Tîm Casglu Maes – Casglwr x 2
Patrwm gweithio: Gweithio hyblyg, Llawn amser, Rhan amser, Rhannu swydd
Crynodeb o’r swydd
Datblygwch eich gyrfa gyda CThEF. P’un a ydych chi’n chwilio am bwrpas, am gyfle i dyfu, neu am weithle sydd wir yn rhoi ymdeimlad o berthyn, gwrandewch ar rai o’n cyflogeion yn rhannu eu profiadau o weithio yn CThEF.
Ewch i’n sianel YouTube i wylio’r gyfres gyfan a darganfod eich potensial.
Mae arnom angen 2 Swyddog Casglu Dyledion yng Nghymru sy’n gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o Dîm Casglu ehangach.
- Wrth benodi, byddwn yn glynu wrth y drefn deilyngdod, a hynny’n seiliedig ar leoliadau’r swyddi gwag.
- Bydd disgwyl i chi weithio o fewn ardaloedd lleol yn ogystal ag ardaloedd sydd ymhellach i ffwrdd er mwyn gwneud y gwaith mewn lleoliadau daearyddol ar sail gofynion gweithredol.
Byddwn yn gweithio gyda chi i drefnu hyn. Gweler isod y lleoliadau daearyddol lle mae’r swyddi gwag: –
Bangor, Llandudno, Porthmadog a Wrecsam.
Byddwch yn cael yr holl gyfarpar symudol y bydd ei angen arnoch er mwyn gallu gwneud gwaith hwn unrhyw le. Mae’r cyfarpar hyn yn cynnwys gliniadur, peiriant talu â cherdyn, ffôn symudol ac argraffydd thermol.
Fel rhywun sy’n gweithio ar ei ben ei hun, byddwch hefyd yn cael dyfais Iechyd a Diogelwch.
Gan fod y rôl hon yn gofyn i chi weithio’n symudol, ac o bell, byddwch yn gymwys i wneud cais i gael eich car cwmni eich hun drwy ddefnyddio un o’n cynlluniau hyblyg.
Swydd ddisgrifiad
Dyma gyfle cyffrous i chi ymuno â Thîm Casglu Maes modern a digidol sy’n rhan o adran Rheoli Dyledion CThEF, a hynny’n canolbwyntio ar gasglu arian i ariannu gwasanaethau cyhoeddus y DU. Mae’r Tîm Casglu Maes yn gyfrifol am ddod o hyd i drethi gorddyledus, a’u casglu. Fel swyddog Casgliadau Maes dwyieithog:
- Byddwch yn rhyngweithio ag ystod eang o bobl, gan gynnwys Cyfarwyddwyr Cwmni, Perchnogion Unigol a Phartneriaethau, er mwyn casglu’r hyn sy’n ddyledus i CThEF. Byddwch yn cofnodi eu hasedion o dan y ddeddfwriaeth ‘Cymryd Rheolaeth o Nwyddau’ yng Nghymru.
- Byddwch yn teithio ar ben eich hun i safleoedd cwsmeriaid allanol, ac yn ymgysylltu â’r cwsmeriaid hyn wrth i chi gasglu gwybodaeth i’ch helpu i ddod i benderfyniad cytbwys. Byddwn yn rhoi cymorth i’ch helpu chi i ddatblygu yn eich rôl. Byddwch yn dilyn cwrs hyfforddiant 8-wythnos o hyd, ac yn cael cymorth parhaus gan eich cydweithwyr.
Fel Swyddog Casglu Dyledion dwyieithog, bydd gennych sgiliau penodol a fydd yn eich galluogi i wneud y canlynol:
- Cynllunio a rheoli’ch dyddiadur ar gyfer ymweliadau wythnosol.
- Gwneud penderfyniadau effeithiol i ddatrys achosion, gan gynnwys: –
Gofyn cwestiynau ynghylch arian ac asedion wrth i chi fynd ati i gymryd taliadau wrth gwsmeriaid
Dadansoddi systemau er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus.
Penderfynu pryd i ddechrau gweithgarwch gorfodi.
Felly, os ydych yn hoffi cwrdd â phobl wahanol, yn mwynhau teithio, ac os ydych yn berson sy’n gweithio’n galed, yn benderfynol, yn hyblyg ac â sgiliau rhyngbersonol da, ac os hoffech weithio i dîm sy’n datblygu ac yn gwella’n gyson, dyma’r swydd i chi!
Darllenwch ragor!
Gan fod y Tîm Casglu Maes yn dîm cenedlaethol sy’n gweithio ledled y DU, nid yw Canolfannau Rhanbarthol o reidrwydd yn pennu ble y mae angen i ni recriwtio – mae’r penodiadau hyn yn seiliedig ar leoliadau daearyddol – felly mae gennym Restrau Wrth Gefn yn seiliedig ar leoliad.
Manyleb bersonol
Fel Swyddog dwyieithog sy’n ddylanwadol ar y Tîm Casglu Dyledion, bydd angen i chi fod yn drefnus, yn benderfynol, yn gallu rheoli’ch amser mewn ffordd effeithlon ac yn gallu cyfathrebu mewn ffordd lwyddiannus. Bydd disgwyl i chi fod yn gyfeillgar fel Gwas Sifil, ac yn awdurdodol ac yn hyderus fel Swyddog Casglu Dyledion dwyieithog. Bydd disgwyl i chi ddelio ag aelodau o’r cyhoedd a rhanddeiliaid mewnol ac allanol mewn ffordd deg bob tro, hyd yn oed o dan amgylchiadau heriol, yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Bod yn rhan o dîm cenedlaethol mawr sy’n brysur iawn, yn gynhwysol, yn hyblyg ac yn mynd ati i ddatrys problemau a delio â newidiadau mewn ffordd greadigol.
