SWYDDOG MOROL (CYMRU)

Teitl Swydd
SWYDDOG MOROL (CYMRU)
Enw’r Cwmni
Ymddiriedolaethau Natur
Lleoliad
Gweithio Gartref gyda theithio rheolaidd ledled Cymru a’r DU
Cyflog
hyd at £30,000
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 18/01/2026

Buddiannau: Yswiriant meddygol preifat, cynllun cerbydau trydan staff a hawl i bensiwn hael a gwyliau blynyddol

Llawn amser: 35 awr yr wythnos

Cytundeb Tymor Penodol hyd at fis Mawrth 2027

Os ydych chi’n gadwraethwr morol angerddol sy’n chwilio am rôl a fydd yn creu budd sylweddol i fyd natur ym moroedd Cymru gydag un o’r elusennau natur mwyaf poblogaidd yn y DU, mae gennym ni gyfle cyffrous i chi.

Ni yw’r sefydliad anllywodraethol mwyaf sy’n gweithio ar faterion morol yn y DU ac rydyn ni’n chwilio am gydweithiwr cefnogol, brwdfrydig a gwybodus i ymuno â’n tîm ni. Er gwaethaf Blue Planet ac, yn fwy diweddar, y gyfres Wild Isles, mae gennym ni waith i’w wneud o hyd i godi proffil y môr a phopeth sy’n byw ynddo.

Rydyn ni’n gwybod bod ein bywyd gwyllt morol ni dan bwysau cynyddol ac mae angen i ni wneud mwy i’w warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – ai chi yw’r person i’n helpu ni i wneud hynny? Rydyn ni’n chwilio am unigolyn i ymuno â thîm Cymru yr Ymddiriedolaethau Natur i gyflwyno newidiadau cadarnhaol mewn polisi cadwraeth forol yng Nghymru.

Pwy ydym ni

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn fudiad ar lawr gwlad o bobl o ystod eang o gefndiroedd sy’n credu ein bod ni angen byd natur a bod byd natur ein hangen ni. Mae gennym ni fwy na 944,000 o aelodau, mwy na 38,000 o wirfoddolwyr, 3,600 o staff a 600 o ymddiriedolwyr. Mae 46 o Ymddiriedolaethau Natur unigol, pob un ohonynt yn elusen annibynnol seiliedig ar le gyda’i hunaniaeth gyfreithiol ei hun, wedi’i ffurfio gan grwpiau o bobl yn dod at ei gilydd ac yn gweithio gydag eraill i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd gwyllt a chenedlaethau’r dyfodol, gan ddechrau lle maen nhw’n byw ac yn gweithio.

Mae pob Ymddiriedolaeth Natur yn rhan o ffederasiwn yr Ymddiriedolaethau Natur ac yn aelod corfforaethol o Gymdeithas Frenhinol yr Ymddiriedolaethau Natur, elusen gofrestredig yn ei rhinwedd ei hun a sefydlwyd yn 1912 ac un o aelodau sefydlu IUCN – yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur. Gyda’i gilydd, mae’r ffederasiwn yma o 47 o elusennau yn cael ei adnabod fel yr Ymddiriedolaethau Natur. 

Bydd y blynyddoedd nesaf yn allweddol wrth i ni benderfynu pa fath o fyd y byddwn ni i gyd yn byw ynddo. Mae angen i ni wyrdroi’r colli ar fywyd gwyllt ar frys, a rhoi byd natur mewn adferiad ar raddfa fawr os ydyn ni am atal trychineb hinsawdd ac ecolegol. Rydyn ni’n cydnabod y bydd hyn yn gofyn am newidiadau mawr, beiddgar yn y ffordd mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio, ac yn sicr o ran sut rydyn ni’n defnyddio eraill ac yn eu cefnogi i drefnu yn eu cymunedau eu hunain.  

Amdanoch chi

Byddwch yn drefnus ac yn llawn cymhelliant, yn gallu cymryd yr awenau ac arwain y gwaith o gyflwyno polisi cadwraeth morol a datblygiadau newydd mewn cyllid morol yn effeithiol yng Nghymru. Bydd gennych ddealltwriaeth o’r problemau sy’n wynebu bywyd gwyllt morol. Bydd gennych brofiad o waith eiriolaeth ac, yn ddelfrydol, dealltwriaeth o ddeddfwriaeth amgylcheddol Cymru. Bydd angen i chi ddeall sut i gyflawni adferiad cynefinoedd a rhywogaethau morol ar raddfa fawr. Yn gysylltiedig â hyn, ymwybyddiaeth o faes sy’n dod i’r amlwg, sef cyllid glas a budd net morol. Byddwch yn cael eich cefnogi gan gydweithwyr yn y DU ac unigolion o fewn y pum Ymddiriedolaeth Natur leol yng Nghymru.

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn gwerthfawrogi angerdd, parch, ymddiriedaeth, integriti, gweithredu pragmatig a chryfder mewn amrywiaeth. Er ein bod yn angerddol dros hyrwyddo ein nodau, rydyn ni’n gynhwysol, ac nid yn feirniadol. Rydyn ni’n annog yn arbennig geisiadau gan bobl heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein sector ni, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifol a phobl ag anableddau. Rydyn ni wedi ymrwymo i greu mudiad sy’n cydnabod ac sydd wir yn gwerthfawrogi gwahaniaethau a hunaniaethau unigol.

Mae’r RSWT yn gweld ei chyfrifoldebau Diogelu fel mater hynod ddifrifol. Cliciwch yma i ddarllen ein datganiad ymrwymiad. Mae Cymdeithas Frenhinol yr Ymddiriedolaethau Natur wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion sydd mewn perygl. Ar gyfer swyddi perthnasol, rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i gael archwiliad gyda chyn-gyflogwyr ac archwiliadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar y lefel gymwys.  

Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig cyfweliad i unrhyw berson ag anabledd sy’n bodloni holl feini prawf hanfodol y swydd. Rhowch wybod i ni os oes arnoch chi angen unrhyw addasiadau i wneud ein proses recriwtio yn fwy hygyrch.

Mae RSWT wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ei staff drwy ei haddewid recriwtio Cae Chwarae Teg a bydd yn rhoi unrhyw ymgeiswyr lleiafrifoedd ethnig sy’n bodloni’r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y swydd drwodd i’r cam recriwtio nesaf.

Yn RSWT, rydyn ni wedi ymrwymo i greu amgylchedd diogel lle nad yw gwahaniaethu, bwlio nac aflonyddu’n cael eu goddef. Rydyn ni’n disgwyl i bawb gynnal, parchu a chefnogi ein polisi dim goddefgarwch.

Sut i wneud cais

Dylech fod yn ymwybodol na fyddwn yn derbyn ceisiadau efallai os oes gennym reswm i gredu eu bod wedi cael eu cynhyrchu’n gyfan gwbl gan ddefnyddio adnoddau AI cynhyrchiol.

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 18 Ionawr 2026

Cyfweliad Cyntaf: 5 Chwefror 2026

Ail Gyfweliad: 11 Chwefror 2026

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am swydd ddisgrifiad ac i wneud cais