Swyddog Gosod ac Ymchwilio

Teitl Swydd
Swyddog Gosod ac Ymchwilio
Enw’r Cwmni
Comisiynydd y Gymraeg
Lleoliad
Caerdydd / Caernarfon / o Gartref / Hybrid
Cyflog
 £37,112 – £45,379 yf
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 29/04/2026

Math o gontract: Parhaol
Oriau Gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Cyflog: £37,112 – £45,379 y flwyddyn. Penodir ar waelod y raddfa fel rheol

Lleoliad: Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon. Gweithredir trefniant hybrid o weithio, gyda disgwyliad clir y bydd staff yn mynychu’r swyddfa o leiaf un diwrnod yr wythnos ar ddiwrnod angori penodedig, yn unol â threfniadau’r swyddfa berthnasol. Yn ogystal, anogir staff i weithio ail ddiwrnod yn y swyddfa lle bo hynny’n ymarferol, er mwyn cefnogi cydweithio, dysgu ar y cyd a chysylltiad tîm. Ystyrir hefyd yr opsiwn i fod yn Weithiwr Cartref os nad ydych yn byw o fewn pellter rhesymol o un o swyddfeydd y Comisiynydd.  

Y swydd

Mae gennym gyfle cyffrous i berson profiadol a brwdfrydig ymgymryd â swydd Swyddog Gosod ac Ymchwilio sydd yn meddu ar sgiliau dadansoddi a drafftio penigamp.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni trwy swyddi@cyg-wlc.cymru neu 0345 6033221.

Dyddiad cau:                   12:00, 29 Ebrill 2026
Dyddiad cyfweld:            7 Mai 2026

Amdanom ni

Prif nod Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg.

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 sefydlodd swydd Comisiynydd y Gymraeg, ac mae’n egluro beth yw rôl y Comisiynydd a’i staff. Mae’r Comisiynydd yn ehangu hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg  drwy osod dyletswyddau cyfreithiol ar sefydliadau a gorfodi’r dyletswyddau hynny lle bo angen, mae rhan o’r gwaith hwn yn cynnwys ymchwilio i gwynion. Ymchwilir hefyd i geisiadau yn ymwneud ag ymyrraeth â’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg yng Nghymru. 

Mae’r Comisiynydd yn gwneud gwaith ymchwil am y Gymraeg a’i siaradwyr, gan gyhoeddi adroddiad pob pum mlynedd sy’n gynnig trosolwg cynhwysfawr o sefyllfa’r Gymraeg. Mae hefyd yn cyhoeddi canllawiau o bob math i gefnogi sefydliadau i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.

Gwneir gwaith dylanwadu ar bolisi lle mae gwneud hynny’n strategol bwysig i’r Gymraeg. Mae’r Comisiynydd hefyd yn hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn ehangach gan weithio yn y trydydd sector a’r sector preifat. Mae’n gyfrifol am safoni enwau lleoedd ac am hyrwyddo’r cynllun Iaith Gwaith,a chynhelir ymgyrchoedd ymysg defnyddwyr y Gymraeg yn rheolaidd i roi gwybod am ein gwaith a’r cyfleoedd sydd i ddefnyddio’r Gymraeg.   

Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth sy’n briodol er mwyn hybu a hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg. Gweledigaeth hir dymor y Comisiynydd yw Cymru lle gall pobl fyw eu bywyd yn Gymraeg. Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon mae’r Comisiynydd yn gweithio tuag at gynyddu darpariaeth gwasanaethau Cymraeg a chyfleoedd eraill i bobl ddefnyddio’r iaith. 

Mae gan y Comisiynydd Gynllun Strategol tair blynedd sy’n gosod allan blaenoriaethau’r Comisiynydd er mwyn cyflawni’r weledigaeth: Cynllun Strategol

Cyflawnir hyn oll er mwyn gwireddu’r egwyddor a sefydlir gan y Mesur na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.  

Disgrifiad Swydd

Teitl swydd: Swyddog Gosod ac Ymchwilio 
Yn atebol i: Uwch Swyddog Gosod ac Ymchwilio
Graddfa: HEO

Yn unol ag anghenion busnes y sefydliad, fe all gofynion y swydd newid. Er enghraifft, gall fod gofyn i ddarparu cymorth a chefnogaeth i waith timoedd eraill o fewn y Gyfarwyddiaeth o bryd i’w gilydd, yn unol â llwyth gwaith.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu trafod a’u cytuno â deiliad y swydd cyn eu mabwysiadu.

