Swyddi Llywodraeth Cymru Cymraeg Hanfodol : Is-Adran y Swyddfeydd Preifat ac Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Cyfle i weithio yng nghalon Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer nifer o rolau Cymraeg hanfodol yn is-adran y Swyddfeydd Preifat ac Ysgrifenyddiaeth y Cabinet.
Bydd y swyddi hyn yn rhoi cyfle unigryw i weithio’n agos gyda Gweinidogion ac uwch arweinwyr, gan fod yng nghanol sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu o ddydd i ddydd.
Os ydych chi – neu rywun rydych chi’n ei adnabod – yn chwilio am her newydd ac eisiau gwneud gwir wahaniaeth yng nghanol y llywodraeth, gallai hyn fod yn gyfle perffaith.
Darganfyddwch fwy a gwnewch gais yma.
Dyddiad cau: 12 Tachwedd 2025
Lleoliad: Caerdydd
Lincs i’r rolau
Cymorth gweinyddol – Swyddfa Breifat ac Ysgrifenyddiaeth y Cabinet x 4 – Cymraeg yn hanfodol –
Ystod cyflog neu fand cyflog: Cymorth Tîm £24,421 i £28,246
Ysgrifennydd Preifat Cynorthwyol ac Ysgrifennydd Dyddiadur x3 – Cymraeg yn hanfodol –
Ystod cyflog neu fand cyflog: Swyddog Gweithredol £29,657 i £33,748
Ysgrifennydd Preifat x3 – Cymraeg yn hanfodol –
Ystod cyflog neu fand cyflog: Swyddog Gweithredol Uwch £35,787 i £43,759