- Tra byddwch yn teithio, byddwch yn cynrychioli CThEF. Byddwch yn cymryd gwasanaethau i gwsmeriaid, ac ymddygiad a thegwch tuag atynt, o ddifrif, ac yn rhoi’r rhain ar waith mewn ffordd broffesiynol. Byddwch yn hunan-ysgogol ac yn achub ar bob cyfle i ddatblygu’ch arbenigedd.
- Byddwch yn defnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennych i atgoffa cwsmeriaid o’r rheoliadau, deddfau a deddfwriaethau, megis Cymryd Rheolaeth dros Nwyddau yng Nghymru.
- Byddwch yn defnyddio platfformau digidol, ac yn gallu meddwl mewn ffordd ddadansoddol, wrthrychol a chwilfrydig. Byddwch yn arfer eich synnwyr cyffredin i wneud penderfyniadau i’ch galluogi i brosesu pob achos a delio ag ymholiadau cysylltiedig.
- Byddwch yn gweithredu mewn ffordd hyblyg er mwyn gwella’r cysylltiad â’r cwsmer, a threulir 90% o’ch diwrnod gwaith “ar y ffordd” yn cynnal ymweliadau dirybudd. Ambell waith bydd angen i chi aros mewn llety dros nos – bydd y costau hyn yn cael eu talu ar eich rhan.
Meini Prawf Hanfodol:
- Yn gallu siarad, ysgrifennu a darllen yn hyderus ac yn rhugl yn y Gymraeg, a hynny gyda chydweithwyr a chwsmeriaid. Byddwch yn siarad Cymraeg â chydweithwyr neu gwsmeriaid bob dydd.
- Yn gallu defnyddio sgiliau cynllunio a threfnu cryf i gyflawni lefel uchel o waith mewn amgylchedd prysur.
- Y gallu i fod yn hyblyg ac yn gallu rhoi gwasanaeth gwych i gwsmeriaid.
- Y gallu i newid blaenoriaethau a gweithredu mewn amgylchedd deinamig a phrysur. Yn gyffyrddus wrth weithio o dan bwysau ac yn gallu cadw at derfynau amser tyn.
- Yn gallu defnyddio sgiliau rhyngbersonol gwych, a’r gallu i ddylanwadu ar bobl eraill ac ymgysylltu â nhw mewn ffordd effeithiol.
- Yn gallu casglu a dadansoddi data er mwyn dod i benderfyniad cadarn, hyd yn oed pan fydd y penderfyniad hwnnw yn amhoblogaidd.
- Yn sylwi ar bopeth, ac yn ofalus iawn wrth ystyried yr holl wybodaeth berthnasol.
- Yn gallu gwneud penderfyniadau effeithiol er mwyn cyflawni canlyniadau positif.
- Trwydded Yrru Lawn y DU
Gweminar
Mae CThEF yn cynnal sesiwn wybodaeth ar 28 Ionawr – 12:00pm i helpu’r broses ymgeisio, lle byddwch yn gallu clywed rhagor am y swydd wag. I ymuno â’r sesiwn, bydd angen i chi gofrestru drwy lenwi’r ffurflen ganlynol https://forms.office.com/e/jM9W4tzGM8
Trwyddedau : Trwydded Yrru Lawn y DU
Ieithoedd: Yn gallu siarad, ysgrifennu a darllen yn hyderus ac yn rhugl yn y Gymraeg, a hynny gyda chydweithwyr a chwsmeriaid. Byddwch yn siarad Cymraeg â chydweithwyr neu gwsmeriaid bob dydd.
Ymddygiadau: Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:
- Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
- Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd
- Cyflawni’n brydlon
Buddion
Ochr yn ochr â’ch cyflog o £31,096, mae Cyllid a Thollau EF yn cyfrannu £9,008 tuag at fod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Buddion wedi’i Ddiffinio’r Gwasanaeth Sifil. Darganfyddwch pa fuddion y mae’r Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn eu darparu.
Mae CThEF yn gweithredu polisïau Gweithio Hyblyg a Gweithio Hybrid, sy’n eich galluogi i gydbwyso eich gwaith a’ch ymrwymiadau personol. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl sydd angen trefniadau gwaith mwy hyblyg, a byddwn ni’n cytuno ar geisiadau o’r fath lle bo hynny’n bosibl, gan ystyried ein hanghenion gweithredol yn ogystal ag anghenion ein cwsmeriaid.
Rydyn ni’n cynnig lwfans gwyliau hael, sef 25 diwrnod i ddechrau, gyda diwrnod ychwanegol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth cymhwysol hyd at uchafswm o 30 diwrnod.
- Pensiwn – Rydyn ni’n gwneud cyfraniadau tuag at bensiwn Alpha ein cydweithwyr sy’n cyfateb i o leiaf 28.97% o’u cyflog.
- Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd.
- Cymorth personol.
- Cyfleoedd hyfforddi a datblygu.
I ddysgu rhagor am fuddion CThEF, a sut beth yw gweithio i CThEF, gwrandewch ar brofiadau rhai o’n staff neu ewch i’r dudalen ynghylch Ymuno â’r Gwasanaeth Sifil

