Swyddog Ymgysylltu
Gwaith Swyddog Ymgysylltu Menter Bro Ogwr yw datblygu a chryfhau darpariaeth a gwasanaethau’r Fenter i gymunedau Pen-y-bont ar Ogwr, a chodi ymwybyddiaeth o’n gwaith o fewn cymunedau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Prif ddyletswyddau’r rôl yw llunio, cydlynu a gweithredu rhaglen amrywiol a chynhwysfawr o weithgareddau a digwyddiadau i bobl o bob oed, ond gyda ffocws ar weithio’n bennaf gyda phobl ifanc ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, er mwyn rhoi mwy o gyfleoedd iddynt ddefnyddio’r Gymraeg.
Yn ogystal, byddwch yn codi proffil yr iaith a hyrwyddo ei defnydd ar draws y sir mewn amrywiaeth o feysydd. Bydd yr unigolyn delfrydol yn gallu datblygu syniadau newydd ac arloesol er mwyn parhau i adeiladu a datblygu darpariaeth a rhaglenni presennol y Fenter.
Chwiliwn am berson brwdfrydig sy’n gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm yn effeithiol. Byddwch yn gallu cyfathrebu’n hyderus ag ystod eang o bobl, ac yn awyddus ac yn barod i ddysgu pethau newydd ar hyd y ffordd.
I wneud cais, e-bostiwch gopi diweddar o’ch CV ynghyd â llythyr yn egluro pam yr hoffech gael y swydd, beth allech ei gyfrannu at y rôl, a pham y dylem eich cyflogi.
Am ragor o fanylion, ffoniwch Amanda Evans ar 07774032624 neu anfonwch e-bost at menter@broogwr.org
Mae Menter Bro Ogwr yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned.
Bydd angen prawf DBS os yn berthnasol
