Swyddog Gweinyddol Dwyieithog x 3 : Cyllid a Thollau EF

Math o gontract: Parhaol
Cyflog: £28,016
Patrwm gweithio: Gweithio hyblyg, Llawn amser, Rhan amser, Rhannu swydd
Lleoliad: Porthmadog – Tŷ Thedford
Dyddiad cau: 11:55 pm ar Ddydd Mawrth 18 Tachwedd 2025

Am y swydd

Crynodeb o’r swydd

Datblygwch eich gyrfa gyda CThEF. P’un a ydych chi’n chwilio am bwrpas, am gyfle i dyfu, neu am weithle sydd wir yn rhoi ymdeimlad o berthyn, gwrandewch ar rai o’n cyflogeion yn rhannu eu profiadau o weithio yn CThEF.

Ewch i’n sianel YouTube i wylio’r gyfres gyfan a darganfod eich potensial.

Mae CThEF, ynghyd â phob adran o’r llywodraeth sydd â chwsmeriaid yng Nghymru, wedi mynd ati i ddarparu ein gwasanaethau Cymraeg fel y cytunwyd â Chomisiynydd y Gymraeg yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Mae’r tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Cymraeg ym Mhorthmadog yn darparu amrywiaeth o wasanaethau Cymraeg yn uniongyrchol i’r cwsmeriaid hynny sy’n dymuno delio â CThEF drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r rhain yn cynnwys galwadau ffôn, gohebiaeth, sgyrsiau wyneb yn wyneb, delio ag achosion, prosesu ffurflenni, anfon ffurflenni Cymraeg, derbyn taliadau a rhoi cymorth gyda gwasanaethau digidol. 

Os ydych yn wych gyda phobl, yn gymwynasgar ac yn frwdfrydig, gallech chi fod yr union Swyddog Gweinyddol dwyieithog y byddem yn falch o’i gyflogi yn CThEF.

Does dim rhaid i chi fod â phrofiad blaenorol – cewch hyfforddiant llawn. Yr hyn sydd ei angen arnom yw’ch brwdfrydedd, eich agwedd gymwynasgar, a’ch parodrwydd i ddysgu. Fodd bynnag, gofynnwn eich bod yn teimlo’n gyfforddus wrth sgwrsio dros y ffôn, bod gennych sgiliau ysgrifennu da, a’ch bod yn awyddus i helpu pobl eraill.

Mae CThEF yn cynnal sesiynau anffurfiol ar 04/11/2025 am 12:00, ac ar 06/11/2025 am 17:00. Bwriad y sesiynau hyn yw eich hebrwng drwy’r broses ymgeisio, a chynnig rhagor o wybodaeth am y swydd wag. Os ydych am ymuno âg unrhyw un o’r sesiynau, bydd angen i chi gofrestru drwy ddilyn y camau canlynol:

https://forms.office.com/e/NMBVH6NyQZ – am 17:00 – 6/11/25 
https://forms.office.com/e/DFbd3j6gNi – am 12:00 – 4/11/2025

Swydd ddisgrifiad

Chi fydd pwynt cyswllt cyntaf ein cwsmeriaid, a byddwch yn rhoi gwasanaeth o’r radd flaenaf dros y ffôn, drwy lythyr ac e-bost, a drwy sgwrsio dros y we yn y dyfodol. 

Byddwch yn mynd ati i geisio datrys ymholiadau gan gwsmeriaid, ac yn defnyddio’ch sgiliau cyfathrebu i ddelio â sgyrsiau cymhleth ond gwerth chweil. Byddwch yn ysgwyddo cyfrifoldeb ac yn cael cyfleoedd gwirioneddol i ddisgleirio a datblygu eich gyrfa gyda ni.

Byddwch yn ymuno â thîm cyfeillgar a chroesawgar, a chewch ddigon o hyfforddiant a chymorth er mwyn eich helpu i gyflawni eich potensial.  Peidiwch â phoeni – cewch hyfforddiant ar sut i ddelio â galwadau cymhleth. Ein gwaith ni yw’ch cynorthwyo wrth i chi ein helpu i roi cymorth i’n cwsmeriaid.

