Uwch Swyddog Datblygu Prosiect x 2
Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol
Dyddiad diwedd y contract: 31/03/2028
Lefel hyfedredd yn y Gymraeg B1 – Lefel ganolradd
Dyddiad cau: 01/07/2026
Y rôl
Rydym yn chwilio am ddau Uwch Swyddog Datblygu Prosiect i chwarae rhan allweddol yng nghyfnod datblygu prosiect Teifi Fyw. Fel aelodau allweddol o’r tîm, byddwch yn helpu i lunio a chyflwyno cais Cyfnod Cyflawni cryf ar gyfer Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer rhaglen uchelgeisiol dros gyfnod o bum mlynedd.
Mae Teifi Fyw yn bartneriaeth gydweithredol, sy’n seiliedig ar le, sy’n dwyn ynghyd naw sefydliad craidd i adfer gwydnwch ecolegol ac ailgysylltu pobl â threftadaeth naturiol a diwylliannol dalgylch Afon Teifi. Gyda chymunedau wrth wraidd y prosiect, mae’r prosiect yn cyfuno gwybodaeth leol a thystiolaeth wyddonol i gyflawni newid ystyrlon, hirdymor.
Bydd y ddau ddeiliad swydd yn arwain y gwaith o ddatblygu a chydlynu dau o bedwar ffrwd waith y prosiect, gan gydweithio’n agos â phartneriaid, cymunedau a rhanddeiliaid:
- Lleisiau Afon Teifi – cefnogi’r gwaith o wneud penderfyniadau a chydgynhyrchu dan arweiniad y gymuned, gan sicrhau bod cynlluniau cyflawni yn adlewyrchu mewnwelediad lleol a thystiolaeth gadarn.
- Cysylltu Natur Teifi – gweithio gyda chymunedau i lunio cynlluniau sy’n adfer cysylltedd ecolegol a phrosesau naturiol yr afon
- Gwarcheidwaid Afon Teifi – datblygu dulliau rheoli tir sy’n seiliedig ar wybodaeth gymunedol ac sy’n cefnogi treftadaeth, bioamrywiaeth, iechyd dŵr a phridd, a gwydnwch yr hinsawdd
- Afon Teifi sy’n Barod ar gyfer Buddsoddiad – creu fframwaith cynaliadwy, a lywodraethir yn lleol ar gyfer buddsoddi hirdymor yn y dalgylch
Yn ystod y cyfnod datblygu, byddwch yn cyd-ddylunio a mireinio cynlluniau cyflawni, yn rhoi prawf ar ddulliau, ac yn adeiladu’r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer cais llwyddiannus i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Byddwch yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod cynigion yn uchelgeisiol, yn gyflawnadwy, ac wedi’u seilio ar flaenoriaethau partneriaethau a chymunedau.
Byddwch yn rheoli gwaith a gomisiynwyd, yn cydlynu ymgysylltiad â rhanddeiliaid, ac yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni allbynnau’n amserol, gan sicrhau bod yr holl weithgarwch yn cyd-fynd ag amcanion y prosiect a gofynion Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd eich gwaith yn cyfrannu at gyflwyniad o safon uchel ar gyfer y Cyfnod Cyflawni.
Gan weithio’n agos gyda chydweithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, partneriaid y prosiect, a chymunedau lleol, byddwch yn helpu i ymgorffori dull cydgynhyrchiol, dan arweiniad partneriaeth. Bydd hyn yn gosod y sylfeini ar gyfer Cyfnod Cyflawni sy’n cael ei lywio gan y gymuned, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac yn darparu buddion parhaol i bobl, lleoedd a threftadaeth ar draws dalgylch Afon Teifi.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch chi wedi’ch contractio i swyddfa CNC yn Ne-orllewin neu Ganolbarth Cymru, gyda phatrwm gweithio hybrid yn cael ei gytuno ar adeg eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw, mae angen teithio’n rheolaidd i ddalgylch Teifi ac o fewn y dalgylch.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Elena Waite at elena.waite@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar ar Microsoft Teams
Mae dau benodiad cyfnod penodol ar gael tan 31/03/2028, gyda’r posibilrwydd o swyddi parhaol. Mae’r rôl hon hefyd yn addas fel secondiad.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain a chydlynu’r gwaith o gyflawni dwy ffrwd waith a neilltuwyd. Cefnogi ffrydiau gwaith ychwanegol a gweithio ar y cyd â phartneriaid y prosiect, cydweithwyr yn CNC, cymunedau a rhanddeiliaid i ddatblygu cais Cyfnod Cyflawni cydlynol a chyflawnadwy ar gyfer Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
- Cefnogi Rheolwr y Rhaglen (Arweinydd Tîm) yn y gwaith cyffredinol o gydlynu, cynllunio a chyflawni cyfnod datblygu Teifi Fyw.
