Syrfëwr Rheoli Tir Arbenigol
Lleoliad: Rhuthun – Clawdd Newydd, Swyddfa Bwcle
Gradd / Amrediad cyflog: £42,662 – £46,662
Patrwm gwaith: Llawn amser (37 awr y wythnos)
Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol (FTA)
Dyddiad diwedd y contract: 31/03/2027
Lefel hyfedredd yn y Gymraeg: A1 – Lefel mynediad
Dyddiad cau: 22/03/2026
Y rôl
A ydych chi’n angerddol am reoli tir ac asedau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a byd natur?
Dyma eich cyfle i chwarae rhan allweddol yn y broses o lunio sut rydym yn gofalu am amgylchedd Cymru. Fel Syrfëwr Arbenigol, byddwch yn rhoi cyngor arbenigol ac yn darparu gwasanaethau asiantaeth tir technegol sy’n ein helpu i reoli eiddo mewn ffordd gyfrifol a chynaliadwy.
Byddwch yn rhan o’n tîm Rheoli Tir a Gweithrediadau Coedwigaeth, gan gydweithio â chydweithwyr a phartneriaid ar draws pob rhan o’r sefydliad i gyflawni prosiectau sy’n diogelu ac yn gwella ein hadnoddau naturiol.
Fel Syrfëwr Arbenigol bydd gennych yr ymreolaeth i ddylanwadu ar benderfyniadau a chyfrannu at gynllunio strategol, wrth fwynhau gwahanol ffyrdd o weithio ar draws swyddfeydd ac wrth ymweld â safleoedd. Os ydych chi’n chwilio am rôl sy’n cyfuno her broffesiynol â phwrpas, dyma’r cyfle perffaith i wneud argraff.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Hannah Howell at hannah.howell@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb (bydd manylion lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cynllunio, blaenoriaethu a threfnu adnoddau er mwyn sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni yn unol â’r amser, y gost a’r safonau ansawdd y cytunwyd arnynt.
- Nodi a gweithredu ar gyfleoedd i leihau costau, cynyddu incwm a chyflawni gwerth am arian.
- Nodi a rheoli risgiau sylweddol posibl i’r busnes.
- Derbyn yr awdurdod dirprwyedig ar gyfer gwneud penderfyniadau, a meddu ar y gallu i symud materion yn eu blaen o fewn goddefiant penodol er mwyn dod i gasgliad boddhaol.
- Meithrin perthynas gref â rhanddeiliaid.
- Meithrin, cynnal a gwella’r cydberthnasau â rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn cyflawni’r deilliannau a rennir yn y ffordd orau; a bod yn weladwy ac yn hygyrch i bawb.
- Pennu cyfeiriad strategol.
- Gwerthuso polisïau a gweithdrefnau strategol a chychwyn newidiadau priodol er mwyn cyflawni amcanion.
- Bod yn sensitif i’r dirwedd wleidyddol a’r effeithiau posibl ar fusnes CNC.
- Cydnabod bod gwybodaeth yn bodoli ar bob lefel a cheisio darparu cyfleoedd ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Aelodaeth lawn fel syrfëwr siartredig o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig(RICS).
- Profiad o reoli eiddo a’r gallu i ddangos profiad o weithio gyda dogfennau cyfreithiol megis cytundebau negodi a chwblhau, a chynorthwyo gyda’r gwaith o reoli tir y sector preifat neu’r sector cyhoeddus.
- Gwybodaeth ddigonol gadarn o ystod eang o ddeddfwriaeth a chyfraith gyffredin sy’n rhyngweithio mewn perthynas â chyrff â chyfrifoldebau statudol gyda gallu profedig i ddadansoddi materion sy’n ymwneud ag eiddo a thir ac i ddatblygu datrysiadau i gyflawni’r deilliant cyffredinol gorau posibl, gan gydweithio’n aml ag eraill.
- Profiad o weithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol eraill o gymysgedd o feysydd (e.e. peirianwyr, syrfewyr adeiladu, ymgynghorwyr cost, dylunwyr a rheolwyr amgylcheddol) i gyflawni rhaglenni gweithredol mawr.
- Gwybodaeth ddigonol gadarn o Microsoft Office.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 – Lefel Myndediad
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

