Swyddog Ieuenctid (Uwchradd) : Menter Caerdydd
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig sydd yn hoff o weithio gyda phobl ifanc. Bydd y swydd hon yn cyfrannu’n sylweddol i bartneriaerth CFTi (Menter Caerdydd, yr Urdd a Chyngor Caerdydd) gan ganolbwyntio ar ddarpariaeth ieuenctid yn nwyrain y ddinas
Lleolir y swydd hon yn bennaf yn swyddfa Menter Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Yr Ais, Caerdydd ond bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n estynedig yn Ysgol Bro Edern ac mae hyblgrwydd i weithio’n hybrid.
Cyflog: £25,886-£30,009 (yn ddibynnol ar brofiad)
Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos
Am sgwrs bellach e-bostiwch: heulyn@mentercaerdydd.cymru
Dyddiad Cau: 12pm – 15fed o Ragfyr 2025
Cyfweliadau: 19eg o Ragfyr 2025
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus cyflawni gwiriadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

