Uwch Ddadansoddwr Data

Teitl Swydd
Uwch Ddadansoddwr Data
Enw’r Cwmni
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Lleoliad
Caerdydd, Nantgarw, Tonsguboriau
Cyflog
£50,129 i £57,365 y flwyddyn
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 17/11/2026

Ydych chi’n teimlo’n frwdfrydig ynghylch sut y gall gwasanaethau digidol drawsnewid gofal iechyd, ar gyfer ein rhoddwyr, cleifion a chydweithwyr? Mae gennym gyfle cyffrous yn y Tîm Gwasanaethau Digidol  ar gyfer Prif Peiriannydd Data,  i weithio ar y cyd ar draws yr Ymddiriedolaeth a GIG Cymru yn ehangach, i ddarparu systemau digidol trawsnewidiol a gwasanaethau dan arweiniad mewnwelediad.

Rydym mewn cyfnod cyffrous o newid, fel y nodir yn y ddogfen Cyrchfan 2033, sy’n cynnwys agor canolfan ganser newydd o safon fyd-eang i ymestyn a gwella triniaeth canser arbenigol, ynghyd â darparu gofal canser yn nes at adref mewn safleoedd rhanbarthol. Ar gyfer Gwasanaeth Gwaed Cymru, rydym yn trawsnewid gwasanaethau gwaed a thrawsblaniadau, ac yn gwella galluoedd presennol, ochr yn ochr â datblygu gwasanaethau newydd, gan gynnwys plasma ar gyfer meddyginiaethau.

Mae strategaeth ddigidol uchelgeisiol yn cefnogi hyn, a fydd yn chwyldroi’r ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau – o gyd-gynhyrchu technolegau arloesol, gweithio ar gynhwysiant digidol, i fewnosod data a mewnwelediad i’n bywyd bob dydd.  Mae ein tîm yma i ddarparu atebion digidol newydd a gwasanaeth digidol dyddiol rhagorol, i wella gwasanaethau a chanlyniadau.

Rydym yn cydnabod bod gwasanaeth trawsnewid digidol llwyddiannus yn ymwneud cymaint â’n pobl a’n diwylliant ag y mae i’w wneud â thechnoleg.

Prif ddyletswyddau’r swydd

Mae darparu gwasanaethau Data a Mewnwelediad o ansawdd uchel yn ganolog i bwrpas a gweledigaeth yr Ymddiriedolaeth i wella bywydau trwy ofal rhagorol, dysgu ysbrydoledig, a phobl iachach.  Fel rhan o’i Strategaeth Ddigidol uchelgeisiol, mae’r Ymddiriedolaeth ar daith i wreiddio data a mewnwelediad i’n gwasanaethau presennol ac i sicrhau bod ein gwaith cynllunio a thrawsnewid yn y dyfodol yn cael ei lywio gan ddadansoddiadau a rhagfynegi cadarn.

Bydd yr Uwch Ddadansoddwr Data yn rheoli’r gwaith o gyflawni prosiectau dadansoddol sy’n rhan o’r rhaglen waith ehangach a bydd yn cefnogi’r Prif Ddadansoddwr Data i sicrhau bod gan dasgau adnoddau i fodloni’r safon ddisgwyliedig o ran ansawdd ac amseroldeb. Bydd yr Uwch Ddadansoddwr Data yn chwilio’n barhaus am ffyrdd arloesol o weithio gyda phwyslais ar sut y gall technolegau sy’n dod i’r amlwg fel deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio gefnogi arferion gwaith a symleiddio prosesau. Bydd disgwyl i’r Uwch Ddadansoddwr Data feithrin ysbryd chwilfrydedd a chreadigedd ar draws y tîm data a mewnwelediadau a’r tîm Gwasanaethau Digidol ehangach a chyfrannu at ein datblygiad proffesiynol ar y cyd trwy gyfranogiad gweithredol mewn rhwydweithiau dysgu ar draws y GIG ac yn ehangach.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Cytundeb Tymor Penodol am 12 mis.

Cyfeirnod Swydd
120-AC825-1126