Syrfëwr Siartredig ar gyfer Bioamrywiaeth a Safleoedd Gwarchodedig

Teitl Swydd
Syrfëwr Siartredig ar gyfer Bioamrywiaeth a Safleoedd Gwarchodedig
Enw’r Cwmni
Cyfoeth Naturiol Cymru
Lleoliad
Hyblyg
Cyflog
£42,662 – £46,662
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 29/03/2026

Gradd / Amrediad cyflog 6: £42,662 – £46,662
Patrwm gwaith: Llawn amser (37 awr y wythnos)
Math o gytundeb: Parhaol
Lefel hyfedredd yn y Gymraeg: C1 – Lefel hyfedredd
Dyddiad cau: 29/03/2026

Y rôl

Byddwch yn darparu arbenigedd arbenigwr asiantaeth tir ledled Cymru, gan chwarae rhan ganolog wrth gryfhau ein canlyniadau bioamrywiaeth. Fel arweinydd arbenigol ar gyfer cytundebau rheoli tir, byddwch yn llunio ac yn goruchwylio’r mecanweithiau a ddefnyddiwn i sicrhau bod safleoedd gwarchodedig, yn enwedig Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn cael eu rheoli mewn ffordd ffafriol. Bydd eich mewnwelediad yn helpu cydweithwyr i lywio newidiadau i bolisi a deddfwriaeth, gan sicrhau bod ein dull yn parhau i gydymffurfio ac yn flaengar. Mae’r rôl hon yn ganolog i ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i’r argyfwng natur, gan ddylanwadu’n uniongyrchol ar sut rydym yn amddiffyn, yn adfer ac yn gwella lleoedd naturiol pwysicaf Cymru.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Bydd angen ymweld â ffermydd a lleoliadau gwledig eraill, lle nad yw trafnidiaeth gyhoeddus ar gael. Felly mae trwydded yrru llawn a chyfredol yn y DU yn hanfodol.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Nick Thomas at nick.thomas@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar wythnos dechrau 13 Ebrill 2026 ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Defnyddio arbenigedd a barn broffesiynol i arwain a chefnogi’r trafodaethau ar gytundebau rheoli er mwyn gwella cyflwr Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Dehongli newidiadau i bolisi a’r gyfraith a chynghori ac ysgogi cydweithwyr yn unol â hynny.
  • Cynllunio, blaenoriaethu a threfnu adnoddau i sicrhau bod cytundebau ac achosion yn cael eu cyflawni yn brydlon ac i safon uchel.
  • Nodi a gweithredu ar gyfleoedd i leihau costau a chyflawni gwerth am arian i Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Nodi a rheoli risgiau posibl i’r busnes.
  • Meithrin, cynnal a gwella perthnasoedd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn cyflawni’r canlyniadau a rennir yn y ffordd orau; a bod yn weladwy ac yn hygyrch i bawb.
  • Gwerthuso polisïau a gweithdrefnau strategol a chychwyn newidiadau priodol er mwyn cyflawni amcanion.
  • Bod yn sensitif i’r dirwedd wleidyddol a’r effeithiau posibl ar fusnes Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Cydnabod bod gwybodaeth yn bodoli ar bob lefel a cheisio darparu cyfle ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth.
  • Bod yn gyfrifol am gynnal eich achrediad proffesiynol personol gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) a sicrhau bod y datblygiadau diweddaraf yn y maes proffesiynol yn cael eu hadlewyrchu yn eich gwaith a’ch cyfraniadau at gynhyrchu strategaeth, polisi a chanllawiau.
  • Cynnal cofnodion archwiliadwy o gamau gweithredu a chanlyniadau er mwyn cyfiawnhau’r holl ofynion cyfreithiol a threfniadol a dangos eu bod wedi cael eu bodloni.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Aelod cymwysedig o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (mae’r Llwybr Gwledig yn cael ei ffafrio).
  2. Profiad mewn rheoli tir ac eiddo a’r gallu i arddangos profiad o weithio gyda dogfennau cyfreithiol megis prydlesau.
  3. Gallu profedig i ddadansoddi materion sy’n ymwneud â thir ac eiddo ac i ddatblygu datrysiadau i gyflawni’r canlyniad cyffredinol gorau posibl, gan weithio’n aml mewn cydweithrediad ag eraill.
  4. Gwybodaeth ddigonol gadarn o amrediad eang o ddeddfwriaeth a’r gyfraith gyffredin sy’n ymwneud â chyrff sydd â chyfrifoldebau statudol.
  5. Profiad o gynorthwyo i reoli tir yn y sector preifat neu yn y sector cyhoeddus.
  6. Gwybodaeth am reoli tir ac eiddo i alluogi darparu cyngor gwrthrychol i eraill ar faterion arbenigol.
  7. Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r gallu i ddatblygu a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau da ag amrywiaeth o unigolion ac ar bob lefel.
  8. Sgiliau trafod rhagorol er mwyn eu defnyddio i gyflawni’r canlyniad gorau i Cyfoeth Naturiol Cymru.
  9. Gwybodaeth ymarferol gadarn o Microsoft Office.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: C1 – Lefel hyfedredd

Os nad ydych chi’n bodloni gofynion lefelau’r Gymraeg ar gyfer y rôl hon, ni fydd eich cais yn cael ei roi ar y rhestr fer.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Cyfeirnod Swydd
204165

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.