Uwch Gynghorydd Cynllunio Datblygu : Cyfoeth Naturiol Cymru (Bangor)
Cyfarwyddiaethau: Gweithrediadau
Tîm: Gwasanaeth Cyngor Cynllunio Datblygu
Lleoliad: Bangor
Cyflog: £41,132 – £44,988
Patrwm gwaith: Llawn amser
Math o gytundeb: Parhaol
Dyddiad cau: 23/11/2025
Y rôl
Ydych chi’n gynlluniwr proffesiynol â phrofiad technegol cryf ac angerdd dros lunio datblygiad cynaliadwy?
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn chwilio am Uwch Gynghorydd Cynllunio i arwain ar waith achos cymhleth, proffil uchel o fewn ein Gwasanaeth Cynghori ar Gynllunio Datblygu (DPAS). Mae hwn yn gyfle unigryw i ddylanwadu ar gynigion datblygu mawr ledled Cymru — gan gynnwys seilwaith, tai, trafnidiaeth ac amaethyddiaeth —g an sicrhau bod blaenoriaethau amgylcheddol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
Yn y rôl hon, byddwch yn rhoi cyngor arbenigol i Awdurdodau Cynllunio, Llywodraeth Cymru ac ymgeiswyr, gan ddefnyddio pynciau fel safleoedd cadwraeth, Rhywogaethau Gwarchodedig Ewropeaidd, risg llifogydd, ansawdd dŵr, ansawdd aer, tir halogedig, a thirwedd. Byddwch yn cydweithio ag arbenigwyr technegol ar draws CNC i ddarparu canllawiau cadarn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n cefnogi canlyniadau cynaliadwy. Bydd eich arbenigedd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar sut mae datblygu’n digwydd yng Nghymru – gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer hinsawdd, bioamrywiaeth, a rheoli adnoddau naturiol.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad sylweddol ym meysydd cynllunio, rheoli amgylcheddol neu ymgynghoriaeth ecolegol. Byddwch yn arwain ar achosion cymhleth a phroffil uchel, yn mentora cydweithwyr, ac yn cyfrannu at lunio strategaeth a chanllawiau CNC.
Er mwyn lwyddo, byddwch angen sgiliau cyfathrebu a dadansoddi rhagorol, meddylfryd cydweithredol, a’r gallu i ddylanwadu ar lefel strategol. Bydd eich gwaith yn cyfrannu’n uniongyrchol at wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Mae hwn yn gyfle ardderchog i gynlluniwr proffesiynol profiadol gael effaith barhaol a helpu i dyfu gwasanaeth cynllunio amgylcheddol uchel ei barch sy’n edrych i’r dyfodol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC ym Mangor a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Bryn Jones ar bryn.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams ar 3 – 10 Rhagfyr 2025
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Goruchwylio a rhoi sicrwydd ynglŷn â chyngor i Gynlluniau Datblygu Lleol a strategaethau a chynlluniau isranbarthol eraill, gan gynnwys y cyngor ar asesu amgylcheddol strategol ar gyfer cynlluniau o’r fath.
- Cynhyrchu cyngor ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol neu gynigion datblygu cymhleth, risg uchel, gan sicrhau bod cyngor CNC yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau.
- Cyfrannu barn a chymorth proffesiynol at y broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â chynigion a chynlluniau datblygu unigol strategol a chymhleth a reolir gan aelodau eraill o’r tîm.
- Sicrhau gwybodaeth sy’n cael ei pharatoi mewn perthynas â heriau yn erbyn cyngor CNC ar gynlluniau datblygu.
- Mynychu apeliadau ac ymholiadau.
- Darparu mewnbwn gweithredol i ddatblygiad polisi, prosesau a chanllawiau CNC.
- Sicrhau bod polisi, proses a chanllawiau CNC yn cael eu defnyddio’n gyson o fewn y tîm.
- Datblygu a chynnal perthnasoedd effeithiol â chwsmeriaid (mewnol ac allanol).
- Dylanwadu ar brosiectau a strategaethau datblygu lleol yn gynnar yn eu datblygiad.
- Cyfrifoldeb am ddatblygiad technegol aelodau’r tîm.
- Darparu cyngor a phrofiad swyddogaethol ar gyfer dulliau cynllunio lleoedd amlswyddogaethol fel Datganiadau Ardal.
- Cyfrannu at ddatblygiad cynllun gwaith y tîm.
- Rheoli a darparu prosiectau Gwelliant Parhaus ar gyfer y Gwasanaeth.
- Cynnal cofnodion y gellir eu harchwilio o weithredoedd a chanlyniadau i gyfiawnhau a dangos bod yr holl ofynion cyfreithiol a gweithdrefnol wedi’u bodloni.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Bydd ceisiadau i’r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y meini prawf canlynol wrth lunio rhestr fer a chyfweld. Defnyddiwch y dull STAR i ddangos sut rydych chi’n bodloni’r gofynion a amlinellir isod yn y cais am swydd.
- Gwybodaeth ragorol a phrofiad sylweddol o brosesau asesu amgylcheddol a chynlluniau datblygu.
- Dealltwriaeth ragorol a phrofiad sylweddol o’r sector datblygu.
- Profiad o gynnwys cymunedau a gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd mewn perthynas â phrosiectau mawr.
- Gallu cyfathrebu a thrafod yn effeithiol gyda rhanddeiliaid ar lefelau uwch reoli.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog a’r gallu i gynrychioli agweddau technegol a strategol gwaith Cynlluniau Datblygu i rai nad ydynt yn arbenigwyr, o fewn CNC ac yn allanol, mewn ffordd gryno ac effeithiol.
- Gallu dadansoddi gwybodaeth a sefyllfaoedd hynod gymhleth, datrys problemau, a ffurfio barn gadarn ar sail tystiolaeth.
- Gallu hyfforddi a mentora eraill yn effeithiol.
- Gallu rheoli prosiectau ac arwain grwpiau gorchwyl rhithwir.
- Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel B2 – Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
- Dymunol: Lefel C2 – Lefel hyfedredd uwch (rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig)
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.