Prif Ddyletswyddau

Gosod Safonau’r Gymraeg

  • Bod yn gyfrifol am weithredu rhaglen ymbaratoi ar gyfer sefydliadau sydd wedi eu hadnabod fel rhai fydd yn dod yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg.
  • Bod yn gyfrifol am osod safonau’r Gymraeg ar sefydliadau. Mae hynny’n cynnwys:
  • ymgynghori ar gynnwys hysbysiadau cydymffurfio drafft cyn eu gosod yn derfynol
  • poblogi cofrestr hysbysiadau cydymffurfio’r Comisiynydd yn brydlon a chywir.
  • ystyried a phrosesu heriau gan sefydliadau ynghylch afresymoldeb neu anghymesuredd y safonau y gosodwyd arnynt.

Cwynion ac ymchwiliadau i fethiant i gydymffurfio â dyletswyddau iaith

  • Bod yn gyfrifol am ymdrin â chwynion yn unol â Pholisi Gorfodi a chanllawiau cysylltiedig y Comisiynydd.
  • Bod yn gyfrifol am gynnal ymchwiliadau statudol ar sail amheuaeth o fethiant a pharatoi adroddiadau cysylltiedig yn unol â Pholisi Gorfodi a gweithdrefnau mabwysiedig y Comisiynydd.
  • Cyflwyno argymhellion at sylw’r Uwch Swyddog Gosod ac Ymchwilio a’r Cyfarwyddwr Rheoleiddio ar benderfyniadau rheoleiddiol i’w cymryd mewn perthynas â chwynion ac ymchwiliadau statudol.

Polisïau a Fframwaith Rheoleiddio Comisiynydd y Gymraeg

  • Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a/neu addasu polisïau rheoleiddiol i gefnogi gwaith y Comisiynydd o gynyddu’r cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.
  • Cynghori’r Uwch Swyddog Gosod ac Ymchwilio ar:
  • y graddau mae, ac y dylai sefydliadau fod yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg
  • effeithiolrwydd safonau’r Gymraeg, a’r graddau y maent yn parhau i fod yn berthnasol a phriodol i’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu gan sefydliadau
    gan amlygu cyfleoedd ar gyfer newidiadau deddfwriaethol fel bo’n berthnasol.
  • Mewn cydweithrediad â’r tîm Cyfathrebu, cyfrannu at waith ymgysylltu’r Comisiynydd mewn perthynas â’r materion isod:
  • rhwystrau mae defnyddwyr yn parhau i wynebu wrth dderbyn gwasanaethau Cymraeg
  • profiadau defnyddwyr o ymgysylltu â phrosesau cwyno
  • pryd a pham y bydd achosion o ymyrraeth â rhyddid pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn digwydd.

Llinellau Ymholi Allweddol

  • Cynnal llinellau ymholi allweddol mewn perthynas â materion strategol, thematig neu risg uchel sy’n codi o waith monitro’r Comisiynydd.

Rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg

  • Bod yn gyfrifol am ymchwilio i honiadau o ymyrraeth â rhyddid unigolyn i ddefnyddio’r Gymraeg yn unol â gweithdrefnau’r Comisiynydd, gan lunio adroddiadau ar gyfer dyfarniad.

Tribiwnlys y Gymraeg

  • Bod yn gyfrifol am baratoi gwaith papur y Comisiynydd ar gyfer achosion (Heriau ac Apelau) Tribiwnlys y Gymraeg, gan gynnwys datganiadau achos a thystiolaeth i gwmnïau cyfreithiol fel bo angen.

Cyngor a Chymorth Cyfreithiol

  • Llunio ceisiadau am gyngor cyfreithiol mewn perthynas â swyddogaethau’r Comisiynydd o dan Ran 5 y Mesur.
  • Bod yn gyfrifol am geisiadau am gymorth a chyngor cyfreithiol yn unol ag adrannau 8-10 Mesur y Gymraeg, a chynghori’r Uwch Swyddog Gosod ac Ymchwilio a’r Cyfarwyddwr Rheoleiddio ar benderfyniadau i ddwyn achos neu ymyrryd mewn achosion cyfreithiol.

Cyfrifoldeb Strategol

  • Cyfrannu at gyflawniad un neu fwy o brosiectau strategol y Comisiynydd mewn perthynas â gweithrediad safonau’r Gymraeg.

Dyletswyddau cyffredinol

  • Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill yn ôl y galw ac ar gais y Comisiynydd.

Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn


Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth, ffurflen gais, ac i wneud cais.

Dyddiad cau: 12:00, 29 Ebrill 2026

Dyddiad cyfweld: 7 Mai 2026