Uwch-swyddog Rheoli Tir : Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyfarwyddiaethau: Gweithrediadau
Tîm: Tîm Rheoli Tir De Canolbarth Cymru
Lleoliad: Aberystwyth
Cyflog: £41,132 – £44,988
Patrwm gwaith: Llawn amser
Math o gytundeb: Parhaol
Dyddiad cau: 12/11/2025

Y rôl

A ydych chi’n barod i gael effaith barhaol ar rai o dirweddau naturiol mwyaf eiconig Cymru?

Rydym yn chwilio am Uwch-swyddog Rheoli Tir brwdfrydig a phrofiadol i arwain y gwaith o reoli tir yn gynaliadwy ar draws Mynyddoedd Cambria syfrdanol, gan ganolbwyntio ar rai o’n gwarchodfeydd natur cenedlaethol mwyaf gwerthfawr, gan gynnwys Cors CaronCoed Rheidol, a Rhos Llawr Cwrt. Mae hon yn rôl amrywiol ac ymarferol lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath, sy’n ddelfrydol ar gyfer unigolyn sy’n ffynnu mewn amgylchedd awyr agored dynamig ac sy’n cael ei ysgogi gan yr awydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fyd natur.

Byddwch yn gyfrifol am gynllunio ecolegol, cyflawni gwaith cadwraeth, a chydymffurfedd gyfreithiol ar draws ystod o safleoedd gwarchodedig. Ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, byddwch yn gweithio’n agos gyda’r tîm Gweithrediadau Coedwigaeth, gan gynnig cyngor arbenigol ar sut i reoli cynefinoedd sensitif, nodweddion hanesyddol, a rhywogaethau allweddol. Bydd eich gwaith yn helpu i sicrhau bod byd natur wrth wraidd penderfyniadau ynghylch defnyddio tir yn gynaliadwy.

O gynnal arolygon i ganfod a ydyw coed yn ddiogel ar hyd priffyrdd cyhoeddus i gynghori ar gyfyngiadau cadwraeth ar gyfer gwaith coedwigaeth, byddwch yn cyfuno meddwl strategol â gweithredu ymarferol. Byddwch yn goruchwylio contractwyr, yn cydweithio â thirfeddianwyr a chymunedau lleol, ac yn chwarae rhan ganolog wrth lunio sut mae ein tirweddau’n cael eu rheoli er bioamrywiaeth, gwytnwch, a budd y cyhoedd.

Mae hwn yn gyfle gwych i ecolegydd neu reolwr tir medrus sy’n barod i gamu i rôl arwain. Os ydych chi’n awyddus i gymhwyso’ch gwybodaeth lle mae’n wirioneddol bwysig—ar lawr gwlad, ynghanol natur—byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i un o swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn yr ardal / lleoliad uchod, a chytunir ar batrwm gweithio hybrid addas adeg eich penodi. Trefnir unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb ymlaen llaw. yn y rôl hon, bydd disgwyl i chi deithio i Tregaron.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Paul Dann at Paul.Dann@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.

Amdanom ni

Chi fydd yr arbenigwr i droi ato yn eich ardal leol, gan gydweithio’n agos â thîm o swyddogion technegol profiadol ac arweinydd tîm cefnogol i gyflawni canlyniadau pendant, ar lawr gwlad sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at flaenoriaethau amgylcheddol cenedlaethol.

Os ydych chi’n ffynnu yn yr awyr agored, yn mwynhau meithrin cydberthnasau cryf â thirfeddianwyr a rhanddeiliaid, ac yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o sut i gydbwyso cadwraeth natur â rheoli tir yn ymarferol, gallai hwn fod y cam nesaf delfrydol yn eich gyrfa.

Bydd gennych yr ymreolaeth i lunio deilliannau yn eich ardal, cefnogaeth tîm gwybodus, a’r boddhad o weld eich gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i dirweddau, bywyd gwyllt, a chymunedau.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Bod yn arweinydd technegol wrth ddatblygu’r tîm a chyflwyno cynigion ar gyfer cynllunio busnes.
  • Darparu cymorth technegol ar gyfer cynlluniau gwaith ehangach.
  • Lle y bo’n briodol, gweithredu fel arweinydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer materion technegol penodol.
  • Cymryd rhan yng ngrwpiau technegol / strategol CNC neu gynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru mewn fforymau allanol.
  • Rhyngweithio ag arbenigwyr eraill yn Cyfoeth Naturiol Cymru i hyrwyddo arfer gorau cyson yn y diwydiant.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau

  1. Profiad o weithio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau rheoli tir.
  2. Gwybodaeth a phrofiad helaeth o reoli cadwraeth, safleoedd dynodedig, a holl agweddau ar goedwigaeth, gan gynnwys atebolrwydd tir.
  3. Gwybodaeth am reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, Cynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Unedig a chynlluniau ardystio coedwigoedd.
  4. Sgiliau hyfforddi a mentora.
  5. Profiad o ymgysylltu â’r gymuned a gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd.
  6. Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â busnesau a reoleiddir a’r cyhoedd, gan esbonio materion cymhleth ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A1 – Lefel mynediad
  • Dymunol: C1 – Lefel hyfedredd

Gofynion y Gymraeg

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.

Sut i wneud cais