Os yw hyn yn swnio’n debyg i chi, gallech chi fod yr union Swyddog Gweinyddol dwyieithog y byddem yn falch o’i gyflogi yn CThEF.

Manyleb bersonol

Cyfrifoldebau

  • Delio ag ymholiadau gan gwsmeriaid sy’n ymwneud ag ystod eang o faterion treth. Cewch hyfforddiant llawn.
  • Delio â galwadau ffôn, a gohebiaeth ddigidol ac ar bapur.
  • Anfon ffurflenni/llythyrau safonol CThEF at gwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Datrys ymholiadau cwsmeriaid gan ddefnyddio canllawiau ac ar eich menter eich hun.
  • Defnyddio’ch sgiliau cyfathrebu gwych, ar lafar yn ogystal ag ar bapur, a bod yn hyderus wrth sgwrsio ar y ffôn er mwyn helpu cwsmeriaid.
  • Dangos agwedd benderfynol ac awch gwirioneddol am roi cymorth i bobl a chreu Gwasanaeth Sifil o’r radd flaenaf.
  • Delio â chyfrifiadau mathemategol sylfaenol. 
  • Delio â gwybodaeth yn gywir ac yn gyflym, gan sicrhau ei bod yn cael ei chyfleu i gwsmeriaid mewn ffordd glir.
  • Gweithio fel rhan o dîm.

Rydym yn ymdrechu i fod y sefydliad gwasanaeth i gwsmeriaid gorau yn y DU, ac er mwyn i ni gyflawni hyn mae angen pobl benigamp fel y chi arnom. 

Meini Prawf Hanfodol 

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn gallu cyfathrebu ar lafar ac ar bapur yn y ddwy iaith. Bydd hyn yn cael ei brofi yn ystod y cyfnod cyfweliad.

Proffesiwn Cyflawni Gweithredol

Rhowch wybod i ni am unrhyw brofiad neu gymwysterau yn y Proffesiwn Cyflawni Gweithredol sydd gennych, os yw’n berthnasol i chi, ar eich ffurflen gais. Nid yw hyn yn angenrheidiol ar gyfer y swydd, ond efallai y bydd hyn yn cael ei ystyried gan ddeiliad y swydd wag os bydd gan ymgeiswyr yr un sgôr yn y sifft neu’r cyfweliad.

Buddion

Ochr yn ochr â’ch cyflog o £28,016, mae Cyllid a Thollau EF yn cyfrannu £8,116 tuag at fod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Buddion wedi’i Ddiffinio’r Gwasanaeth Sifil. Darganfyddwch pa fuddion y mae’r Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn eu darparu.

Mae CThEF yn gweithredu polisïau Gweithio Hyblyg a Gweithio Hybrid, sy’n eich galluogi i gydbwyso eich gwaith a’ch ymrwymiadau personol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd angen trefniadau gwaith mwy hyblyg, a byddwn yn cytuno ar geisiadau o’r fath lle bo hynny’n bosibl, gan ystyried ein hanghenion gweithredol yn ogystal ag anghenion ein cwsmeriaid.

Rydym yn cynnig lwfans gwyliau hael, sef 25 diwrnod i ddechrau, gyda diwrnod ychwanegol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth cymhwysol hyd at uchafswm o 30 diwrnod.

  • Pensiwn – rydym yn gwneud cyfraniadau i bensiwn (Alpha) ein cydweithwyr sy’n cyfateb i o leiaf 28.97% o’u cyflog.
  • Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd.
  • Cymorth personol.
  • Cyfleoedd hyfforddi a datblygu.

I ddysgu rhagor am fuddion CThEF a sut beth yw gweithio i’r sefydliad, gallwch glywed oddi wrth rai o’n staff neu ddarllen rhagor am  Ymuno â’r Gwasanaeth Sifil

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.

Sut i wneud cais