Swyddog Rheoli Canolfannau

Teitl Swydd
Swyddog Rheoli Canolfannau
Enw’r Cwmni
CBAC / WJEC
Lleoliad
Hybrid
Cyflog
£28,641 – £31,068 y flwyddyn (Gradd 5)
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 22/01/2026

Contract:  Llawn amser, tymor penodol tan 31 Awst 2026

Please note: Fluency in Welsh is essential for this post. An English copy of the below is available on request.

Rydyn ni’n falch iawn o gynnig y cyfle i rywun sydd â sgiliau cynllunio a threfnu cryf ddod i weithio yn rhan o’n Tîm Rheoli Canolfannau i lenwi swydd sydd ar gael o ganlyniad i secondiad mewnol.

Y rôl
Bydd y rôl yn rhan o dîm bach sy’n cefnogi’r broses gyfan o gymeradwyo canolfannau drwy adolygu ceisiadau, casglu ac asesu gwybodaeth gan ffynonellau rheoleiddiol, gwneud penderfyniadau cymeradwyo, a chynghori canolfannau newydd posibl ynghylch gofynion y CGC a CBAC. Yn achos canolfannau sydd eisoes wedi’u cymeradwyo, bydd deiliad y rôl yn goruchwylio’r gwaith o gynnal a chadw data canolfannau, monitro canolfannau a dadansoddi gwybodaeth adrannol i gefnogi gweithrediadau effeithiol. I gefnogi hyn, bydd deiliad y rôl yn creu ac yn cynnal a chadw deunyddiau canllawiau ac hyfforddiant, gan ymddwyn fel prif gyswllt ar gyfer ymholiadau gweinyddol.

Amdanoch chi

Fel cyswllt allweddol i’n canolfannau, mae sgiliau iaith sgyrsiol yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl (byddwch chi’n cael cefnogaeth ein tîm cyfieithu ynghylch prawfddarllen unrhyw beth ffurfiol sy’n cael ei gyhoeddi). Yn ogystal â hyn, bydd ymgeiswyr yn hyderus wrth weithio ag amrywiaeth o derfynau amser penodol ac yn gallu cynllunio a threfnu eu gwaith yn seiliedig ar amserlenni tymor byr, tymor canolig a thymor hir. Byddan nhw’n mwynhau cyfathrebu ag eraill ac wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid yn eu gwaith. Yn olaf, dylen nhw fod yn dda wrth roi sylw i fanylion, a bod yn gyfforddus wrth adolygu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau gwybodus yn erbyn polisïau.

Buddion

Yn CBAC, rydym yn falch o fod yn lle cynhwysol a chefnogol i weithio. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddion ardderchog, gan gynnwys: 25 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (yn ogystal ag 16 o wyliau statudol / ychwanegol) wedi’i addasu ar gyfer patrymau gweithio rhan amser a chywasgedig, gwersi Cymraeg am ddim, cynllun pensiwn hael a nifer o bolisïau sy’n ystyriol o deuluoedd. Gall dilyn gyrfa gyda CBAC fod yn hynod o werthfawr a byddwch chi’n cael eich annog i ddilyn y cyfleoedd gwych sydd ar gael i ddatblygu eich sgiliau, yn broffesiynol ac yn bersonol.

Mae CBAC yn gweithredu ar sail model gweithio hybrid, sy’n galluogi’r ymgeisydd llwyddiannus i rannu ei amser rhwng gweithio yn swyddfeydd CBAC a gweithio gartref, gan ddibynnu ar anghenion busnes. Oherwydd hynny, gwahoddir ceisiadau gan unigolion ledled y DU ond noder os gwelwch yn dda y bydd angen gweithio’n rheolaidd o’n swyddfa yng Nghaerdydd. Gellir trafod hyblygrwydd, ond ar hyn o bryd mae’r tîm yn y swyddfa o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos ar gyfartaledd.

Os hoffech wybod mwy am y rôl hon, neu am weithio yn CBAC, peidiwch ag oedi cyn anfon e-bost at Fliss (hi) at AD@cbac.co.uk a fydd yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau gennych.

Ewch i’n gwefan i lawrlwytho copi o’r disgrifiad swydd a ffurflen gais.

Dyddiad cau: 23:59, dydd Iau 22 Ionawr 2026

Disgwylir cynnal cyfweliadau yn ystod ar dydd Mawrth 03 Chwefror 2026

Cyfeirnod Swydd
2511-07

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth a ffurflen gais.