Swyddog Ymgysylltu a Phartneriaethau
Disgrifiad Swydd
Mae Rheilffordd Talyllyn yn chwilio am ymgeisydd dwyieithog brwdfrydig a threfnus i ddatblygu a chyflwyno rhaglen o weithgareddau, digwyddiadau, prosiectau gwirfoddoli a gwaith ymgysylltu â’r gymuned, i bobl o bob oed.
Rheilffordd Talyllyn
Cafodd Rheilffordd Talyllyn ei hadeiladu yn 1865 i gludo llechi o chwarel uwchlaw Abergynolwyn i Dywyn. Cyflwynwyd gwasanaeth i deithwyr yn ddiweddarach, a daeth y Rheilffordd yn rhan hanfodol o’r gymuned. Yn y 1950au roedd y Rheilffordd ar fin cau ond cafodd ei hachub gan gefnogwyr brwd a ddechreuodd ei rhedeg eu hunain. Yn 1951 daeth yn Rheilffordd Gadwraeth Gyntaf y Byd. Daeth y Rheilffordd yn rhan o safle treftadaeth y byd UNESCO Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn 2021.
Mae apêl unigryw’r Rheilffordd yr un mor fyw heddiw, ac mae’n denu tua 40,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae’n dal i gael ei rhedeg gan tua 450 o wirfoddolwyr rheolaidd, gyda chefnogaeth 26 o staff cyflogedig.
Y Prosiect
Bydd y prosiect newydd gwerth £5m yn arwain at ddatblygiadau cyffrous yn ein cyfleusterau peirianyddol, ein llety i wirfoddolwyr, ein hymgysylltiad â’r gymuned, ein hamrywiaeth, a’r ffordd rydyn ni’n dehongli ein treftadaeth yn ystod ein prosiect 5 mlynedd.
Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r Rheilffordd fel ffordd o ddod â gwahanol gymunedau at ei gilydd yn yr ardal leol, i ddarparu nifer o weithgareddau cyffrous fydd yn gwella llesiant ac yn datblygu sgiliau. Bydd yn galluogi mwy o ymgysylltiad cymunedol â gwirfoddolwyr y Rheilffordd a’r rhai sy’n ymweld â hi, gan wneud y Rheilffordd yn lle mwy cynhwysol i bawb.
Y Swydd
Bydd swydd y Swyddog Ymgysylltu a Phartneriaethau yn hanfodol er mwyn cyflawni’r rhaglen gweithgareddau a digwyddiadau yn llwyddiannus ac yn effeithiol drwy gydol y prosiect sydd wedi’i ariannu. Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn cydlynu ac yn cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau a hyfforddiant newydd sbon sydd wedi cael eu hamlinellu yn ein Cynllun Gweithredu, yn ogystal â chefnogi a datblygu rolau gwirfoddoli newydd a’r rhai sy’n bodoli eisoes.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos gyda Rheolwr y Prosiect a staff a gwirfoddolwyr Rheilffordd Talyllyn i sicrhau bod y Cynllun Gweithgareddau yn cael ei gyflwyno’n effeithiol ac yn llwyddiannus.
Cyflog: £25,000 y flwyddyn yn amodol ar sgiliau a phrofiad.
Oriau: 37.5 awr yr wythnos Cyfnod Penodol o 3.5 mlynedd (estyniad yn bosibl ar sail anghenion y prosiect)
Lleoliad: Gweithio’n hybrid lle bo hynny’n addas, gyda swyddfa a lle ar gyfer gweithgareddau ar gael ar y safle.
Hawl gwyliau: 28 diwrnod gan gynnwys Gwyliau Banc (pro-rata)
Dyddiad cau: Dydd Iau 17eg Medi 5yp
Bydd y swydd yn cael ei chynnig fel swydd amser llawn, ond byddwn yn ystyried ceisiadau gan unigolion sydd â diddordeb mewn rhannu swydd ac oriau gweithio hyblyg (pro-rata ar sail yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt).
Prif gyfrifoldebau:
- Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer ein partneriaid cyflawni a datblygu perthynas gref â phob un ohonynt i annog mwy o ymgysylltiad â’r Rheilffordd
- Datblygu disgrifiadau rôl gwirfoddoli ar gyfer y rolau gwirfoddoli newydd a helpu i ddenu gwirfoddolwyr
- Datblygu a meithrin perthynas gref gyda grwpiau cymunedol lleol ac aelodau o gynulleidfaoedd targed y prosiect
- Mentora a chefnogi gwirfoddolwyr
- Cyfrannu at ddatblygu a mireinio rhagor ar weithgareddau a digwyddiadau
- Datblygu, cydlynu a chyflwyno’r gweithgareddau cyfranogol sydd wedi cael eu hamlinellu yn y Cynllun Gweithredu gyda phob un o’n cynulleidfaoedd targed.
- Datblygu, cydlynu a chyflwyno rhaglen ddysgu ffurfiol y prosiect
- Ochr yn ochr â thîm y prosiect, cadw mewn cysylltiad â phartneriaid a rhanddeiliaid y prosiect, gan feithrin perthnasoedd sy’n bodoli eisoes a datblygu cysylltiadau â phartneriaid/rhanddeiliaid newydd posibl
- Cyfrannu at adrodd ar ddibenion cymeradwy’r prosiect, gan eu gwerthuso a’u monitro
Manyleb y Person
Byddai’r rôl yn addas i ymgeisydd sy’n gallu ymgysylltu â phobl o bob oed a chefndir ac ennyn eu brwdfrydedd. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a threfnu dwyieithog gwych, a byddwch yn creu ac yn ehangu partneriaethau a chysylltiadau, gan ddarparu rhaglen lawn o weithgareddau a digwyddiadau ar yr un pryd. Byddai rhywun sydd â phrofiad o ddatblygu a chyflwyno rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau, gwaith ymgysylltu â’r gymuned a gwaith gyda phobl ifanc a gwirfoddolwyr yn ddelfrydol ar gyfer y rôl hon.
HANFODOL
- Gallu gweithio a chyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg
- Profiad o ddatblygu a darparu gweithgareddau / digwyddiadau yn y sector treftadaeth
- Profiad o reoli pobl, yn enwedig gwirfoddolwyr
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur, gan gynnwys ysgrifennu adroddiadau
- Gallu gweithio oriau hyblyg, gan gynnwys gyda’r nos ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd
- Gallu gweithio ar eich liwt eich hun o fewn y canllawiau a roddwyd, gan reoli eich llwyth gwaith eich hun a blaenoriaethu’n effeithiol er mwyn bodloni terfynau amser a rheoli nifer o flaenoriaethau ar yr un pryd
- Sgiliau TGCh da, gan gynnwys y gallu i ddefnyddio Microsoft Office, MS Teams a Zoom
DYMUNOL
- Profiad o ddarparu rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau sydd wedi’u hariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
- Profiad o helpu i gyflawni prosiect sydd wedi’i ariannu
- Gwybodaeth am dreftadaeth llechi a rheilffyrdd
- Gwybodaeth am ddiwylliant Cymru a chyd-destun prosiectau yng Nghymru, gan gynnwys mentrau Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â diwylliant a chymunedau
Mae’r swydd hon yn cael ei hariannu gan y Gronfa Gymunedol a Sefydliad Garfield Weston
I ymgeisio
Anfonwch lythyr eglurhaol a CV ar ebost at carys.aldous-hughes@talyllyn.co.uk
Ein lleoliad:
Gorsaf Cei Tywyn, Tywyn, Gwynedd LL36 9EY
01654 710472 www.talyllyn.co.uk
Rhif Cofrestru’r Elusen: 1089053


