Swyddog Datblygu Cymunedol

Teitl Swydd
Swyddog Datblygu Cymunedol
Enw’r Cwmni
Menter Caerffili
Lleoliad
Caerffili
Cyflog
£27,254 – £29,540
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 26/02/2026

Cyflog: £27,254 – £29,540

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos                                                   

Lleoliad: Swyddfa’r Fenter yn Suite 15, Porth Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Caerffili, CF82 7EH

Ydych chi’n chwilio am her newydd? Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth? Mae Menter Iaith Sir Caerffili yn edrych am berson trefnus a brwdfrydig gyda syniadau newydd er mwyn datblygu defnydd o’r Gymraeg ar draws Sir Caerffili. Byddwch yn  cydweithio â sefydliadau, partneriaethau cymunedol, ysgolion, colegau, busnesau ac unigolion amrywiol yn ogystal ag ymchwilio i ddiddordebau ac anghenion trigolion y Sir. Fe fydd y swydd yn gofyn eich bod yn datblygu rhaglen o weithgareddau a phrosiectau cymunedol ar gyfer plant, teuluoedd ac oedolion Sir Caerffili yn ogystal â threfnu digwyddiadau cymunedol. 

Mi fydd y person delfrydol yn hunan disgybledig, yn gyfathrebwr/wraig da, gyda sgiliau personol ardderchog ac yn meddu ar y gallu i weithio yn annibynnol ac fel rhan o dîm.

Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn.

Dyddiad Cau: Chwefror 26ain am 17:00

Dyddiad Cyfweliadau: Mawrth 9fed

Danfonwch y ffurflen gais dros ebost at  Lowri Jones: lowrijones@mentercaerffili.cymru 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Lowri Jones ar 01443 820913/ lowrijones@mentercaerffili.cymru

www.mentercaerffili.cymru

Cyllidir y swydd gan Lywodraeth Cymru  

Sut i wneud cais

Danfonwch y ffurflen gais dros ebost at  Lowri Jones: lowrijones@mentercaerffili.cymru