Swyddog Polisi x 2
Math o gontract: 1 cytundeb parhaol, 1 cytundeb rhan amser – 12 mis
Oriau Gwaith: Llawn amser, 5 diwrnod yr wythnos, Rhan amser, 3 diwrnod yr wythnos
Cyflog: £37,112 – 45,379 y flwyddyn pro rata. Penodir ar waelod y raddfa fel rheol
Lleoliad: Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon. Gweithredir trefniant hybrid o weithio, gyda disgwyliad clir y bydd staff yn mynychu’r swyddfa o leiaf un diwrnod yr wythnos ar ddiwrnod angori penodedig, yn unol â threfniadau’r swyddfa berthnasol. Yn ogystal, anogir staff i weithio ail ddiwrnod yn y swyddfa lle bo hynny’n ymarferol, er mwyn cefnogi cydweithio, dysgu ar y cyd a chysylltiad tîm. Ystyrir hefyd yr opsiwn i fod yn Weithiwr Cartref os nad ydych yn byw o fewn pellter rhesymol o un o swyddfeydd y Comisiynydd
Amdanom ni
Prif nod Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg.
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 sefydlodd swydd Comisiynydd y Gymraeg, ac mae’n egluro beth yw rôl y Comisiynydd a’i staff. Mae’r Comisiynydd yn ehangu hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg drwy osod dyletswyddau cyfreithiol ar sefydliadau a gorfodi’r dyletswyddau hynny lle bo angen, mae rhan o’r gwaith hwn yn cynnwys ymchwilio i gwynion. Ymchwilir hefyd i geisiadau yn ymwneud ag ymyrraeth â’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg yng Nghymru.
Mae’r Comisiynydd yn gwneud gwaith ymchwil am y Gymraeg a’i siaradwyr, gan gyhoeddi adroddiad pob pum mlynedd sy’n gynnig trosolwg cynhwysfawr o sefyllfa’r Gymraeg. Mae hefyd yn cyhoeddi canllawiau o bob math i gefnogi sefydliadau i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.
Gwneir gwaith dylanwadu ar bolisi lle mae gwneud hynny’n strategol bwysig i’r Gymraeg. Mae’r Comisiynydd hefyd yn hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn ehangach gan weithio yn y trydydd sector a’r sector preifat. Mae’n gyfrifol am safoni enwau lleoedd ac am hyrwyddo’r cynllun Iaith Gwaith, a chynhelir ymgyrchoedd ymysg defnyddwyr y Gymraeg yn rheolaidd i roi gwybod am ein gwaith a’r cyfleoedd sydd i ddefnyddio’r Gymraeg.
Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth sy’n briodol er mwyn hybu a hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg. Gweledigaeth hir dymor y Comisiynydd yw Cymru lle gall pobl fyw eu bywyd yn Gymraeg. Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon mae’r Comisiynydd yn gweithio tuag at gynyddu darpariaeth gwasanaethau Cymraeg a chyfleoedd eraill i bobl ddefnyddio’r iaith.
Mae gan y Comisiynydd Gynllun Strategol tair blynedd sy’n gosod allan blaenoriaethau’r Comisiynydd er mwyn cyflawni’r weledigaeth: Cynllun Strategol.
Cyflawnir hyn oll er mwyn gwireddu’r egwyddor a sefydlir gan y Mesur na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Y Swydd
Mae gennym gyfle cyffrous i berson brwdfrydig a chreadigol ymuno â thîm polisi Comisiynydd y Gymraeg er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisi a deddfwriaeth.
Mae dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth yn elfen bwysig o waith Comisiynydd y Gymraeg. Ein nod yw sicrhau bod polisïau, deddfwriaeth a phenderfyniadau cyhoeddus yn cyfrannu i’r eithaf at gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg ac at gynyddu’r defnydd o’r iaith.
Rydym yn blaenoriaethu gwneud gwaith polisi rhagweithiol mewn meysydd blaenoriaeth ac mae ein dulliau dylanwadu yn cynnwys cynnal a chyhoeddi ymchwil, llunio adroddiadau, darparu tystiolaeth a chyngor, ymateb i ymgynghoriadau, craffu ar ddeddfwriaeth, a chynnal perthynas â gwneuthurwyr polisi.
Bydd gan y Swyddog Polisi rôl allweddol wrth ddatblygu safbwyntiau polisi’r Comisiynydd, yn enwedig mewn meysydd blaenoriaeth megis addysg a sgiliau, iechyd a gofal cymdeithasol, cynllunio, tai, datblygu economaidd a chynllunio ieithyddol cymunedol.
Dyma gyfle gwych i ymgeisydd sydd â phrofiad a diddordeb ym maes polisi cyhoeddus, ac sydd â’r gallu i ddadansoddi gwybodaeth a data, llunio casgliadau ac argymhellion, a chyfathrebu yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
