i ddydd ac yn cefnogi’r Rheolwr Gweithrediadau i ddarparu profiad cwsmer effeithiol ac o ansawdd uchel.
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y rôl hon, bydd deiliad y swydd yn hyderus wrth egluro sut y daethpwyd i benderfyniadau o fewn ein prosesau, gan ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ac amserol i gwsmeriaid mewnol ac allanol. Bydd angen i chi fod yn hyderus wrth ddelio â phobl, yn awyddus i ddysgu a bod ag agwedd gadarnhaol a brwdfrydig. Nid yw profiad blaenorol o reoli llinell yn hanfodol ar gyfer y rôl hon; fodd bynnag, mae profiad arweinyddiaeth yn ddymunol. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â hyfforddiant y Sefydliad Rheoli Llinell (ILM) fel rhan o’u datblygiad yn y rôl.
“Mae ein cydweithwyr desg gymorth yn arwain y gwaith o roi cyngor proffesiynol, arbenigol a chyfeillgar i’n cwsmeriaid, gan wneud argraffiad cyntaf hollbwysig yn ogystal â meithrin perthnasoedd hirdymor yr ymddiriedir ynddyn nhw. Byddwch yn ymuno â sefydliad diddorol a chefnogol, a gallwch fod yn falch o fod wrth wraidd ein busnes, yn casglu a rheoli ein trethi datganoledig, er mwyn ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru fel ysgolion ac ysbytai”.Paul Johnson – Gweithredwr Desg Gymorth Gwasanaeth Cwsmeriaid
Prif Dasgau
- Darparu arweinyddiaeth weladwy ac effeithiol i’r tîm Desg Gymorth.
- Rheoli gweithrediad dyddiol tîm y Ddesg Gymorth sy’n wynebu’r cyhoedd trwy gydlynu llwythi gwaith a gweithgareddau, a dyrannu tasgau yn ôl yr angen.
- Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Desg Gymorth arall i hybu amgylchedd gwaith cytûn a chynnal dull cyson ar draws y ddau dîm Desg Gymorth.
- Gweithio mewn partneriaeth â threthdalwyr a’u hasiantau i gefnogi Ein Dull, gan helpu i sicrhau proses deg, effeithlon a syml ar gyfer talu’r dreth iawn ar yr adeg iawn.
- Darparu hyfforddiant i aelodau’r tîm ar brosesau a gweithdrefnau perthnasol.
- Mynd i’r afael â materion o ddydd i ddydd yn effeithiol wrth iddynt godi.
- Rheoli rotas staff, absenoldeb ac argaeledd er mwyn sicrhau bod digon o staff ar draws sianeli cyfathrebu, a darparu cymorth rheng flaen yn ystod cyfnodau o alw brig gan gwsmeriaid.
- Nodi cyfleoedd a chynnal gweithgareddau ymgysylltu priodol er mwyn tynnu sylw at wallau a risgiau posibl mewn ffurflenni treth, gan gefnogi trethdalwyr i dalu’r dreth iawn ar yr adeg iawn.
- Ymgymryd â gweithgarwch sicrhau ansawdd er mwyn hybu ymagwedd gyson ar draws y tîm.
- Nodi a chyfeirio cyfleoedd posibl i wella prosesau neu weithdrefnau i’r Rheolwr Gweithrediadau.
- Gweithio ar y cyd â thimau ar draws Gweithrediadau a’r Awdurdod yn ehangach i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau Desg Gymorth yn effeithiol.
- Cefnogi Rheolwr Gweithrediadau’r Gwasanaeth i ddatrys cwynion cwsmeriaid.
- Gweithredu fel model rôl i’r tîm ac i gydweithwyr ar draws y sefydliad ehangach.
Sesiwn Wybodaeth i Ymgeiswyr
Os oes gennych ddiddordeb rôl hon, ymunwch â ni ar gyfer ein Sesiynau Gwybodaeth i Ymgeiswyr rhithwir. Byddwch yn cwrdd â’r Rheolwr Llinell, yn cael trosolwg o’r rôl yn ogystal â theimlad o sut beth yw gweithio yn ACC. Byddwn hefyd yn trafod ein buddion ac yn rhoi awgrymiadau defnyddiol ar gyfer eich cais gyda ni. Cofrestrwch ar gyfer un o’r sesiynau isod:
Cofrestrwch yma 27th Awst 12.30pm: https://RheolwryDdesgGymorthHelpdeskManager.eventbrite.co.uk
Cofrestrwch yma 27th Awst 16.00pm: https://RheolwryDdesgGymorthHelpdeskManager4pm.eventbrite.co.uk
Rydyn ni’n argymell eich bod yn adolygu’r swydd ddisgrifiad (neu pecyn ymgeiswyr) o dan yr adran ‘atodiadau’ cyn cwblhau eich cais.
Ieithoedd
Rydym wedi cynnal asesiad gwrthrychol o’r sgiliau Cymraeg sydd eu hangen ar gyfer ymgymryd â dyletswyddau’r rôl hon. Ar gyfer y rôl hon:
Sgiliau Cymraeg – Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi ddangos eich sgiliau Cymraeg ar y lefelau a nodir isod. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu yn ystod y broses recriwtio a byddwn yn esbonio’n glir sut y bydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu.
Lefelau sgiliau Cymraeg
Darllen Lefel 4 – Disgrifiad – Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â gwaith
Siarad Lefel 4 – Disgrifiad – Gallu cynnal y rhan fwyaf o sgyrsiau sy’n gysylltiedig â gwaith
Deall Lefel 4 – Disgrifiad – Gallu deall y rhan fwyaf o sgyrsiau sy’n ymwneud â gwaith
Ysgrifennu Lefel 4 – Disgrifiad – Gallu paratoi’r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn Gymraeg
Buddion
Ochr yn ochr â’ch cyflog o £30,754, mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cyfrannu £8,909 tuag at fod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Buddion wedi’i Ddiffinio’r Gwasanaeth Sifil. Darganfyddwch pa fuddion y mae’r Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn eu darparu (agor mewn ffenestr newydd).
Beth sydd gennym i’w gynnig
- 31 diwrnod o wyliau blynyddol + Gwyliau banc, a 2 Ddiwrnod braint
- Gweithio hyblyg a hybrid
- Cynlluniau pensiwn cyflogwr hael gyda chyfraniad o hyd at 28.97%
- Cynllun ceir Tusker
- Cycle2Work Vivup a chyflog ymlaen llaw ar gyfer prynu Tocynnau Teithio tymor
- Buddion Ffordd o Fyw sy’n cynnig gostyngiadau ar siopa, bwytai ac adloniant
- Awr lesiant bob wythnos
- Grwpiau chwaraeon â chymhorthdal
- Polisïau gwyliau addas i deuluoedd hael
- Cyrsiau Cymraeg am ddim ac amser o’r gwaith i ddysgu
- Ystod o rwydweithiau amrywiaeth staff
- Gwasanaeth cwnsela a chymorth am ddim trwy ein Rhaglen Cymorth i Gyflogeion a phlatfform iechyd Your Care Vivup
- Diwylliant ffyniannus sy’n cael ei ddisgrifio fel un arloesol, cydweithredol a charedig.