- Gweithio ar y cyd â phartneriaid, cymunedau a rhanddeiliaid i gyd-ddylunio cynigion ar gyfer y cyfnod cyflawni, gan ymgorffori cyd-gynhyrchu a sicrhau bod llais y gymuned yn llywio penderfyniadau.
- Adeiladu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda phartneriaid, rhanddeiliaid a chyrff ariannu i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r prosiect.
- Gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer ffrydiau gwaith a neilltuwyd, gan gydlynu gweithgarwch ac ymateb i ymholiadau rhanddeiliaid.
- Rheoli gwaith a gomisiynwyd, gan gynnwys caffael, rheoli contractau a chyflawni allbynnau ar amser ac i safon uchel.
- Mentora a chefnogi cydweithwyr a chyfrannu at ffyrdd gwell o weithio ar draws y tîm a’r bartneriaeth.
- Arwain neu gefnogi gweithgarwch monitro a/neu werthuso, gan sicrhau bod dulliau cadarn ar waith a bod dysgu, myfyrio a mewnwelediad yn cael eu defnyddio i wella’r ddarpariaeth yn barhaus a llywio’r cais Cyfnod Cyflawni.
- Trosi tystiolaeth, mewnwelediad cymunedol ac allbynnau ymgysylltu yn gynlluniau a blaenoriaethau clir, sy’n barod i’w cyflawni.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Cymhwyster neu radd gydnabyddedig mewn pwnc perthnasol neu brofiad cyfatebol.
- Profiad o weithio gyda neu o fewn Llywodraeth Cymru, cyrff ariannu, awdurdodau lleol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, Parciau Cenedlaethol neu sefydliadau tebyg, a dealltwriaeth o weithio mewn partneriaeth.
- Profiad o weithio ar raglen neu brosiect, gan gynnwys cynllunio, cyflawni a chydlynu prosiectau (gyda phrofiad a/neu gymwysterau rheoli prosiectau yn ddymunol).
- Gwybodaeth am ffactorau sy’n sbarduno polisïau Llywodraeth Cymru, y DU a’r UE sy’n berthnasol i unrhyw un neu bob un o’r meysydd canlynol: cyllid a buddsoddiad strategol amgylcheddol; amaethyddiaeth; ansawdd dŵr; adfer afonydd a bioamrywiaeth; gan gynnwys gwybodaeth am fecanweithiau a chyfleoedd ariannu yng Nghymru.
- Y gallu i gasglu, dehongli a chrynhoi gwybodaeth gymhleth, gan gynhyrchu allbynnau clir a chywir o fewn terfynau amser a chymhwyso gwybodaeth a mewnwelediad i ddatrys problemau a’r gallu i gyfleu gwybodaeth gymhleth yn glir.
- Y gallu i weithio ar y cyd ac yn hyblyg o fewn amgylchedd aml-bartner, gan feithrin ymddiriedaeth a pherchnogaeth a rennir a gweithio ar draws ffiniau sefydliadol a chefnogi cydweithwyr a phartneriaid.
- Gwybodaeth arbenigol a phrofiad profedig o weithio mewn sawl maes technegol o fewn cylch gwaith y tîm:
- Strategaethau ymgysylltu, fforymau gwybodaeth gymunedol neu gyd-gynhyrchu cymunedol
- Dulliau rheoli dalgylchoedd, fel adfer afonydd, cysylltedd ecolegol, atebion sy’n seiliedig ar natur, neu fonitro dalgylchoedd afonydd
- Amaethyddiaeth a dulliau rheoli tir cynaliadwy
- Fframweithiau buddsoddi lleol hirdymor neu ddulliau cyllid gwyrdd (nid oes disgwyl i ymgeiswyr fod â phrofiad ym mhob maes; rydym yn chwilio am arbenigedd cyflenwol ar draws y tîm)
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: B1 – Lefel canolradd
- Dymunol: C1 – Lefel hyfedredd
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r Gofynion y Gymraeg y rôl hon ni fydd eich cais yn cael ei ei adolygu.
Gwybodaeth ychwanegol
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.
Mae’r rôl hon yn bodloni’r meini prawf ar gyfer nawdd o dan y llwybr fisa i Weithwyr Medrus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu ceisiadau gan y rhai nad ydynt yn ddinasyddion o’r DU sy’n gymwys i wneud cais o dan y llwybr hwn, yn amodol ar gadarnhad gan y Swyddfa Gartref.
Sylwer, er y gallai fod yn bosib i ni gefnogi’r Dystysgrif Nawdd sy’n ofynnol ar gyfer cais am fisa, nid yw’r sefydliad yn talu cost y fisa ei hun, gan gynnwys unrhyw ffioedd cysylltiedig ar gyfer dibynyddion.
Rhaid i’r ymgeisydd fodloni Cymhwystra a Gofyniad Fisa ar gyfer Gweithiwr Medrus y DU o hyd. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/skilled-worker-visa
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

