Uwch Gynghorydd Cynllunio Datblygu : Cyfoeth Naturiol Cymru (Caerdydd)

Cyfarwyddiaethau: Gweithrediadau
Tîm: Gwasanaeth Cyngor Cynllunio Datblygu
Lleoliad: Caerdydd
Cyflog: £41,132 – £44,988
Patrwm gwaith: Llawn amser
Math o gytundeb: Parhaol
Dyddiad cau: 23/11/2025

Y rôl

Ydych chi’n gynlluniwr proffesiynol â phrofiad technegol cryf ac angerdd dros lunio datblygiad cynaliadwy?

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn chwilio am Uwch Gynghorydd Cynllunio i arwain ar waith achos cymhleth, proffil uchel o fewn ein Gwasanaeth Cynghori ar Gynllunio Datblygu (DPAS). Mae hwn yn gyfle unigryw i ddylanwadu ar gynigion datblygu mawr ledled Cymru — gan gynnwys seilwaith, tai, trafnidiaeth ac amaethyddiaeth —g an sicrhau bod blaenoriaethau amgylcheddol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.

Yn y rôl hon, byddwch yn rhoi cyngor arbenigol i Awdurdodau Cynllunio, Llywodraeth Cymru ac ymgeiswyr, gan ddefnyddio pynciau fel safleoedd cadwraeth, Rhywogaethau Gwarchodedig Ewropeaidd, risg llifogydd, ansawdd dŵr, ansawdd aer, tir halogedig, a thirwedd. Byddwch yn cydweithio ag arbenigwyr technegol ar draws CNC i ddarparu canllawiau cadarn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n cefnogi canlyniadau cynaliadwy. Bydd eich arbenigedd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar sut mae datblygu’n digwydd yng Nghymru – gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer hinsawdd, bioamrywiaeth, a rheoli adnoddau naturiol.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad sylweddol ym meysydd cynllunio, rheoli amgylcheddol neu ymgynghoriaeth ecolegol. Byddwch yn arwain ar achosion cymhleth a phroffil uchel, yn mentora cydweithwyr, ac yn cyfrannu at lunio strategaeth a chanllawiau CNC.

Er mwyn lwyddo, byddwch angen sgiliau cyfathrebu a dadansoddi rhagorol, meddylfryd cydweithredol, a’r gallu i ddylanwadu ar lefel strategol. Bydd eich gwaith yn cyfrannu’n uniongyrchol at wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae hwn yn gyfle ardderchog i gynlluniwr proffesiynol profiadol gael effaith barhaol a helpu i dyfu gwasanaeth cynllunio amgylcheddol uchel ei barch sy’n edrych i’r dyfodol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Gemma Beynon ar Gemma.Beynon@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Goruchwylio a rhoi sicrwydd ynglŷn â chyngor i Gynlluniau Datblygu Lleol a strategaethau a chynlluniau isranbarthol eraill, gan gynnwys y cyngor ar asesu amgylcheddol strategol ar gyfer cynlluniau o’r fath.
  • Cynhyrchu cyngor ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol neu gynigion datblygu cymhleth, risg uchel, gan sicrhau bod cyngor CNC yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau.
  • Cyfrannu barn a chymorth proffesiynol at y broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â chynigion a chynlluniau datblygu unigol strategol a chymhleth a reolir gan aelodau eraill o’r tîm.
  • Sicrhau gwybodaeth sy’n cael ei pharatoi mewn perthynas â heriau yn erbyn cyngor CNC ar gynlluniau datblygu.
  • Mynychu apeliadau ac ymholiadau.
  • Darparu mewnbwn gweithredol i ddatblygiad polisi, prosesau a chanllawiau CNC.
  • Sicrhau bod polisi, proses a chanllawiau CNC yn cael eu defnyddio’n gyson o fewn y tîm.
  • Datblygu a chynnal perthnasoedd effeithiol â chwsmeriaid (mewnol ac allanol).
  • Dylanwadu ar brosiectau a strategaethau datblygu lleol yn gynnar yn eu datblygiad.
  • Cyfrifoldeb am ddatblygiad technegol aelodau’r tîm.
  • Darparu cyngor a phrofiad swyddogaethol ar gyfer dulliau cynllunio lleoedd amlswyddogaethol fel Datganiadau Ardal.
  • Cyfrannu at ddatblygiad cynllun gwaith y tîm.
  • Rheoli a darparu prosiectau Gwelliant Parhaus ar gyfer y Gwasanaeth.
  • Cynnal cofnodion y gellir eu harchwilio o weithredoedd a chanlyniadau i gyfiawnhau a dangos bod yr holl ofynion cyfreithiol a gweithdrefnol wedi’u bodloni.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth ardderchog a phrofiad sylweddol o brosesau asesu amgylcheddol a chynllunio datblygu.
  2. Dealltwriaeth ardderchog a phrofiad sylweddol o’r sector datblygu.
  3. Profiad o weithgareddau ymgysylltu â’r gymuned a’r cyhoedd o ran prosiectau mawr.
  4. Y gallu i gyfathrebu a thrafod yn effeithiol â rhanddeiliaid ar lefelau rheoli uwch.
  5. Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig, a’r gallu i gynrychioli agweddau strategol a thechnegol o waith cynllunio datblygu i’r rheini nad ydynt yn arbenigwyr, o fewn CNC ac yn allanol, mewn ffordd gryno ac effeithiol.
  6. Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth a sefyllfaoedd cymhleth, datrys problemau, a gwneud penderfyniadau craff.
  7. Y gallu i hyfforddi a mentora eraill yn effeithiol.
  8. Y gallu i reoli prosiectau ac arwain grwpiau gorchwyl rhithwir.
  9. Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol.   

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: A1 – Lefel mynediad

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Cliciwch yma am fwy o fanylion ac i wneud cais.

Sut i wneud cais