Swyddog Hyrwyddo Cydymffurfiaeth
Math o gontract: Tymor penodol 12 mis – cyfnod mamolaeth
Oriau Gwaith: Llawn amser (37 awr yr wythnos)
Cyflog: £37,112 – £45,379 y flwyddyn. Penodir ar waelod y raddfa fel rheol.
Lleoliad: Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon. Gweithredir trefniant hybrid o weithio, gyda disgwyliad clir y bydd staff yn mynychu’r swyddfa o leiaf un diwrnod yr wythnos ar ddiwrnod angori penodedig, yn unol â threfniadau’r swyddfa berthnasol. Yn ogystal, anogir staff i weithio ail ddiwrnod yn y swyddfa lle bo hynny’n ymarferol, er mwyn cefnogi cydweithio, dysgu ar y cyd a chysylltiad tîm. Ystyrir hefyd yr opsiwn i fod yn Weithiwr Cartref os nad ydych yn byw o fewn pellter rhesymol o un o swyddfeydd y Comisiynydd.
Y swydd
Mae gennym gyfle cyffrous i berson brwdfrydig sy’n dymuno gweithio gyda’r Comisiynydd i wella perfformiad sefydliadau wrth iddynt ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg. Bydd y swydd yn cynnwys cyfrifoldeb penodol am oruchwylio cydymffurfiaeth sefydliadau cyhoeddus â safonau’r Gymraeg.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni trwy swyddi@cyg-wlc.cymru neu 0345 6033 221.
Dyddiad cau: 22/02/2026 am 17:00yh
Dyddiad y cyfweliad: Wythnos yn cychwyn 9 Mawrth 2026
Amdanom ni
Prif nod Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 sefydlodd swydd Comisiynydd y Gymraeg, ac mae’n egluro beth yw rôl y Comisiynydd a’i staff. Mae’r Comisiynydd yn ehangu hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg drwy osod dyletswyddau cyfreithiol ar sefydliadau a gorfodi’r dyletswyddau hynny lle bo angen, mae rhan o’r gwaith hwn yn cynnwys ymchwilio i gwynion. Ymchwilir hefyd i geisiadau yn ymwneud ag ymyrraeth â’r rhyddid sydd i ddefnyddio’r Gymraeg yng Nghymru. Mae’r sefydliad yn gwneud gwaith megis ymchwilio, cyhoeddi adroddiadau yn ogystal â rhoi cyngor a gwneud argymhellion. Gwneir gwaith dylanwadu ar bolisi lle mae gwneud hynny’n strategol bwysig i’r Gymraeg. Yn ogystal, mae’r Comisiynydd yn hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn ehangach gan weithio yn y trydydd sector a’r sector preifat. Yn fwy cyffredinol mae’n gyfrifol am safoni enwau lleoedd ac am hyrwyddo cynllun
Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn.

