Swyddog Gwaith Achos Dan Hyfforddiant

Teitl Swydd
Swyddog Gwaith Achos Dan Hyfforddiant
Enw’r Cwmni
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Lleoliad
Ein swyddfa: 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr CF35 5LJ
Cyflog
Blwyddyn 1 – £24,413 y.f. Blwyddyn 2 – £25,583 y.f. Blwyddyn 3 – £26,403 y.f. Wedi hynny, cynnydd cynyddrannol bob blwyddyn hyd at £28,143 y.f. (OGCC Gradd INV1 – INV5) (Dyfarniad cyflog yn arfaeth)  
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 07/09/2026

Ydych chi wedi gadael yr ysgol yn ddiweddar?  Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn edrych i recriwtio Swyddog Gwaith Achos Dan Hyfforddiant. Mae’r rôl yma’n rhoi cyfle i rywun sydd newydd adael yr ysgol neu goleg chweched dosbarth i ymuno â ni a datblygu’r sgiliau sydd ei angen i ddarparu cefnogaeth gwaith achos gweinyddol i Ymchwilwyr a Rheolwyr.

Bydd yr Hyfforddai yn y rôl hwn yn datblygu dros gyfnod o ddwy flynedd i ddod yn Swyddog Cefnogi Gwaith Achos. Rôl Swyddog Cefnogi Gwaith Achos yw i ddarparu cefnogaeth gweinyddol i Ymchwilwyr a Rheolwyr yr Ombwdsmon ac i ddelio ag ymholiadau gan aelodau o’r cyhoedd ag eraill sy’n cysylltu â Swyddfa’r Ombwdsmon.

Mae’r rôl wedi’u leoli yn Swyddfa’r Ombwdsmon ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r unigolion sy’n gweithio i’r Ombwdsmon yn angerddol dros wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac yn sicrhau, lle mae gwasanaethau’n methu, bod yna adnoddau ar gael drwy system gwynion annibynnol. Ein gwaith yw ymchwilio i gwynion gan aelodau’r cyhoedd am driniaeth annheg neu wasanaeth gwael oherwydd rhyw fethiant ar ran cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’r Ombwdsmon yn ymchwilio i gwynion sydd wedi’u wneud am Gynghorwyr o fewn awdurdodau lleol yng Nghymru sydd o bosib wedi torri cod ymddygiad statudol eu cyngor.

Fel Swyddog Gwaith Achos Dan Hyfforddiant, bydd eich dyletswyddau yn cynnwys:

  • Darparu cefnogaeth gwaith achos gweinyddol i Ymchwilwyr a Rheolwyr, gan gofnodi manylion yn ôl yr angen ar y System Rheoli Achosion.
  • I dderbyn post sy’n dod i fewn, gan gynnwys derbyn post wedi’i lofnodi, wedi’i ddanfon â llaw, danfoniadau arbennig a danfoniadau negesydd. Sganio ac uwchlwytho post yn gywir i’r system rheoli achosion. Dosbarthu’r post i reolwyr tîm neu unigolion.
  •  Ymdrin yn effeithlon ac yn gwrtais ag ymholiadau gan aelodau’r cyhoedd neu eraill, boed hynny dros y ffôn, mewn llythyr, drwy e-bost neu drwy ymweliad, gan ddarparu gwybodaeth briodol a gwneud cofnodion perthnasol yn unol â gweithdrefnau’r Ombwdsmon.

Mae disgrifiad swydd lawn a phecyn recriwtio ar gael ar ein gwefan.

Beth rydyn ni’n chwilio amdano?

  • Rhywun sydd newydd adael yr ysgol neu goleg chweched dosbarth, efallai eich bod newydd orffen eich Lefel A neu gymhwyster cyfatebol.
  • Sgiliau cyfathrebu’n ysgrifenedig da
  • Sgiliau cyfathrebu ar lafar da
  • Sgiliau bysellfwrdd da a’r gallu i ddefnyddio pecynnau Microsoft Office
  • Rhywun sy’n gallu gweithio ar liwt ei hun, yn gweithio’n dda yn annibynnol ac hefyd fel rhan o dîm. 

Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon.

Beth sydd yn y swydd i chi?

  • Cyfle i dderbyn datblygiad dros gyfnod o ddwy flynedd i ddod yn Swyddog
  • Cyflog cystadleuol a lwfans gwyliau blynyddol hael o 32 diwrnod.
  • Buddion eraill gan gynnwys: Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Cynllun Gweithio Hyblyg, Aelodaeth o’r Gampfa, Cynllun Arian Parod Iechyd a Chynlluniau Prynu â Gostyngiad.
  • Cyfleusterau rhagorol ar y safle ac offer ar gyfer gweithio o adref
  • Cwnsela allanol a chymorth iechyd galwedigaethol am ddim 

I ymgeisio

Ewch i’n gwefan (www.ombwdsmon.cymru) i gael mynediad i’r pecyn recriwtio.

I ymgeisio am y rôl hon, llenwch Ffurflen Gais OGCC a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac ebostiwch at: recriwtio@ombwdsmon.cymru erbyn 5yh ar Ddydd Llun 7 Medi 2026. Mae gennym yr hawl i gau’r cyfle hwn yn gynnar os daw digon o geisiadau i law felly peidiwch ag oedi cyn cyflwyno’ch cais.

Bydd yr ymatebion a rowch yn y ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio rhestr fer o’ch cais.

Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.

Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo’n weithredol i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arfer da yn y ffordd yr ydym yn denu, recriwtio a chadw staff.

Anogir pawb i ddod â’u hunaniaeth gyfan i’r gwaith oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu gwirioneddol amrywiol yn ei ddwyn i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y manteision y mae hyn yn eu dwyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oedran, anabledd, hunaniaeth a mynegiant rhywedd, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.

Amodau Arbennig:

  1. Mae’n hanfodol bod y rhai sy’n gweithio i’r Ombwdsmon yn ddiduedd a’u bod yn cael eu gweld i fod yn ddiduedd. Felly, ni chaniateir i staff sy’n gweithio i’r Ombwdsmon gymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol ac mae’n ofynnol iddynt osgoi sylwadau gwleidyddol cyhoeddus, er enghraifft ar gyfryngau cymdeithasol. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn gofyn i chi lofnodi ymrwymiad yn cadarnhau eich bod yn cytuno i gydymffurfio â’n polisi cyfryngau cymdeithasol ac adolygu eich ôl troed cyfryngau cymdeithasol ar draws pob platfform rydych yn ei ddefnyddio.
  2. Rydym yn gweithredu polisi dim ysmygu.

Sut i wneud cais

Ewch i’n gwefan (www.ombwdsmon.cymru) neu y botwm Gwneud Cais isod i gael mynediad i’r pecyn recriwtio.

I ymgeisio am y rôl hon, llenwch Ffurflen Gais OGCC a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac ebostiwch at: recriwtio@ombwdsmon.cymru erbyn 5yh ar Ddydd Llun 7 Medi 2026. Mae gennym yr hawl i gau’r cyfle hwn yn gynnar os daw digon o geisiadau i law felly peidiwch ag oedi cyn cyflwyno’ch cais.

Bydd yr ymatebion a rowch yn y ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio rhestr fer o’ch cais.