Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu GwyrddNi

Enw’r Cyflogwr: Datblygiadau Egni Gwledig (DEG)

Cyflog: £32,000 – £35,000 llawn amser (32 awr y wythnos) 

Cytundeb: Hyd at 28 Chwefror 28/02/2028

Dyddiad Cau: 4/11/2025

Amser Cau: 11.30 yh

Dyddiad cyfweliad: 13/11/2025

Enw Cyswllt: Rhian Cahill, Cydlynydd GwyrddNi

E-bost: rhian@deg.cymru

Gwefan:  https://www.gwyrddni.cymru

Prif Leoliad: Caernarfon, gyda theithio rheolaidd i’n swyddfeydd eraill yng Ngwynedd. Mae gennym ddull hybrid o weithio, bydd patrwm gwaith a lleoliad yn cael ei gytuno gyda’r ymgeisydd llwyddiannus.

Trosolwg:

Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu

Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu dros yr hinsawdd sy’n grymuso cymunedau i fynd i’r afael â newid hinsawdd gyda’i gilydd trwy ddysgu a gweithredu lleol. 

Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol a strategol sy’n angerddol am y gymuned a’r amgylchedd. Byddwch yn arwain ac yn cyflwyno cynllun cyfathrebu beiddgar, gan weithio gyda phartneriaid i ehangu ein heffaith. Gan ddefnyddio amrywiaeth o sianeli, byddwch yn ysbrydoli pobl i ymgysylltu, meithrin perthnasoedd cryf, a thyfu’r mudiad. Bydd eich gwaith hefyd yn creu cyfleoedd cynhwysol i gymunedau gysylltu, cymryd rhan, a gyrru newid ystyrlon gyda’i gilydd.

Disgrifiad:

Y Fenter a’r Swydd 

Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu ar yr hinsawdd sy’n grymuso cymunedau i ddod ynghyd i fynd i’r afael â newid hinsawdd trwy drafod, dysgu a gweithredu lleol mewn pum ardal yng Ngwynedd. ‘Rydym yn gweithredu dull Datblygu Cymunedol Seiliedig ar Asedau (Asset Based Community Development). Wedi ei ariannu gan Gonfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol hyd at 2028.

Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle i ysbrydoli pobl o fewn cymunedau i gysylltu â’n gweledigaeth gyda’n gilydd, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a phwrpas cymdeithasol. Byddwch yn adeiladu a meithrin perthnasoedd cryf â sefydliadau allweddol, yn lleol ac yn genedlaethol, i ehangu ein cyrhaeddiad a’n heffaith.

Byddwch yn defnyddio dull cynllunio ymlaen llaw gan gynhyrchu ymgyrchoedd cyfathrebu ac ymgysylltu integredig llwyddiannus gyda Phartneriaeth Ogwen, DEG, Yr Orsaf, Cwmni Bro, Plas Glyn-y-Weddw, Partneriaeth Dyffryn Peris ac eraill.

Y Swydd

Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu creadigol a threfnus gyda sgiliau gweithredu yn strategol sy’n yn gwerthfawrogi cymuned a’r amgylchedd i arwain, datblygu a chyflwyno cynllun cyfathrebu uchelgeisiol ac ystyrlon.

Byddwch yn gyrru gweledigaeth y sefydliad gyda’r tîm a’u cymunedau. Byddwch yn cynnal ‘llais GwyrddNi’ ac yn dilyn canllawiau ‘brand’ parod. Bydd eich profiad yn eich helpu i nodi cyfleoedd i wneud y mwyaf o ymgysylltiad allanol gan ddefnyddio eich cysylltiadau cyhoeddus a’ch cysylltiadau gyda’r cyfryngau. Byddwch yn defnyddio cymysgedd eang o sianeli cyfathrebu, gan gynnwys ffilm, y wasg, ein gwefan, cylchlythyrau a chyfryngau cymdeithasol, rhwydwaith posteru, papurau bro lleol a chyfryngau cenedlaethol. Byddwch hefyd yn gallu cynnal a recordio cyfweliadau difyr.

Mae hon yn rôl allweddol i dyfu Mudiad GwyrddNi. Ar y cyd â’r tim, byddwch yn ysbrydoli amrywiaeth eang o bobl i gymryd rhan, yn dathlu’r gwaith sy’n mynd rhagddo ac yn uchafu’r effaith o Greu Cymunedau Gwyrdd.

Swydd ddisgrifiad llawn

Gwneud cais

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r swydd hon, mae croeso i chi gysylltu â Rhian Cahill drwy e-bost yn y lle cyntaf, byddai hi’n hapus i drefnu galwad ffôn os hoffech chi: rhian@deg.cymru

Gwnewch gais trwy anfon CV i Rhian Cahill yn amlygu’r holl brofiad perthnasol a llythyr eglurhaol yn egluro pam rydych chi eisiau bod yn rhan o GwyrddNi a beth fyddwch chi’n ei ychwanegu at y mudiad. 

Dyddiad cau 4 Tachwedd 2025 am 11.30 yh.

Er gwybodaeth, os y byddwn yn eich gwadd i gyfweliad, dyma’r dyddiad: 13/11/2025.

Sut i wneud cais