SWYDDOG MARCHNATA : Theatr y Sherman
SWYDDOG MARCHNATA – Y GYMRAEG YN HANFODOL
£26,037 y flwyddyn
LLAWN AMSER, PARHAOL
Theatr y Sherman, Caerdydd
Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Swyddog Marchnata i ymuno â’i thîm Cynulleidfaoedd a Chyfathrebu deinamig sy’n cyflawni i lefel uchel. Bydd y Swyddog Marchnata yn cefnogi gwaith Theatr y Sherman i gysylltu â chynulleidfaoedd ar draws y de-ddwyrain a’r tu hwnt ac i greu incwm.
Cynigir y swydd hon fel swydd lawn amser, barhaol. Bydd y swydd hon yn dechrau dim hwyrach na dydd Llun 2 Chwefror 2026.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.
Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn ofod amrywiol a chynhwysol sy’n perthyn i bobl de-ddwyrain Cymru. Rydyn ni’n croesawu’n arbennig geisiadau gan gymunedau ac unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein tîm ar hyn o bryd. Rydyn ni’n aelod o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd ac mae’r adeilad yn hygyrch, ym Mlaen y Tŷ a gefn llwyfan.
GWNEUD CAIS
Mae rhagor o wybodaeth a phecynnau cais Cymraeg a Saesneg ar gael yn www.shermantheatre.co.uk/job/swyddog-marchnata/?lang=cy.
Dyddiad cau: 10am, ddydd Mercher 10 Rhagfyr 2025
Cyfweliad: dydd Mercher 17 Rhagfyr 2025
Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydyn ni’n ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.

