Swyddog Cefnogi Rheoleiddio

Teitl Swydd
Swyddog Cefnogi Rheoleiddio
Enw’r Cwmni
Comisiynydd y Gymraeg
Lleoliad
Caerdydd / Caernarfon / Hybrid / o gartref
Cyflog
£30,755 – £34,997 y flwyddyn
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 10/05/2026

Math o gontract: Tymor Penodol (12 mis)

Oriau Gwaith: Llawn amser

Cyflog: £30,755 – £34,997 y flwyddyn. Penodir ar waelod y raddfa fel rheol.

Lleoliad: Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon. Gweithredir trefniant hybrid o weithio, gyda disgwyliad clir y bydd staff yn mynychu’r swyddfa o leiaf un diwrnod yr wythnos ar ddiwrnod angori penodedig, yn unol â threfniadau’r swyddfa berthnasol. Yn ogystal, anogir staff i weithio ail ddiwrnod yn y swyddfa lle bo hynny’n ymarferol, er mwyn cefnogi cydweithio, dysgu ar y cyd a chysylltiad tîm. Ystyrir hefyd yr opsiwn i fod yn Weithiwr Cartref os nad ydych yn byw o fewn pellter rhesymol o un o swyddfeydd y Comisiynydd.  

Y swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus a manwl ei waith i ymuno â thîm Rheoleiddio Comisiynydd y Gymraeg fel Swyddog Cefnogi Rheoleiddio ar gontract cyfnod penodol o 12 mis.

Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth gweinyddol a gweithredol hanfodol i gefnogi gwaith y Comisiynydd o ran monitro cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg, ymdrin â chwynion, a chynorthwyo â gwaith ymchwiliadau statudol. Mae’r rôl hon yn gyfle gwych i gael profiad uniongyrchol o waith rheoleiddio mewn cyd-destun polisi cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd y rôl yn addas i rywun sydd:

  • â sgiliau gweinyddol a threfniadol cryf
  • yn gallu delio’n broffesiynol â gwybodaeth sensitif
  • ac sydd â diddordeb mewn gwaith rheoleiddio, hawliau ieithyddol a’r Gymraeg.

Dyddiad cau: 12:00,  10 Mai 2026

Dyddiad y cyfweliad: w/c 25 Mai 2026   

Amdanom ni

Prif nod Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg.

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 sefydlodd swydd Comisiynydd y Gymraeg, ac mae’n egluro beth yw rôl y Comisiynydd a’i staff. Mae’r Comisiynydd yn ehangu hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg  drwy osod dyletswyddau cyfreithiol ar sefydliadau a gorfodi’r dyletswyddau hynny lle bo angen, mae rhan o’r gwaith hwn yn cynnwys ymchwilio i gwynion. Ymchwilir hefyd i geisiadau yn ymwneud ag ymyrraeth â’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg yng Nghymru.

Mae’r Comisiynydd yn gwneud gwaith ymchwil am y Gymraeg a’i siaradwyr, gan gyhoeddi adroddiad pob pum mlynedd sy’n gynnig trosolwg cynhwysfawr o sefyllfa’r Gymraeg. Mae hefyd yn cyhoeddi canllawiau o bob math i gefnogi sefydliadau i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.

Gwneir gwaith dylanwadu ar bolisi lle mae gwneud hynny’n strategol bwysig i’r Gymraeg. Mae’r Comisiynydd hefyd yn hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn ehangach gan weithio yn y trydydd sector a’r sector preifat. Mae’n gyfrifol am safoni enwau lleoedd ac am hyrwyddo’r cynllun Iaith Gwaith,a chynhelir ymgyrchoedd ymysg defnyddwyr y Gymraeg yn rheolaidd i roi gwybod am ein gwaith a’r cyfleoedd sydd i ddefnyddio’r Gymraeg.   

Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth sy’n briodol er mwyn hybu a hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg.Gweledigaeth hir dymor y Comisiynydd yw Cymru lle gall pobl fyw eu bywyd yn Gymraeg. Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon mae’r Comisiynydd yn gweithio tuag at gynyddu darpariaeth gwasanaethau Cymraeg a chyfleoedd eraill i bobl ddefnyddio’r iaith. 

Mae gan y Comisiynydd Gynllun Strategol tair blynedd sy’n gosod allan blaenoriaethau’r Comisiynydd er mwyn cyflawni’r weledigaeth: Cynllun Strategol

Cyflawnir hyn oll er mwyn gwireddu’r egwyddor a sefydlir gan y Mesur na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.  

Prif Ddyletswyddau

1. Darparu ysgrifenyddiaeth ar gyfer cyfarfodydd dyfarnu’r Comisiynydd.

2.   Cofnodi trafodion cyfarfodydd mewnol gan nodi pob penderfyniad a phwynt gweithredu gydag amserlenni a chydlynu gwybodaeth rhwng cyfarfodydd ar gynnydd y pwyntiau gweithredu dan sylw.

3.   Ymwneud gydag achwynwyr a sefydliadau mewn modd cwrtais a phriodol yn ôl yr angen.

4.   Bod yn gyfrifol am y broses o weinyddu cwynion, ymchwiliadau statudol, heriau ac apelau a honiadau o ymyrraeth i ddefnyddio’r Gymraeg yn unol â gweithdrefnau a pholisïau’r Comisiynydd.

5.   Cadw gwybodaeth fanwl gywir ar system TG y Comisiynydd mewn perthynas â’r swyddogaethau isod:

  • Cwynion a dderbynnir
  • Ymchwiliadau statudol
  • Cynlluniau Gweithredu a/neu Gamau Gorfodi
  • Heriau ac Apelau

6.   Cefnogi’r gwaith o ddatblygu a gwella systemau data’r Comisiynydd mewn perthynas â gwaith monitro, gan gyfrannu at archwilio potensial systemau a meddalwedd TG i gryfhau casglu, rheoli a dadansoddi gwybodaeth berthnasol.

7.   Cydlynu ac adrodd ar weithrediad dangosyddion perfformiad mewn perthynas â’n swyddogaethau rheoleiddio at ddibenion adrodd ar gynnydd ac ar gyfer cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol.

8.   Mewn cydweithrediad â’r tîm Cyfathrebu, bod yn bwynt cyswllt i’r Gyfarwyddiaeth ar gyfer uwch lwytho deunydd i’r wefan yn ôl yr angen.

9.   Trefnu dosbarthiad bwletinau gwybodaeth neu ohebiaeth reolaidd at restr cysylltiadau.  

10. Trefnu cyfarfodydd Cyfarwyddiaeth a cynorthwyo i drefnu cyfarfodydd mewnol ac allanol eraill, gan gynnwys digwyddiadau a gynhelir fel rhan o raglen hyrwyddo cydymffurfiaeth y Comisiynydd.

11.  Unrhyw waith gweinyddol arall yn ôl y gofyn i gefnogi gwaith y Gyfarwyddiaeth.

Dyletswyddau cyffredinol

12. Ateb a throsglwyddo galwadau ffôn neu gymryd negeseuon a sicrhau bod unrhyw negeseuon yn cael eu pasio ymlaen i’r swyddog perthnasol yn absenoldeb y Swyddog Cefnogi Corfforaethol.

13. Cymryd cyfrifoldeb dros drefniadau o ran trosglwyddo a chofnodi post sy’n cyrraedd cyfeiriad e-bost canolog Post@ yn absenoldeb y Swyddog Cefnogi Corfforaethol.

14. Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd.

15. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill yn ôl y galw ac ar gais y Comisiynydd.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.